RECRIWTIO AELODAU I’R BWRDD

Mae Ffilm Cymru Wales yn edrych am aelodau ychwanegol i’r Bwrdd i hybu gwaith y corff datblygu sector entrepreneuraidd ac effeithiol hwn. Dylai’r ymgeiswyr rannu angerdd am sector ffilm yng Nghymru sy’n gynhwysol, yn barod i dyfu ac yn darparu gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol ledled Cymru. Bydd y dyddiadau cychwyn yn digwydd yn raddol drwy gydol y flwyddyn ac mae gennym ddiddordeb penodol i glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad ar lefel uchel yn y meysydd canlynol:

 

  • Busnes: yn cynnig profiad busnes a all gefnogi esblygiad Ffilm Cymru a chynnig dealltwriaeth o’r sector mewn perthynas ag adeiladu gwytnwch a’r potensial i dyfu;
  • Dealltwriaeth o’r farchnad: yn cynnig profiad o werthiant, dosbarthu a/neu ddatblygu’r farchnad;
  • Datblygu sgiliau’r sector: yn cynnig dealltwriaeth sylweddol o’r dirwedd sgiliau, hyfforddiant ac addysg, a ffyrdd i wella llwybrau, gallu’r sector a chynhwysiant cymdeithasol;
  • Datblygu polisi’r sector creadigol: yn cynnig dealltwriaeth ar lefel ddatganoledig, y DU a rhyngwladol, ac a all gyfarwyddo gwaith datblygu polisi ac eiriolaeth yn barhaus.  

 

Darllenwch y disgrifiad llawn yma

 

Dylai’r ceisiadau gael eu hanfon at sylw ein Cadeirydd, yr Athro Ruth McElroy d/o sion@ffilmcyrmruwales.com.

 

Y dyddiad cau yw 12 hanner dydd, dydd Gwener 6ed Rhagfyr.

 

I gael mwy o wybodaeth a gwybod sut i ymgeisio, cliciwch yma.

RECRUITMENT OF BOARD MEMBERS

 

Ffilm Cymru Wales is seeking additional Board members to further the work of this entrepreneurial and impactful sector development body. Applicants should share a passion for a Welsh film sector that is inclusive, fit for growth and provides social, cultural and educational value across Wales. We will be staggering appointment start-dates across the year and are particularly interested to hear from candidates with high-level experience in the following areas:

 

  • Business: offering business experience that can support Ffilm Cymru’s evolution and offer sectoral insights in building resilience and growth potential;
  • Market Insight: offering sales, distribution and/or market development experience;
  • Sector Skills Development: offering significant understanding of the skills, training and education landscape, and routes to improving pathways, sector capacity and social inclusion;
  • Creative Sector Policy Development: offering insights at devolved, UK and international level that can inform on-going policy development and advocacy.

 

Read the full description here.

 

Applications should be sent for the attention of our Chair, Professor Ruth McElroy c/o sion@ffilmcyrmruwales.com.

 

The deadline for applications is 12:00 PM, Friday the 6th of December 2019.

 

For more information and to find out how to apply, click here:

 

 

 

Views: 104

Comments are closed for this blog post

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service