Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) am recriwtio Rheolwr/wraig Codi Arian a Datblygu. Wedi ei ffurfio ym mis Hydref 2017, mae CCIC yn elusen nid er elw, gofrestredig a dyma’r sefydliad arweiniol sydd bellach yn gyfrifol am drosglwyddo’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol yn ogystal â datblygu rhaglen waith blwyddyn gron, gynaliadwy sydd hefyd yn helpu i hybu gwell mynediad i’r celfyddydau ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer codwr arian profiadol i ymuno â CCIC ar adeg o dwf sylweddol ac i gefnogi ein datblygiad parhaus. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredol (PSG), gan dderbyn cyfrifoldeb am drosglwyddo ein strategaeth codi arian newydd i ffurfio perthnasau newydd a rheoli rhai sy’n bodoli eisoes gyda sefydliadau ac ymddiriedolaethau maint bychan a chanolig. Bydd y rôl yn galw am berson sy’n fodlon gweithio’n annibynnol mewn modd hyblyg, gyda fawr ddim goruchwyliaeth.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebydd hyderus ac yn gallu datblygu perthnasau da yn fewnol ac yn allanol, er mwyn codi arian i gefnogi ein nodau ac amcanion strategol. Byddwch yn helpu i sicrhau bod trosglwyddiad y strategaeth codi arian yn arwain at well cynaliadwyedd i’r sefydliad a’n bod yn cyflawni targedau codi arian blynyddol fel rhan o agwedd wedi ei rheoli tuag at gynhyrchu incwm. Fel rhan o’ch rôl byddwch yn sicrhau bod codi arian oddi wrth sefydliadau ac ymddiriedolaethau’n gweithio’n effeithlon ochr-yn-ochr â strategaethau ennill incwm eraill, yn cynnwys rhoddion gan unigolion a nawdd

Gellir ffeindio'r pecyn swydd ar ein gwefan - https://www.nyaw.org.uk/careers

 

Sut i ymgeisio

 

I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich C.V. atom gyda llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol a’ch diddordeb yn y rôl. Dylid anfon ceisiadau trwy e-bost at nyaw@nyaw.org.uk

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ymgeisio gysylltu â’r PSG am sgwrs gyfrinachol, anffurfiol am y rôl trwy e-bostio gillianmitchell@nyaw.org.uk yn y lle cyntaf.  

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw Hanner Dydd ar Ddydd Llun 14 Hydref. Cysylltir â’r ymgeiswyr sydd wedi eu dethol i ddod am gyfweliad erbyn Dydd Mercher 16 Hydref.

Cynhelir y cyfweliadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Ddydd Llun 21 Hydref 2019. Aelodau’r panel cyfweld fydd Prif Swyddog Gweithredol CCIC, Gillian Mitchell, Marie Wood (CBCDC) ac un o Ymddiriedolwyr CCIC.

 

Views: 104

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service