Cyfle i aelodau TEAM! Gallwch chi fod y cyntaf i weld 'English' cyd-gynhyrchiad NTW a Quarantine.

Rydym yn falch iawn i'w gynnig tocynnau am ddim i aelodau TEAM i'r rhagolwg 'English' sioe newydd National Theatre Wales a Quarantine, i gael ei perfformio yn Dance House, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd fel rhan o Ŵyl y Llais 2018  Chanolfan Mileniwm Cymru 

Mae sioe newydd anhygoel National Theatre Wales a Quarantine yn gwahodd ei chynulleidfa i mewn i sgwrs am iaith gyda'r perfformiwr Jonny Cotsen - perfformiad a adeiladwyd allan o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd pan geisiwn siarad am sut i fyw gyda'i gilydd.  Mae'n  wedi'i ysbrydoli gan theatrigrwydd gwersi iaith, a thrafodaethau gydag ymfudwyr  sy'n dysgu Saesneg am bob math o resymau. Ar gyfer busnes, er pleser, i oroesi, i gymryd rhan, i basio'r prawf ... 

Bydd yr A i Z bywiog hwn o iaith a hunaniaeth - a wnaed yng Nghymru, ond â safbwynt byd-eang - yn dadansoddi caneuon pop, yn rhwygo gramadeg yn ddarnau ac yn rhoi llwyfan i’r  holl ieithoedd yn yr ystafell. Yn ddigwyddiad llawen, cynnil, pryfoclyd, mae English yn gofyn sut mae iaith yn ein llunio ni oll a’r hyn sy’n digwydd i’n hymdeimlad o’n hunain pan nad ydym mewn gwirionedd yn gwybod sut i ddweud pwy ydym ni.

Canllaw Oedran: 14+

Fydd y TEAM Social yn digwydd yn Dance House, Canolfan Mileniwm Cymru, 2pm ar Dydd Iau 14 Mehefin.

Fydd tocynnau am aelodau TEAM ac mae'r niferoedd yn gyfyngedig felly cystylltwch â ni yn fuan!

Os hoffech chi ymuno gyda ni at y sioe wych yma, ac am rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost at team@nationaltheatrewales.org 

Views: 187

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service