Yn galw cyfansoddwyr o bob math yng Nghymru

Dyddiad: 4ydd -8fed o Orffennaf


Lleoliad: The Other Room a  lleoladau o gwmpas Caerdydd a'r Cymoedd


Tal: Ffi Equity 


Dyddiad cau: Mai 25





Mae Leeway Productions yn annog ceisiadau gan  artistiaid anabl a byddar.


Yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, bydd Leeway Productions yn hwyluso digwyddiad 'Open Space' gyda ffocws pendant ar agor y drafodaeth am Theatr Gerdd yng Nghymru.


Daw 5 o ysgrifenwyr a 5 o gyfansoddwyr at ei gilydd am wythnos  i ddysgu wrth ei gilydd, creu, cydweithio a chyd awduro gwaith a thrafodaethau am y 'genre'.

 
Bydd cyfarwyddeb clir i archwilio ffurf, swyddogaeth yr artist greadigol, ac i ail ddychmygu arddull.

 
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Angharad Lee:

"Wedi'i ysbrydoli gan fy amser yn 'Opera Lab' gyda Den Jyske Opera yn Nenmarc, datblygwyd y brosiect hwn er mwyn roi gofod, amser, a'r cyfle i arbrofi i awduron a chyfansoddwyr theatr gerddorol newydd a sefydledig yng Nghymru. Pryd ydyn ni'n dod at ei gilydd ac yn gofyn cwestiynau newydd am 'genre' hwn?
Trwy greu amgylchedd o fannau agored, ein blaenoriaeth yw cydweithio, ymchwilio a dysgu parhaus wrth i ni anelu at gefnogi, nid cyfyngu. "


Mae'r digwyddiad hwn mewn partneriaeth â The Other Room, Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Sefydliad y Glowyr Coed Duon , Theatrau Rhondda Cynon Taf, Theatr y Sherman Theatre, The Stagecentre, The Talent Shack, Coleg Caerdydd a'r Fro.


Bydd y gwaith yn cael ei rannu yn The Other Room ar Orffennaf 8fed o flaen gynulleidfa wadd er mwyn annog trafodaethau a chydweithredu pellach.


Os hoffech chi gael ei ystyried anfonwch bywgraffiad a dolen i rai cyfansoddiadau i :

angharad@angharadlee.com erbyn 5pm, Mai 30

Views: 283

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service