Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol GALW am Ymarferydd Creadigol (Cerddoriaeth / Drama / Dawns ) Ionawr – Mawrth 2019

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol yr Eglwys yng Nghymru Llandrindod, Trefonnen yn chwilio am Ymarferydd Creadigol Cerdd / Drama / Dawns i ddatblygu a chyflawni prosiect creadigol gydag un deg saith o blant Blwyddyn 4 a 5 yn ffrwd Gymraeg yr ysgol.

 

Rhagwelir y bydd y prosiect yn digwydd yn ystod sesiynau dydd neu hanner dydd o Ionawr – Mawrth 2019 gyda gwerthuso i ddilyn ar ddechrau tymor yr Haf. Y ffi yw £250 am ddydd / £125 am hanner dydd, a chostau rhesymol. Mae’r nifer o ddyddiau sydd i’w clustnodi ar gyfer y prosiect i’w benderfynu ond ni fydd yn llai na 10.

 

Rhifedd
Dylai rhifedd fod yn ffocws i’r prosiect. Hoffai’r ysgol fesur effaith y prosiect ar: sgiliau rhifau yn enwedig, ymgysylltiad ac adeiladu hyder.

 

Actifedd
Dylai’r actifedd ganolbwyntio ar waith grŵp. Dylai o leiaf rhan o’r prosiect ddigwydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ar dir yr ysgol neu yn yr ardal amgylchynol, gyda chyfle i ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.

 

Byddwch

  • yn gweithio gyda’r ysgol gan ddod â syniadau newydd, ymagweddau ffres ac adnoddau ymgysylltiol at y bwrdd.
  • yn angerddol ac ymrwymedig, yn ogystal â meddu ar ymarferiad creadigol byw cymhellol.
  • yn ôl y disgwyl yn ysgogi ac ysbrydoli disgyblion drwy wneud dysgu yn fwy ystyrlon a dilys.
  • yn ddelfrydol yn gallu siarad Cymraeg neu byddwch yn arddangos parodrwydd i ymgysylltu â’r Gymraeg.

 

 

Am y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Nod y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yw hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio mewn ysgolion drwy ddatblygu rhaglen arloesol o ddysgu mewn cydweithrediad ag Ymarferwyr Creadigol, sydd wedi ei gynllunio i wella ansawdd addysgu a dysgu creadigol ac ymwreiddio’r ymarfer hwn oddi fewn i ysgolion.

 

 

 

Mewn Ysgolion Creadigol Arweiniol, mae disgyblion, athrawon ac unigolion creadigol proffesiynol yn cydweithio i gynllunio a gweithredu, prosiect neu brosiectau creadigol, myfyrio arnynt a’u gwerthuso. Mae’n hwyluso proses lle y mae’r holl bartneriaid yn cydweithio i ddatblygu’r dysgu ar y cyd. Mae’n ategu dysgu sy’n seiliedig ar ymholi, myfyrio parhaus a gwerthuso manwl, gan arwain at arfer cynaliadwy, wedi’i ymwreiddio.

 

Credwn nad yw creadigrwydd yn sgil sydd wedi’i gyfyngu i’r celfyddydau; yn hytrach, mae’n allu ehangach i gwestiynu, llunio cysylltiadau a mabwysiadu ymagwedd arloesol a dychmygus at ddatrys problemau.

 

 

Bydd yn ofynnol bod yr ymarferydd sy’n cael ei ddethol yn:

  • Ymgymryd â gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel sy’n angenrheidiol a darparu prawf o Yswiriant Atebolrwydd y Cyhoedd.
  • Gallu mynychu cwrs hyfforddi gorfodol YCA am ddeuddydd (oni bai bod yr ymgeisydd eisoes wedi mynychu hyfforddiant Ymarferydd Creadigol ar gyfer prosiect blaenorol Ysgolion Creadigol Arweiniol) gyda chostau teithio wedi eu talu.
  • Bydd Hyfforddiant PC yn digwydd ar 28 a 29 Tachwedd (Aberystwyth).
  • Bydd angen i Asiantaethau Creadigol cyfredol ymgymryd â hyfforddiant PC o un dydd yn unig ar 29 Tachwedd gyda chostau teithio wedi eu talu.

 

Sut i ymgeisio:

E-bostiwch ddogfen Word yn Saesneg (hyd at 2 dudalen A4) yn myfyrio ar sut y byddai eich profiad a’ch rhinweddau yn eich gwneud yn ymgeisydd addas ar gyfer y prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol, CV cyfredol a manylion dau ganolwr. A wnewch chi sicrhau eich bod yn cynnwys hyd at 3 delwedd (maint mwyaf 2MB yr un) a/ neu un ddolen briodol sy’n darlunio eich ymarfer creadigol cyfredol.

 

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 2 Tachwedd 5pm

 

  • Hysbysir ymgeiswyr ar y rhestr fer drwy e-bost erbyn dydd Mawrth 6 Tachwedd.

 

  • Cynhelir cyfweliadau ddydd Llun 12 Tachwedd.

Os cewch eich dethol ar gyfer cyfweliad, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno eich cais ac arddangos eich sgiliau / prosesau ar ffurf gweithdy byr / gweithgaredd byr gyda’r plant.

 

  • Yn ddelfrydol bydd Ymarferwyr Creadigol a benodir yn mynychu cyfarfod cynllunio yn yr ysgol ddydd Llun 19 Tachwedd.

 

Anfonwch eich cais drwy e-bost (neu unrhyw ymholiadau pellach) i :

Morag Colquhoun, Asiant Creadigol YCA morag@moragcolquhoun.com

Views: 143

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service