Cynnau Tân gan Rhian Staples. Sherman Cymru

Hawdd cynnau tan ar hen aelwyd, medd y dywediad ond yn groes i’r disgwyl nid dyma a geir yn nrama gyntaf Rhian Staples.

Enillodd Cynnau Tân y fedal ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, a hawdd gweld pam fod y sgript slic a doniol hon wedi plesio’r beirniaid.

Mae’r ddrama yn symud yn gyflym wrth inni ddilyn Sioned ac Aled sy’n cwrdd am y tro cyntaf ers ugain mlynedd a mwy ar orsaf drenau prysur. Yn groes i’r disgwyl, daw i’r amlwg nad cariad na serch na’u dymuniad i ailgynnau fflam y gorffennol yw’r rheswm dros eu cyfarfod. Yr hyn sy’n tynnu’r ddau at ei gilydd, serch hynny, yw dyhead tywyll sy’n cael ei ddatgelu’n raddol ac yn grefftus inni drwy sgript ofalus y dramodydd; mae’r ddau yn dymuno diweddu eu bywydau ac wedi dod ar draws ei gilydd ar hap wrth iddyn nhw chwilio ar-lein am bartner i gyflawni’r dasg hon gyda nhw.

Yn wir un o gryfderau’r ddrama yw’r modd mae’n llwyddo i ennyn ein chwilfrydedd wrth inni sylwi yn raddol nad yw popeth fel y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Mae popeth yn ei lle am noson o ramant ; y gwely moethus mewn gwesty crand yn y ddinas, y rhosod coch a’r champagne yn y mini fridge, ond anesmwytho sydyn a wna’r gynulleidfa wrth sylwi bod gan y ddau cynlluniau go wahanol ar gyfer y noson honno.

Rhaid canmol dawn Rhian Staples i blethu’r comedi a’r sinistr o ddechrau hyd at ddiwedd y ddrama, a’i gallu i wybod yr union adeg mae’r gynulleidfa angen seibiant o ddifrifwch yr olygfa sy’n araf ddatblygu o’u blaenau. Roedd clyfrwch y sgript a chymeriadu’r actorion yn ein gorfodi i chwerthin yn wyneb sefyllfa drychinebus y ddau gymeriad, a hynny yn ychwanegu at y teimlad o drasiedi a thristwch.

Rhaid rhoi clod i’r ddau actor Nia Roberts a Richard Elis a’r tîm cynhyrchu am lwyfannu’r ddrama mewn cwta bythefnos. Roedd portread Nia Roberts o wraig y meddwyn sy’n ei gweld hi’n anodd rhoi ei bys ar union reswm ei diflastod a’i dymuniad i farw yn hynod o lwyddiannus yn fy marn i gan iddi lwyddo fy nghythruddo ond eto ennyn fy nghydymdeimlad yn llwyr. Roedd perfformiad Richard Elis hefyd yn bwerus, ond teimlais ar adegau nad oedd y cymeriad hoffus a chwareus a welir yn y gwesty yn cyd-fynd â’r cymeriad a ddarlunnir rhwng pedwar wal ei gartref. Tybed a oedd angen datgelu ei natur dreisgar a bygythiol ychydig mwy? Er hyn, roedd yr edifar a welir ar ei wyneb yn sgil ei ffrwydrad sydyn yn erbyn Sioned yn dangos yn glir mai dyn sy’n gyflym i golli ei dymer, cyn edifarhau ar unwaith, yw Aled.

Llwyfannwyd Cynnau Tân fel rhan o gynllun RAW/AMRWD y Sherman sy’n rhoi cyfle i awduron newydd gyflwyno eu gwaith o flaen cynulleidfa, a heb os, roedd Cynnau Tân yn enghraifft wych o’r gwerth sydd mewn buddsoddi a datblygu talent newydd yng Nghymru.

Dyma oedd ymgais cyntaf Rhian Staples i ysgrifennu drama, ac rwy’n gobeithio y cawn sawl cyfle yn y dyfodol i weld mwy o’i gwaith ar lwyfan.

O ran Cynnau Tân, braf oedd gweld y Sherman yn llawn nos Sadwrn. Tybed os oes modd trefnu taith o amgylch Cymru? Yn sicr, byddai’r theatr Cymraeg yng Nghymru ar ei hennill o ganlyniad.

Views: 320

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service