Mae’n anghyffredin i gwmni cynnal dwy brosiect dilynnol sy’ mor debyg o ran thema a neges, ond sy’n cwbwl wahanol o ran sefydliad ac awyrgylch. Dyma yn union beth mae Theatr Genedlaethol wedi gwneud gyda cynhyrchiad newydd o Dyled Eileen. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Y Bont, gynhyrchiad safle sbesiffig yn Aberystwyth mis dwethaf, mae Theatr Genedlaethol yn parhau ar yr un trywydd gyda Dyled Eileen, ond yn ddod a’r gynhyrchiad i theatrau clud o gwmpas Cymru. Mae’r neges yn gallu cyrraedd pawb felly, ac mae hyn yn hollol bwysig.

Mae hanes Eileen a Trefor Beasley yn un enwog iawn, ond yn anffodus, mae’r hanes weithiau yn cael ei golli ymysg digwyddiadau neu ffigyrau gwahanol. Mae’n hanfodol felly ein bod ni fel cenedl yn cael ei atgoffa o’r pobl a’r digwyddiadau yma, ac ein bod ni’n talu parch i’w weithredrau nhw. 

Roedd Eileen Beasley, fel Rosa Parks i Gymru, yn fenyw bwysig iawn. Wrth gwrthod talu treth nes bod y gwaith papur yn cael ei gyfiethu i’r Gymraeg, disgynodd hi a’i theulu mewn i drafferth gyda’r cyngor, ond, yn glynu wrth ei safbwynt hi, ar ôl wyth flwyddyn, fe ddaeth canlyniad. O hynny ymlaen, fe ddarparwyd ffurflenni trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth adnabod yr hanes felly, mae’r ddrama yn clymu mewn i’r Bont yn digon cyfforddus, ac mae’r  gynhyrchiadau yn creu rhyw fath o uned hanesyddol, uned  sy’n ymchwilio gwahanol elfennau a safbwyntiau o sefydliad Cymdeithas Yr Iaith Cymraeg. 

Mae’r ddrama yn addasiad o waith Angharad Tomos. Wedi ei lwyfannu yn syml gyda set minimalistig, roedd cyfle i newid y set yn slic iawn mewn ffordd effeithiol. Gan defnyddio ceflun wal wen a addaswyd yn hawdd o ‘stafell fyw y Beasleys i mor bae Abertawe, roedd pob olygfa wedi’i chefnogi gyda lluniau chlir ac atgofus. Er bod y darn yn awgrymu taw efallai sioe un-fenyw ydyw, nid hynny yw’r achos. Gan defnyddio actores i bortreadu Eileen oedrannus, mae yna llinyn nostalgia i’r gynhyrchiad. Mae Rhian Morgan, fel Eileen hen, yn dilyn Eileen a Trefor ifanc o gwmpas y llwyfan, yn syllu arnynt yn hiraethus, yn ychwanegu haen mwy ddifyr i’r stori gyda’i sylwadau gwrtholygol a henffel. I wrthgyferbynnu gyda llonyddwch cymeriad hen Eileen, mae cymeriad Eileen yn ferch fferm ifanc (Caryl Morgan), llawn breddwydion a gobeithion. Yna mae Trefor (Ceri Murphy) yn ychwanegu mwy o egni eto, yn rhedeg o gwmpas y llwyfan, yn carlamu o’r llwyfan i sefyll ar sêt ymysg y gynulleidfa. Mae egni’r ddwy yn hollol nerthol,  ac yn bleser i wylio. Mae’r tri chymeriad yn rhannu’r llwyfan yn hawdd, yn triawd cryf a ddifyr.
Mae’r cynhyrchiad yn pryfoclyd, ac er bod y pwnc destun efallai braidd yn hen i rai, mae’n bwysig i gynnal cynhyrchiadau fel hyn yn y theatr, i anfarwoldebu’r enwogion yma sy’n bwysig iawn i ni fel wlad.



Views: 334

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Steve Dimmick on March 7, 2013 at 3:15

Bendigedig.  Diolch yn fawr Elin! ^SD

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service