Dylunydd ar gyfer Parti Perfformio TEAM NTW, Wrecsam

Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r parti yn Wrecsam yn digwydd ym mis Rhagfyr. 

Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!

Y diben? I gael gwell syniad o’r hyn sy’n bwysig i bobl Wrecsam, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'n gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. 

Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau.  Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Wrecsam ac mae angen i chi gymryd rhan! 

Rydym yn chwilio am Ddylunydd i fod yn rhan o'r Tîm Creadigol wrth ddatblygu  perfformiadau byr, wedi'u dyfeisio i annog sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad. 

Bydd angen i chi fod ar gael:

Dydd Llun 3ydd Rhagfyr

Dydd Mawrth 4edd Rhagfyr

Dydd Mercher 5ed Rhagfyr

Dydd Iau, 6ed Rhagfyr

Gan y bydd hyn yn digwydd yn Wrecsam, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan ddylunwyr yn yr ardal. Y ffi fydd £100 y dydd.

Byddai'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer ymgeisydd sy'n gweithio yn y celfyddydau sy'n dymuno datblygu ei arfer ymhellach.

 

Rolau, gofynion a chyfrifoldebau:

  • Blwyddyn o leiaf o brofiad yn y theatr a'r celfyddydau.
  • Profiad o ddylunio set a llwyfannu ar gyfer cynyrchiadau theatr mewn lleoliadau nad ydynt yn draddodiadol.
  • Dealltwriaeth o ddull ac ethos TEAM NTW.
  • Sicrhau y cynhelir safonau cynhyrchu uchel drwy gydol y cyfnod dylunio, ymarfer a pherfformio.
  • Rhagweithiol, llawn dychymyg, hyblyg a gallu cydweithio â'r tîm creadigol ehangach.
  • Glynu at bolisïau Iechyd a Diogelwch NTW.
  • Trwydded yrru lawn y DU o fantais.

 

I wneud cais, dylech anfon copi o'ch CV a llythyr eglurhaol, yn dweud wrthym yr hyn yr ydych yn credu y gallwch gyfrannu i'r rôl hon, ar heb fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4, at Naomi Chiffi i team@nationaltheatrewales.org erbyn canol dydd ar 22 Hydref.  Cynhelir cyfweliadau ar 7 Tachwedd yn Wrecsam.

Views: 118

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service