Four Nations Outdoor Arts Bursary - deadline 17th November

Four Nations Outdoor Arts Bursary

Application deadline:

Thursday 17th November at 5pm

 

Following the a successful tour this year, Articulture, in collaboration with Surge, are once again offering artists based in Wales the opportunity to apply for a bursary and artist development opportunity ‘Four Nations Outdoor Arts Bursary’

 

Full Details

Bursaries will be awarded to applicants from Scotland, England, Wales and Ireland. The aim is to create a selection of new outdoor arts pieces which will tour to festivals in all four nations in Summer 2023: Surge Festival (Scotland in partnership with Articulation), Spraoi (Ireland in partnership with ISACS), Green Man (Wales in partnership with Articulture) and Out There (England in partnership with Outdoor Arts UK).

 

The selected artists/companies will receive a budget of £5000 towards the creation of the proposed outdoor arts piece, professional mentoring from the festivals and each of the partnership networks and a four day residency at Ormidale House in rural Argyll, Scotland in January 2023. Travel, accommodation and per diems are provided for both the residency and the tour.

 

Requirements:

  • Present an idea for a new small-scale outdoor arts performance piece
  • Have between 1-3 performers in the piece (all artists must be confirmed by applicant before applying)
  • Be suitable for performance in urban and green field spaces
  • All performers must be available for the residency in Argyll between 22nd – 26th January 2023
  • All artists must be available for all four festivals:
  • 29 – 30th July (Surge Festival, Scotland)
  • 4th- 6th August (Spraoi Festival, Ireland)
  • 17th - 20th August (Green Man Festival, Wales)
  • 15th – 17th September (Out There Festival, England)

 

We will offer:

  • A structured residency in a rural location in Scotland plus professional mentoring from Surge, Out There, Spraoi Studios and Articulture in creation, producing, marketing and guerrilla filmaking
  • £5000 budget
  • £100 per day fee (per artist) at the festivals,
  • Travel, accommodation and per diems.

The Four Nations Bursary values diversity and promotes equality and inclusion. We welcome applications from people of all backgrounds and abilities, and encourage those from groups currently underrepresented in the outdoor arts.

Please note that the scale and reach of this project is dependent on certain funding outcomes

 

To apply:

 

For artists based in Wales, please email a short proposal (approx. 500 words) a short bio for each performer/collaborator (approx. 100 words each) to zoe@articulture-wales.co.uk

Your application can be in whichever format is most accessible for you – that could be the written word, a short video or a voice recording.

 

If you have any questions please feel free to contact Zoe Munn on zoe@articulture-wales.co.uk or phone / text / WhatsApp on 07939 052899

 

We’d love to hear about your idea before you apply and can support you in making your application – just get in touch asap and we can arrange a chat

 

For artists based in England contact jacob@outtherearts.co.uk

For artists based in Scotland contact alan@surge.scot

For artists based in Ireland contact info@spraoi.com

The Welsh application deadline is 5pm on Thursday 17th November

                                 Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl

Dyddiad cau:

Dydd Iau 17 Tachwedd am 5pm

 

Yn dilyn y daith lwyddiannus eleni, mae Articulture, mewn cydweithrediad â Surge, unwaith eto yn cynnig cyfle i artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i wneud cais am fwrsariaeth a chyfle i ddatblygu artistiaid ‘Bwrsari Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Cenedl’.

 

Manylion Llawn

 

Bydd y bwrsarïau yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Y nod yw creu detholiad o ddarnau celf awyr agored newydd a fydd yn teithio i wyliau ym mhob un o’r pedair cenedl yn ystod haf 2023: Gŵyl Surge (yr Alban mewn partneriaeth ag Articulation), Spraoi (Iwerddon mewn partneriaeth ag ISACS), y Dyn Gwyrdd (Cymru mewn partneriaeth ag Articulture) ac Out There (Lloegr mewn partneriaeth ag Outdoor Arts UK).

 

Bydd yr artistiaid/cwmnïau a ddewisir yn cael cyllideb o £5000 tuag at greu’r darn o gelf awyr agored arfaethedig, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o rwydweithiau’r bartneriaeth, a phreswyliad pedwar diwrnod yn Ormidale House yng nghefn gwlad Argyll, yr Alban ym mis Ionawr 2023. Darperir costau teithio, llety a per diem ar gyfer y cyfnod preswyl a'r daith.

 

Gofynion:

  • Cyflwyno syniad ar gyfer darn o gelf awyr agored newydd ar raddfa fach
  • Rhwng 1-3 perfformiwr yn y darn (rhaid i bob artist gael ei gadarnhau gan yr ymgeisydd cyn gwneud cais)
  • Bod yn addas ar gyfer perfformio mewn mannau trefol a meysydd glas
  • Rhaid i bob perfformiwr fod ar gael ar gyfer y preswyliad yn Argyll (22 - 26 Ionawr 2023)
  • Rhaid i’r holl artistiaid fod ar gael ar gyfer y pedair gŵyl:

o  29 - 30 Gorffennaf (Gŵyl Surge, yr Alban)

o  4 - 6 Awst (Gŵyl Spraoi, Iwerddon)

o  17 - 20 Awst (Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cymru)

o  15 - 17 Medi (Gŵyl Out There, Lloegr)

 

Byddwn yn cynnig:

  • Preswyliad strwythuredig mewn lleoliad gwledig yn yr Alban ynghyd â mentora proffesiynol gan Surge, Out There, Spraoi Studios ac Articulture mewn creu, cynhyrchu, marchnata a gwneud ffilmiau gorila.
  • Cyllideb o £5000
  • Ffi o £100 y dydd (fesul artist) yn y gwyliau
  • Costau teithio, llety a per diem.

 

Mae Bwrsariaeth y Pedair Cenedl yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu, ac yn annog y rheini o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn y celfyddydau awyr agored.

 

Noder: mae maint a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn dibynnu ar ganlyniadau ariannu penodol.

 

I wneud cais:

 

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, e-bostiwch gynnig byr (tua 500 gair) a bywgraffiad byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithiwr (tua 100 gair yr un) i:

zoe@articulture-wales.co.uk.

 

Gall eich cais fod ym mha bynnag fformat sydd fwyaf hygyrch i chi - gallai hynny fod yn y gair ysgrifenedig, fideo byr neu recordiad llais.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Zoe Munn trwy zoe@articulture-wales.co.uk neu ffoniwch / anfonwch neges destun / WhatsApp i 07939 052899

 

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich syniad cyn i chi wneud cais a gallwn eich cefnogi i wneud eich cais - cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a gallwn drefnu sgwrs

 

Ar gyfer artistiaid yn Lloegr anfonwch neges i jacob@outtherearts.co.uk

Ar gyfer artistiaid sydd wedi’u lleoli yn yr Alban anfonwch neges i alan@surge.scot

Ar gyfer artistiaid sydd wedi'u lleoli yn Iwerddon cysylltwch â info@spraoi.com

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o Gymru yw 5pm ar ddydd Iau 17 Tachwedd

Views: 128

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service