Galw am bypedwyr ar gyfer Meet Fred, cynhyrchiad Hijinx ar y cyd â Blind Summit.

Mae pyped clwt yn ymladd rhagfarn bob dydd. Unig ddymuniad Fred yw bod yn rhan o’r byd go iawn, cael swydd a chwrdd â merch, ond pan yw’n wynebu’r bygythiad o golli ei LBP (Lwfans Byw Pypedwaith) mae bywyd Fred yn dechrau ffrwcsio’n lân ac yntau’n colli rheolaeth ar y bywyd hwnnw.

Sioe theatr i oedolion gyda phyped fel ei phrif gymeriad yw Meet Fred. Caiff y sioe ei pherfformio gan gast o 7:3 pypedwr bunraku sy’n rheoli Fred a 4 actor, 3 ohonynt yn artistiaid sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth. 

Bu'r sioe yn llwyddiant ysgubol yn yr Edinburgh Festival Fringe yn 2016, gyda phob perfformiad yn llawn hyd yr ymylon ac mae Meet Fred wedi bod yn teithio'r byd ers hynny. Hyd yn hyn cafodd ei pherfformio dros 200 o weithiau, mewn 109 o ddinasoedd ar draws 17 o wledydd ar 3 o gyfandiroedd ac mae'r galw mawr am y sioe yn parhau. Felly, rydym yn chwilio am bypedwyr Bunraku profiadol ar gyfer cyfleoedd teithio rhyngwladol parhaus yn nhymor yr Hydref 2019 ac i mewn i 2020. 

Pypedwr Bunraku - Pen Gwryw - 25+ oedMae'r pypedwr pen yn rheoli pen a braich chwith Fred, ef yw llais Fred.Mae profiad o bypedwaith bunraku ar y pen yn hanfodol.Trwydded yrru lân gyflawn yn ddymunol ynghyd â’r hyder i yrru y tu allan i'r DU.Ar gael i fynd ar daith yn nhymor yr Hydref 2019. 

Pypedwyr Bunraku – Cefn/Traed Heb fod yn rhyw benodol.Profiad o bypedwaith bunraku yn ddymunol.Mae'r rolau hyn yn cael eu castio ar gyfer Hydref 2019 ar hyn o bryd; er hynny mae gennym ddiddordeb mewn cynyddu ein cronfa o bypedwyr posibl ar gyfer teithiau yn y dyfodol.Trwydded yrru lân gyflawn yn ddymunol ynghyd â’r hyder i yrru y tu allan i'r DU.Wedi’ch lleoli yng Nghaerdydd os yn bosib.

Dyddiadau taith 2019 

23ain – 28ain Medi Caerdydd: ymarferion a pherfformiadau (Iau, Gwener, Sadwrn) yn Theatr y Sherman

01-07 Hyd Tsieina *** I'w gadarnhau ***

10-13 Hydref Budapest, Hwngari

19-21 Hydref Brunswick, yr Almaen

10-13 Tachwedd Neuchatel, Y Swistir

15-20 Tachwedd Gothenburg, Sweden

 

Sylwer, os ydych ar gael, efallai y bydd angen i chi rannu’r gyrru gyda'n technegydd ar gyfer un rhan o’r daith y naill ochr neu’r llall i fwciadau. 

Cynhelir clyweliadau ar 15fed Gorffennaf yng Nghaerdydd.Yn anffodus ni allwn gynnig talu treuliau am fynychu clyweliadau.Oherwydd bod oedolion sy'n agored i niwed yn aelodau o'r cast, bydd gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn un o amodau'r swydd.

Mae Hijinx yn Rheolwyr Moesegol ITC. 

Taliad:

Wythnos lawn (4-6 diwrnod) - £510

Rhan o wythnos (hyd at 4 diwrnod) - £100 y dydd

Darperir yr holl deithio, llety, lwfans dyddiol (neu brydau lle bo'n briodol) 

I wneud cais, anfonwch eich proffil Spotlight neu CV perfformio cyfredol at ellis.wrightbrook@hijinx.org.uk erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21ain Mehefin ynghyd â chyflwyniad e-bost byr yn nodi pa rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi. 

Cysylltir â phob ymgeisydd erbyn 28ain Mehefin. Os cewch eich gwahodd i glyweliad, cynhelir gweithdy grŵp 45 munud yn y bore ar gyfer pawb fydd yn cael clyweliad, a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan berfformiadau unigol o ddarn byr o'r sgript, gyda Fred, ochr yn ochr ag un o'n hactorion. Darperir detholiadau o’r sgript cyn y clyweliad. Yna, bydd galwadau yn ôl yn digwydd yn y prynhawn ar gyfer cyfweliad byr. 

Cynhelir y gweithdai a’r clyweliadau gyda'r Cyfarwyddwr Ben Pettitt-Wade ac aelodau'r cast.Cynhelir y cyfweliadau gyda'r Cyfarwyddwr, Ben Pettitt-Wade a'r Cynhyrchydd, Ellis Wrightbrook.

Views: 165

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service