MAE GRŴP THEATR GYMUNEDOL SYDD Â’I BENCADLYS YNG NGHAERDYDD YN CASTIO AR GYFER EI SIOE NADOLIG!


Ydych chi’n frwd am berfformio?

Mae Odyssey Hijinx, grŵp theatr gymunedol sefydledig ar gyfer perfformwyr sydd ag anableddau, a heb anableddau, yn recriwtio cywion actorion i ymuno â'i rengoedd ar gyfer y cynhyrchiad Nadolig eleni, sef Second Star to the Right yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (30 Tach -2 Rhagfyr 2017).

Sefydlwyd Odyssey, braich gymunedol cwmni theatr proffesiynol Hijinx, ym 1999 ar gyfer pobl o bob gallu sy’n frwd am berfformio. Heddiw, mae Odyssey yn dod â chymysgedd unigryw o berfformwyr o bob oedran (18+) at ei gilydd ac mae'n enwog am ei ymdeimlad o deulu. Mae ei sioeau yn rhoi llwyfan i gast o berfformwyr brwdfrydig, talentog ac yn cael eu cynhyrchu gan dîm proffesiynol o gyfarwyddwyr, dylunwyr a staff cynhyrchu.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am berfformwyr gydag a heb anableddau i ymuno â’r grŵp ar gyfer Second Star to the Right dilyniant dychmygus Llinos Mai i 'Peter Pan' gan JM Barrie (trwy ganiatâd caredig Ysbyty Great Ormond Street). Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cael clyweliad ac os byddwch ar gael ar gyfer ymarferion yn unol â'r amserlen isod, hoffem glywed oddi wrthych.

AMSERLEN YMARFER
Ymarferion wythnosol: bob nos Lun, rhwng 7-9pm, Bae Caerdydd
Y Cynhyrchiad - Penwythnos 1: 18fed a 19eg Tachwedd, Canolfan Mileniwm Cymru
Y Cynhyrchiad - Penwythnos 2: 25ain a 26ain Tachwedd, Canolfan Mileniwm Cymru
Wythnos y Cynhyrchiad: 27ain Tachwedd – 2il Rhagfyr (nosweithiau), Canolfan Mileniwm Cymru
Perfformiadau: 30ain Tachwedd, 1af ac 2il Rhagfyr, 7pm; 2il Rhagfyr, 3pm, Canolfan Mileniwm Cymru

Cynhelir y clyweliadau ar ddydd Llun 11eg Medi 2017. I gofrestru er mwyn cael clyweliad, anfonwch e-bost at jon.kidd@hijinx.org.uk os gwelwch yn dda, a bydd mwy o fanylion yn cael eu hanfon atoch. Cofiwch gynnwys paragraff (dim mwy na 100 o eiriau) yn amlinellu eich profiad perfformio hyd yma.

Am ragor o wybodaeth am Odyssey ewch i: www.hijinx.org.uk/odyssey

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych chi!

__________________________________________________________________________________


O dan 18 oed ond yn hoffi perfformio yn fawr? Cysylltwch ag amy.griggs@hijinx.org.uk i gael mwy o wybodaeth am Telemachus, ein cwmni perfformio cymunedol, cynhwysol ar gyfer pobl 16-24 oed.

Views: 213

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service