GO TELL THE BEES - CASTING

 

Over the last four years National Theatre Wales has been embedded in the communities of Pembrokeshire, West Wales, working with the people of the county on creative projects exploring climate change and the environment.

 

This Spring, the work is culminating in Go Tell The Bees, a new short film for families, co-created with the Pembrokeshire community, that will tell a moving story of our human connection to nature and to each other. Our story follows Dryw, a young boy on a journey to find out what the future holds, meeting people along the way.

 

We’re casting the following roles, each of which will connect with the director and rehearse from home, via Zoom, followed by rehearsal and filming on location in Pembrokeshire.

 

YWEN, a man, 60 – 80

 

Ywen, is the Gardener, he's wise and charming. He knows the joy of getting your hands dirty and the patience of waiting for new growth. He imparts sage advice to our young protagonist and gifts him a seed to take on his journey.

 

ZEPHYR, a woman, 40 - 60

 

We meet Zephyr in the forest. She's wary and poised. She has an affinity with the birds and teaches Dryw about them.

 

A performer who is fluent, learning or familiar with Welsh is desirable, as Zephyr delivers a short part of her story in Welsh.

 

Engagement:

 

Production dates: Each engagement will be 4 days, including online prep and rehearsal, and work in-person on location, to be scheduled between 22nd March and 11th April 2021.


Production location:
Pembrokeshire, West Wales


Directors:
Naomi Chiffi and Sita Thomas

 

Each performer will deliver a monologue to camera, on location in Pembrokeshire. All activity will be outdoors and socially distanced.

 

Each artist will be engaged for 4 days, to include online prep and rehearsal and filming on location. A day rate of £100, plus usage for non-commercial streaming and screening of the film will be offered. If required, travel or accommodation will be provided.

National Theatre Wales Casting Policy

 

When possible and appropriate, NTW considers and casts performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.

We are committed to casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

 

To suggest yourself or your client for a role or find out more please contact Mawgaine this week (commencing 8th March). If you’re shortlisted she’ll provide self-tape material asap.

Mawgaine@nationaltheatrewales.org

 

GO TELL THE BEES - CASTIO

 

Dros y pedair blynedd diwethaf mae National Theatre Wales wedi ei ymgorffori yng nghymunedau Sir Benfro, Gorllewin Cymru, gan weithio gyda phobl y sir ar brosiectau creadigol sy'n archwilio newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd.

 

Y gwanwyn hwn, daw penllanw'r gwaith gyda Go Tell the Bees, ffilm fer newydd i deuluoedd, a gyd-grëwyd â chymuned Sir Benfro, a fydd yn adrodd stori deimladwy am ein cysylltiad dynol â natur ac â'n gilydd. Mae ein stori yn dilyn Dryw, bachgen ifanc ar daith i ddarganfod beth sydd i ddod yn y dyfodol, gan gwrdd â phobl ar hyd y ffordd.

 

Rydym yn castio'r rolau canlynol, y bydd pob un ohonynt yn cysylltu â'r cyfarwyddwr ac yn ymarfer gartref, trwy Zoom, ac yna'n ymarfer a ffilmio ar leoliad yn Sir Benfro.

 

YWEN, dyn, 60 - 80

 

Ywen yw'r Garddwr, mae'n ddoeth ac yn ddymunol. Mae'n gwybod am lawenydd cael eich dwylo'n fudr ac amynedd aros am dwf newydd. Mae'n rhoi cyngor doeth i'n prif gymeriad ifanc ac yn rhoi hedyn iddo fel anrheg i fynd ar ei daith.

 

ZEPHYR, menyw, 40 - 60

 

Rydym yn cwrdd â Zephyr yn y goedwig. Mae hi'n wyliadwrus ac yn hunanfeddiannol. Mae ganddi gysylltiad â'r adar ac mae'n dysgu Dryw amdanynt.

 

Byddai perfformiwr sy'n rhugl yn y Gymraeg, yn ei dysgu neu'n gyfarwydd â'r iaith yn ddymunol, gan fod Zephyr yn cyflwyno rhan fer o'i stori yn Gymraeg.

 

Cyfnodau gwaith:

 

Dyddiadau'r cynhyrchiad: Bydd pob cyfnod am 4 diwrnod, gan gynnwys paratoi ac ymarfer ar-lein, a gwaith yn bersonol ar leoliad, i'w trefnu rhwng 22 Mawrth ac 11 Ebrill 2021.


Lleoliad y cynhyrchiad:
Sir Benfro, Gorllewin Cymru


Cyfarwyddwyr:
Naomi Chiffi a Sita Thomas

 

Bydd pob perfformiwr yn cyflwyno monolog i'r camera, ar leoliad yn Sir Benfro. Bydd yr holl ffilmio yn yr awyr agored ac yn dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol.

 

Bydd pob artist yn gweithio am 4 diwrnod, yn cynnwys paratoi ar-lein ac ymarfer a ffilmio ar leoliad. Cynigir cyfradd ddyddiol uwchlaw isafswm Equity, ynghyd â defnydd ar gyfer ffrydio a sgrinio'r ffilm yn anfasnachol. Os bydd angen, darperir teithio neu lety.

Polisi Castio National Theatre Wales

 

Lle y bo'n bosibl ac yn briodol, mae NTW yn ystyried ac yn castio  perfformwyr sy'n Gymry, sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru.

Mae NTW yn ymrwymedig i gastio'n gynhwysol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru yn ddilys.

 

I awgrymu eich hun neu'ch cleient ar gyfer rôl neu i gael gwybod rhagor, cysylltwch â Mawgaine yr wythnos hon (yn dechrau 8 Mawrth). Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, bydd hi'n darparu deunydd hunan-dapio cyn gynted â phosib.

Mawgaine@nationaltheatrewales.org

 

 

 

 

 

Views: 238

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service