"I’m really interested to see how the play sits in the current world" Matthew Bulgo - Constellation Street

Please tell us about the play, and what it is about

Constellation Street takes place over the course of one night in Cardiff, between midnight and dawn. It follows the story of four characters - a pub landlady, a taxi driver, a school teacher and a young girl - who are all stuck in their own personal purgatories. Their past actions are weighing on them heavily and they’re desperate to find a way of moving forward. This one particular night their paths happen to clash and interweave. The play is set during the night because that’s the time when the world is most quiet and still and they have the time and space to pick over the bones of their past actions.

Has the play changed given the current circumstances? How?

 

I’m really interested to see how the play sits in the current world. When it was first produced in 2016, I remember it was a remarkably hot spring and there was a real optimism and vibrancy in the air in Cardiff. The national football team were just about to embark on a very successful campaign in the Euros, David Cameron (remember him?) was still Prime Minister and we were still living in a world where Brexit and all the chaos that has followed was yet to happen, and Barack Obama was still the leader of the free world. It felt strange to be staging a dark and brooding play in such relatively upbeat times but people seemed to enjoy it.

I re-read an essay by the American theatre practitioner Anne Bogart recently about ‘Context’. It’s an essay that’s really stayed with me over the years. She talks about a production called ‘Radio Play’ which was a staged version of Orson Welles’ ‘War of The Worlds’ produced by her theatre company in the early 2000s. The production was touring and receiving healthy audiences. Then 9/11 happened. Suddenly audiences were watching the play through a totally different lens because of this tragedy that happened on their home soil. The images in Welles’ story - images of smoke filled streets, of citizens running for their lives, of mass panic, of an enemy on domestic soil - resonated in a whole different way. The show continued its tour post-9/11 despite many theatres wanting to pull it for fear its content would be too close to the bone. In fact, audiences flocked in their droves. They wanted to gather together and grieve, they wanted to discuss and understand, they wanted community and they wanted catharsis.

In Constellation Street, the characters are all in limbo, they’re in mental ‘lockdown’, their world is quiet and still and that gives them time to reflect on the past and hope for the future. I hope that some of those things resonate at a slightly different frequency for  audiences this time around. That said, I’ve been writing long enough to know I should never second guess what an audience is going to make of something!

How did you approach having to re-stage the play, in our new circumstance? What was challenging / easy about this?

I’ve not been involved in rehearsals at all this time around. I popped into a little meet-and-greet this week to say hello to the cast and creative team and then left them to their own devices. I’m absolutely thrilled with the team that’s been assembled to work on the reading. I’m a huge fan of all four of the cast members, it’s been great working with the director Dan Jones again and when I heard that Tic Ashfield was going to be rustling up a sonic world for the reading that was the real cherry on the cake. I’m sure finding a way of re-staging it in these current times has come with it’s challenges but I’ve left that to Dan! We’ve worked together quite a few times now and he directs with real clarity, sensitivity and grace. I trust that he’s made some astute choices. I’ve purposely not re-read the play over the past few weeks, in fact I’ve not read it in it’s entirety since we rehearsed it in 2016, so I’m looking forward to sitting down on Saturday night and doing that thing that we’ve all been doing for millennia - gathering around the campfire (for ‘campfire’ read ‘screen’) and listening to some stories.

///

Dywedwch wrthym am y ddrama, a beth yw'r pwnc

 

Bydd Constellation Street yn digwydd dros un noson yng Nghaerdydd, rhwng hanner nos a gwawr. Mae'n dilyn stori pedwar cymeriad - sef perchennog tafarn, gyrrwr tacsi, athro ysgol a merch ifanc - sydd i gyd yn sownd yn eu purdanau personol eu hunain. Mae eu gweithredoedd yn y gorffennol yn pwyso arnyn nhw'n drwm ac maen nhw'n daer am ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen. Ar yr un noson arbennig hon, mae eu llwybrau'n digwydd gwrthdaro a rhyngblethu. Mae'r ddrama wedi'i gosod yn ystod y nos oherwydd dyna'r adeg pan mae'r byd yn fwyaf tawel a llonydd ac mae ganddyn nhw'r amser a'r lle i ddadansoddi eu gweithredoedd yn y gorffennol.

 

A yw'r ddrama wedi newid o ystyried yr amgylchiadau presennol? Sut?

 

Mae gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae'r ddrama'n eistedd yn y byd sydd ohoni. Pan gafodd ei chynhyrchu am y tro cyntaf yn 2016, rwy'n cofio ei fod yn wanwyn hynod o boeth ac roedd optimistiaeth a bywiogrwydd gwirioneddol yn yr awyr yng Nghaerdydd. Roedd y tîm pêl-droed cenedlaethol ar fin cychwyn ymgyrch lwyddiannus iawn yn yr Euros, roedd David Cameron (cofio ef?) yn dal yn Brif Weinidog ac roeddem yn dal i fyw mewn byd lle'r oedd Brexit a'r holl anhrefn sydd wedi dilyn heb ddigwydd eto, ac roedd Barack Obama yn arweinydd y byd rhydd. Roedd yn teimlo'n rhyfedd ein bod yn llwyfannu drama dywyll a meddylgar mewn cyfnod mor gymharol gadarnhaol ond roedd pobl i'w gweld yn ei mwynhau.

 

Ailddarllenais draethawd gan yr ymarferwr theatr Americanaidd Anne Bogart yn ddiweddar am 'Gyd-destun'. Mae'n draethawd sydd wir wedi aros gyda mi dros y blynyddoedd. Mae'n sôn am gynhyrchiad o'r enw 'Radio Play' a oedd yn fersiwn lwyfan o 'War of the Worlds' gan Orson Welles a gynhyrchwyd gan ei chwmni theatr ar ddechrau'r 2000au. Roedd y cynhyrchiad yn teithio ac yn derbyn cynulleidfaoedd iach. Yna digwyddodd 9/11. Yn sydyn roedd cynulleidfaoedd yn gwylio'r ddrama drwy lens hollol wahanol oherwydd y drasiedi hon a ddigwyddodd ar eu tir hwy. Roedd y delweddau yn stori Welles - delweddau o strydoedd llawn mwg, o ddinasyddion yn rhedeg am eu bywydau, o banig torfol, o elyn ar diroedd domestig - yn eu taro mewn ffordd gwbl wahanol. Parhaodd y sioe ar ei thaith ar ôl 9/11 er bod llawer o theatrau eisiau ei thynnu rhag ofn y byddai ei chynnwys yn rhy gignoeth. Mewn gwirionedd, roedd cynulleidfaoedd yn heidio i'w gweld. Roedden nhw am gasglu ynghyd a galaru, roedden nhw eisiau trafod a deall, roedden nhw eisiau cymuned ac roedden nhw eisiau catharsis.

 

Yn Constellation Street, mae'r cymeriadau i gyd mewn limbo, maen nhw mewn 'cyfyngiad' meddyliol, mae eu byd yn dawel ac yn llonydd ac mae hynny'n rhoi amser iddyn nhw fyfyrio ar y gorffennol a gobeithio am y dyfodol. Gobeithio bod rhai o'r pethau hynny'n atseinio mewn ffordd ychydig yn wahanol i gynulleidfaoedd y tro hwn. Wedi dweud hynny, rwyf wedi bod yn ysgrifennu'n ddigon hir i wybod na ddylwn byth geisio dyfalu beth fydd barn cynulleidfa am rywbeth!

 

Sut aethoch chi ati i ail-lwyfannu'r ddrama, yn ein hamgylchiadau newydd? Beth oedd yn heriol/yn hawdd am hyn?

Dydw i ddim wedi cymryd rhan mewn ymarferion o gwbl y tro hwn. Fe wnes i alw heibio seiswn cwrdd a chyfarch yr wythnos hon i ddweud helo wrth y cast a'r tîm creadigol ac yna eu gadael i fwrw ymlaen. Rwyf wrth fy modd gyda'r tîm sydd wedi cael ei gynnull i weithio ar y darlleniad. Rwy'n ffan enfawr o bob un o'r pedwar aelod o'r cast, mae wedi bod yn wych gweithio gyda'r cyfarwyddwr Dan Jones eto a phan glywais fod Tic Ashfield yn mynd i greu byd sonig ar gyfer y darlleniad roedd hynny'n goron ar y cyfan. Rwy'n siŵr bod dod o hyd i ffordd o'i ail-lwyfannu yn yr amseroedd presennol hyn wedi bod yn heriol ond rwyf wedi gadael hynny i Dan! Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd sawl gwaith erbyn hyn ac mae'n cyfarwyddo â gwir eglurder, sensitifrwydd a gosgeiddrwydd. Rwy'n hyderus ei fod wedi gwneud rhai dewisiadau craff. Rwyf yn fwriadol wedi peidio ag ailddarllen y ddrama dros yr wythnosau diwethaf, yn wir, dydw i ddim wedi'i darllen yn ei chyfanrwydd ers i ni ei hymarfer yn 2016, felly rwy'n edrych ymlaen at eistedd i lawr nos Sadwrn a gwneud y peth hwnnw yr ydym i gyd wedi bod yn ei wneud ers milenia - casglu o gwmpas y tân gwersylla (ar gyfer 'campfire' gweler 'screen') a gwrando ar straeon.

Views: 104

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service