Improvisational Story-Telling Workshop and Audition with Theatr Iolo and Ellen Groves (Platfform)

AUDITION WORKSHOP WITH THEATR IOLO’S PLATFFORM PROGRAMME

 

Performers! Interested in improvisational story-telling, devising, comedy and creating theatre for young audiences? If the answer is yes, you should probably carry on reading…

(Welsh language version is below)

 

DATE:         Saturday 19th and Sunday 20th March

LOCATION: Stiwdio at Chapter Arts Centre, Cardiff

TIME:            10am – 4pm (both days)

 

As part of her Platfform project theatre-maker Ellen Groves is researching and developing a show about birthday parties. For and with 5 – 9 year olds and produced by Theatr Iolo as part of Platfform. Ellen is now looking for an ensemble of 3 – 4 performers to join her on this mission and to work with her to devise and develop ideas over the next few months. She will be using this two-day workshop as an informal audition opportunity to find those artists.

This two-day audition workshop, led by story-teller Jon Dafydd-Kidd, is an invitation to performers interested in joining Ellen to learn more about this area of performance.

 

You can find out more about Ellen and the Platfform programme here: http://goo.gl/fj4Hfc

And on the blog, here: http://platfform.cymru ;

 

There is a maximum of 15 places available. To book your place please send your professional CV and information (no longer than a paragraph) on why you would like  to attend to Platfform Producer Olivia Harris at olivia@theatriolo.com.

 

What will happen over the two days?

 

In this practical two-day audition workshop, participants will learn more about and develop their understanding and skills in improvisational story-telling. Participants will also learn improvisational comedy techniques, all in the context of making theatre for young audiences. The two days will be structured to build skills and try things out in improvisational story-telling on day one before looking at this in the context of comedy theatre on day two. For this reason, participants need to be available for both days.

 

The only thing participants need to bring is a bottle of water and comfortable clothes to move around in.

 

The workshop will be led by improvisational storyteller Jon Kidd. Here’s a bit more information about Jon:

 

Jon has a keen interest in exploring new routes to creating stories, a large part of which is truly remaining open to ideas that might lead you on a journey you could never have envisaged yourself. Story creation has become a world of bizarre and wonderful possibilities to play with as each retelling changes, and pushes us in new directions.

 

Having trained as a musician in Edinburgh, Jon’s focus on participatory performing arts has grown through his steep transition into theatre. Working with organisations such as National Youth Theatre Wales, Hijinx Theatre (Cardiff), Flying Cloud Theatre (London/York) and Taking Flight Theatre (Cardiff), Age Cymru - cARTrefu and most recently launching his own company Commusication, he has continued to grow and develop his practice through working with diverse groups.

 

Who can Attend?

 

This audition workshop is open to performers and artists with some experience in any of the following areas:

  • Improvisation
  • Story-telling
  • Devising
  • Comedy
  • Creating theatre for young audiences

Ellen will be working on the project between April – July (exact dates TBC) so selected performers will need to have some availability during this time. The project will be taking place in Cardiff, predominately at Chapter Arts Centre.

 

NOTES:

*If you fancy being a part of the workshop but are not interested in being part of the ensemble, that’s fine too! Just make sure you let us know beforehand.

*Should you be selected from the workshop to join the birthday party team you will be paid a standard fee once the project starts.

**

GWEITHDY CLYWELIADAU GYDA RHAGLEN PLATFFORM THEATR IOLO

 

Berfformwyr! Oes gennych chi ddiddordeb mewn adrodd straeon byrfyfyr, comedi a chreu theatr i gynulleidfaoedd ifanc? Os felly, efallai y dylech ddarllen ymlaen …

 

DYDDIAD:       Dydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Mawrth

LLEOLIAD:       Stiwdio yng Nghanolfan  Chapter, Caerdydd

AMSER:           10am – 4pm (ar y ddau ddiwrnod)

 

Fel rhan o’i phrosiect Platfform mae’r gwneuthurwr theatr Ellen Groves yn awyddus i ymchwilio a datblygu sioe ynglŷn â phartïon pen-blwydd ar gyfer a gyda phlant 5-9 oed ac wedi ei chynhyrchu gan Theatr Iolo fel rhan o’r rhaglen Platfform. Mae Ellen bellach yn edrych am ensemble o 3 - 4 perfformiwr i ymuno â hi ar y daith hon ac i weithio gyda hi i ddyfeisio a datblygu syniadau dros y misoedd nesaf. Bydd yn defnyddio’r gweithdy deuddydd hwn fel cyfle clyweld anffurfiol i ddod o hyd i’r artistiaid hynny.

 

Mae’r gweithdy deuddydd hwn, dan arweiniad y storïwr Jon Dafydd-Kidd, yn wahoddiad i berfformwyr sydd â diddordeb mewn ymuno ag Ellen i ddysgu mwy am y maes perfformio hwn.

 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Ellen a’r rhaglen Platfform yma: http://goo.gl/fj4Hfc

Ac ar y blog, yma: http://platfform.cymru ;

 

Mae uchafswm o 15 lle ar gael. I archebu eich lle anfonwch eich CV proffesiynol a gwybodaeth (dim mwy na pharagraff) ynglŷn â pham yr hoffech fynychu at Gynhyrchydd Platfform, Olivia Harris yn olivia@theatriolo.com

 

Beth fydd yn digwydd dros y ddau ddiwrnod?

 

Yn y gweithdy clyweliadau deuddydd ymarferol hwn, bydd y cyfranogwyr yn dysgu mwy ac yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau adrodd straeon byrfyfyr. Bydd cyfranogwyr hefyd yn dysgu technegau comedi byrfyfyr, i gyd yng nghyd-destun gwneud theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Bydd y deuddydd wedi’u trefnu er mwyn datblygu sgiliau a rhoi cynnig ar bethau ar ffurf adrodd straeon byrfyfyr ar y diwrnod cyntaf cyn edrych ar hyn yng nghyd-destun theatr gomedi ar yr ail ddiwrnod. Am y rheswm hwn, mae angen i gyfranogwyr fod ar gael ar y ddau ddiwrnod.

 

Yr unig beth y mae angen i gyfranogwyr ddod gyda nhw yw potel o ddŵr a dillad cyfforddus i symud o gwmpas ynddynt.

 

Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan y storïwr byrfyfyr Jon Kidd. Dyma ychydig mwy o wybodaeth am Jon:

 

Mae gan Jon ddiddordeb mewn ymchwilio i ffyrdd newydd o greu storïau, ac mae rhan fawr o hynny’n golygu bod yn agored i syniadau a all eich arwain ar daith na fyddech erioed wedi ei dychmygu eich hun. Mae creu stori wedi dod yn fyd o bosibiliadau od a rhyfeddol i chwarae a nhw wrth i’r stori newid bob tro y caiff ei hailadrodd, a’n gwthio i gyfeiriadau newydd. 

 

Wedi ei hyfforddi fel cerddor yng Nghaeredin, mae diddordeb Jon yn y celfyddydau perfformio cyfranogol wedi cynyddu drwy blymio i fyd y theatr. Wrth weithio gyda sefydliadau megis Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Hijinx Theatre (Caerdydd), Flying Cloud Theatre (Llundain/Efrog) a Taking Flight Theatre (Caerdydd), Age Cymru - cARTrefu ac yn fwy diweddar ei gwmni ei hun Commusication, mae wedi parhau i ehangu a datblygu ei ymarfer drwy weithio gyda grwpiau amrywiol.

 

Pwy all Fynychu?

 

Mae’r gweithdy clyweliadau hwn yn agored i berfformwyr ac artistiaid a chanddynt rhywfaint o brofiad yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:

  • Gwaith byrfyfyr
  • Storïwr
  • Dyfeisio
  • Comedi
  • Creu theatr i gynulleidfaoedd ifanc

 

Bydd Ellen yn gweithio ar y prosiect rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf (dyddiadau pendant i’w cadarnhau) felly dylai’r perfformwyr a ddewisir gael rhywfaint o hyblygrwydd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan y Chapter yn  bennaf.

 

NODIADAU:

*Os hoffech fod yn rhan o’r gweithdy ond nad oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r ensemble mae hynny’n iawn hefyd! Gadewch i ni wybod ymlaen llaw.

*Os cewch eich dewis o’r gweithdy i ymuno a’r tîm parti pen-blwydd byddwch yn cael ffi sylfaenol ar ôl i’r prosiect ddechrau.

 

Views: 290

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service