Here’s what Kully had to say -
Rydym newydd gyhoeddi ein tymor newydd o waith ar gyfer 2018. Dyma fydd rhaglen lawn gyntaf ein Cyfarwyddwr Artistig Kully Thiarai gyda'r cwmni.
Meddai Kully: “Rydym yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno â ni mewn lleoliadau ar draws Cymru a threulio ennyd yn cerdded yn esgidiau pobl eraill, boed yn fenywod o Dde Asia neu'n fudwyr o bob cwr o'r byd, staff neu gleifion y GIG o’r gorffennol a'r presennol.
"Bydd y cynhyrchiadau hyn yn arbrofol, yn wleidyddol, yn amrywiol ac yn bryfoclyd. Bydd pob un ohonynt yn archwilio'r cyflwr dynol, pa effaith y mae lleoedd yn ei chael ar ein hunaniaeth, a'n hargraffiadau o hunaniaethau eraill. Ymunwch â ni y flwyddyn nesaf ar gyfer y tymor newydd cyffrous hwn o waith, a gweld Cymru, y byd a'i bobl trwy lygaid ffres."
Mi fyddwn yn creu gwaith ledled Cymru a ar-lein yn cynnwys ysgrifennu newydd, dawns gyfoes, cerddoriaeth, comedi, theatr synhwyraidd a chelf weledol. Mi fydd perfformiadau mewn ysbytai, ysgolion a theatrau, cychod a hyd yn oed o dan dŵr. Felly ewch i’n gwefan a mynnwch gip ar yr amryw o berfformiadau sydd i ddod.
Am manylion llawn y tymor ewch i'r wefan - https://www.nationaltheatrewales.org/cy/tymor-2018-ntw ;
Mae mynd i fod yn flwyddyn cynhyrfus iawn yma yn NTW a rydyn yn awyddus iawn i'w rhannu gyda chi gyd!
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community