Job Opportunity - Rheolwr Gwasanaeth Theatr a'r Celfyddydau / Theatre and Arts Services Manager

Cyflog: NJC Gradd 10 £35,745 (SCP 32) i £38,890 (SCP 35)

 Amser Llawn, 37 awr yr wythnos, parhaol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:  30/09/2021

Mae angen rheolwr profiadol i ymgymryd â gwaith gweithredu, trefnu, rheoli a datblygu Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, fel lleoliad adloniant a digwyddiadau llwyddiannus ac i oruchwylio rheoli Tîm Datblygu Celfyddydau y Cyngor, sydd wedi'i leoli yno.

 

Mae hon yn rôl allweddol yn natblygiad y Sefydliad wrth i'r Cyngor fynd ati i gyflawni ei amcanion trawsnewid a masnacheiddio fel y nodir yn y cynllun busnes ar gyfer Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Felly, byddai'r swydd o ddiddordeb arbennig i reolwr sy'n rhannu'r cynlluniau datblygu uchelgeisiol hyn ac a all gyfrannu at agenda fusnes arbennig o heriol, a'i gyrru ymlaen. 

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael ei addysgu hyd at lefel gradd, byddai cymhwyster Rheoli Celfyddydau yn ddymunol, a bydd ganddo brofiad o reoli mewn amgylchedd tebyg.

 

Jobs (caerphilly.gov.uk) am Ddisgrifiad Swydd manwl a Manyleb y Person

 

Os byddwch chi, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, yn hoffi cael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch ag Antony Bolter ar 07766 162570.

 

Mae gennym ni rwymedigaeth gyfreithiol i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni/pasbort/trwydded gwaith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Salary: NJC Grade 10 £35,745 (SCP 32) to £38,890 (SCP 35)

Full time, 37 hours per week, Permanent

Application closing date: 30/09/2021

An experienced manager is required to undertake the operation, organisation, management and development of Blackwood Miners Institute as both a successful entertainment and events venue and to oversee the management of the Council’s Arts Development Team, based there.

 

This is a key role in the development of the Institute as the Council works to achieve its transformation and commercialisation objectives as set out in the business plan for Blackwood Miners Institute.  Therefore, the post would be of particular interest to a manager who shares these ambitious development plans and can contribute to and drive forward a particularly challenging business agenda.

The successful candidate will be educated to degree level, an Arts Management qualification is desirable and will have experience in management in a similar environment.

 

Visit Jobs (caerphilly.gov.uk) for a detailed Job Description and Person Specification  

 

If having read the Job Description and Person Specification you would like an informal discussion about the post please contact Antony Bolter on 07766 162570.

 

We are legally obliged to ask you to provide evidence of your right to work in the UK.  If you are invited to interview, you will be asked to provide appropriate documents such as your birth certificate/passport/work permit in accordance with the Immigration, Asylum and Nationality Act 2006.

Views: 51

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service