Mess Up The Mess Business Planning Consultancy – Request for Quotes

We are looking for a consultant with extensive experience of the arts and creative industries to help us plan for a sustainable future in which artistic excellence, social outcomes and financial sustainability are safeguarded. 

Mess Up The Mess is a professional youth theatre company based in Ammanford, but working across South Wales. For over 10 years, we have worked with the hardest to reach young people in our communities, using theatre and the arts as powerful tools to engage and empower them to make their voices heard. From small scale issues based workshops and preparation for work training to large scale projects which address difficult issues confronting young people today, Mess Up The Mess challenges young people to believe in themselves and their ability to make their world a better place.

We’re seeking a consultant who can bring knowledge of a wide range of operating and financial models. In particular, we are interested in exploring how different social enterprise models might contribute to Mess Up The Mess’s sustainability.

The scope of the project will include:

  • Working with the Board and Senior Management to develop a revised vision and mission statement and business plan
  • Exploring sustainable operating models
  • Researching and identifying potential for income diversification
  • Supporting the Senior Management Team to research exemplar arts organisations, create a funding and income diversification plan and identify and research potential of new creative products

 

Timescale:

The contract will run from 30th May to 30th September, 2017.

 

The deadline for the return of quotes is:

 

Monday 8th May, 1.00 pm

 

Fee:

We have a finite budget and would welcome quotes for up to but not exceeding £9,500.

 

For further information and to request a copy of the brief, please email:

 

chris@messupthemess.co.uk

 

This project has been funded through Arts Council Wales.

Ymgynghoriaeth Cynllunio Busnes Mess Up The Mess – Cais am Ddyfynbrisiau

 

Rydym yn chwilio am ymgynghorydd â phrofiad helaeth o’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, i’n helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy lle diogelir rhagoriaeth artistig, deilliannau cymdeithasol a chynaliadwyedd ariannol.

Cwmni theatr ieuenctid proffesiynol yw Mess Up The Mess ac mae wedi’i leoli yn Rhydaman, ond mae hefyd yn gweithio ar draws De Cymru. Ers dros 10 mlynedd, rydym wedi gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd yn ein cymunedau, gan ddefnyddio theatr a’r celfyddydau fel offeryn pwerus i ymgysylltu â nhw a’u grymuso i sicrhau y clywir eu lleisiau. O weithdai bach yn seiliedig ar faterion penodol a hyfforddiant i baratoi at waith, i brosiectau mawr sy’n rhoi sylw i faterion anodd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, mae Mess Up The Mess yn herio pobl ifanc i gredu ynddyn nhw’u hunain a’u gallu i wneud y byd yn lle gwell.

Rydym yn chwilio am ymgynghorydd sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth o amrywiaeth eang o fodelau gweithredu ac ariannol. Yn benodol, mae gennym ddiddordeb mewn archwilio sut allai gwahanol fodelau o fenter gymdeithasol gyfrannu at gynaliadwyedd Mess Up The Mess.

Bydd amrediad y prosiect yn cynnwys:

  • Gweithio gyda’r Bwrdd ac Uwch Reolwyr i ddatblygu gweledigaeth a datganiad o genhadaeth diwygiedig a chynllun busnes
  • Archwilio modelau gweithredu cynaliadwy
  • Ymchwilio ac adnabod y potensial ar gyfer arallgyfeirio incwm
  • Cefnogi’r Uwch Dîm Rheoli i ymchwilio i fudiadau celfyddydol enghreifftiol, creu cynllun arallgyfeirio incwm a chyllid ac adnabod cynnyrch creadigol newydd ac ymchwilio i’w potensial

 

Amserlen:

Bydd y contract ar waith o 30 Mai hyd nes 30 Medi, 2017.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn dyfynbrisiau yw:

 

Dydd Llun 8 Mai, 1.00yp

 

Ffi:

Mae gennym gyllideb gyfyngedig a buasem yn croesawu dyfynbrisiau hyd at £9,500 ond heb fod yn fwy na hynny.

 

Am wybodaeth bellach ac i ofyn am gopi o’r brîff, mae croeso i chi e-bostio:

 

chris@messupthemess.co.uk

 

Ariennir y prosiect trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Views: 270

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service