National Theatre Wales // CYFARWYDDWR ARTISTIG / ARTISTIC DIRECTOR

  • NATIONAL THEATRE WALES YN CYHOEDDI HEDDIW PENODIAD LORNE CAMPBELL I RÔL CYFARWYDDWR ARTISTIG

 

  • AR HYN O BRYD YN GYFARWYDDWR ARTISTIG NORTHERN STAGE, BYDD CAMPBELL YN YMGYMRYD Â'I RÔL NEWYDD YN YSTOD GWANWYN 2020

Heddiw, cyhoeddodd Clive Jones, Cadeirydd NTW, fod Cyfarwyddwr Artistig newydd wedi'i benodi i olynu Kully Thiarai. Bydd Lorne Campbell, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Artistig Northern Stage, yn ymgymryd â'r rôl yn ystod gwanwyn 2020.

Dechreuodd y cyfarwyddwr theatr o'r Alban, Lorne Campbell, ar ei yrfa yn Traverse Theatre yng Nghaeredin ac yn fwyaf diweddar bu'n Gyfarwyddwr Artistig ar Northern Stage. Fe'i penodwyd i'r rôl yn 2013 ac erbyn iddo ymadael bydd wedi gwasanaethu yn y rôl honno ac fel Prif Weithredwr ar y cyd am bron i 7 mlynedd, gan bartneru gyda'r Cyfarwyddwr Gweithredol Kate Denby ers 2015. Mae uchafbwyntiau ei gyfnod yn Northern Stage yn cynnwys The Bloody Great Border Ballad (2015) Get Carter (2016) a The Last Ship (2018), a gwaith arddangos arobryn Northern Stage yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. O dan arweinyddiaeth Campbell, mae Northern Stage wedi cynhyrchu mwy o waith, wedi denu mwy o gynulleidfaoedd, wedi datblygu ei ymrwymiad i feithrin talent ledled y gogledd-ddwyrain ac wedi arloesi gyda modelau cyd-greu newydd gyda phobl ifanc a chymunedau dan anfantais economaidd. 

Cyn mynd i Northern Stage, gweithiodd Campbell fel cyfarwyddwr theatr llawrydd, gan greu cynyrchiadau ar gyfer theatrau Everyman a Playhouse yn Lerpwl, Birmingham Rep, Theatre Royal Caerfaddon, Traverse Theatre, The Almeida a Hull Truck. Roedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn Traverse Theatr rhwng 2004 a 2008. Bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cwrs yn Drama Centre ac fel Cymrawd Creadigol yr RSC rhwng 2011 a 2013 ac fel cyd-Gyfarwyddwr Artistig sylfaenol Greyscale rhwng 2009 a 2013.

 

Meddai Clive Jones, Cadeirydd NTW: "Roedd amrywiaeth a dyfnder gwaith artistig Lorne, ei sgiliau arwain amlwg a'i ymrwymiad clir i hyrwyddo a datblygu talent Cymru wedi creu argraff arnom. Bydd yn dod ag egni a bywiogrwydd newydd i'r theatr yng Nghymru."

 

Dywedodd Lorne Campbell: "Mae'n argoeli'n hynod o gyffrous i fod yn ymuno â National Theatre Wales fel Cyfarwyddwr Artistig, a hefyd mae yna dristwch mawr i fod yn gadael Northern Stage ar ôl chwe blynedd a hanner. Yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda'r cydweithwyr, yr artistiaid, y cynulleidfaoedd a'r cymunedau mwyaf bendigedig y gallech ddymuno eu cael. Rwy'n falch iawn o'r hyn rydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd ac yn gwybod bod y theatr mewn lle gwych i barhau i esblygu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'r cyfle i weithio gyda thalent, uchelgais ac egni anhygoel theatr Gymreig a thrwy fodel arloesol a hyblyg NTW, i greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau newydd rhwng cynulleidfaoedd, artistiaid a chymunedau, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, yn rhyfeddol ac yn ostyngedig. Mae gwaith gwych yn digwydd yng Nghymru ac ni allaf aros i ymgysylltu â dyfnder ac ehangder y creadigrwydd, y dyhead a'r mynegiant hwn."

Dywedodd Simon Elliott, Cadeirydd Northern Stage, "Mae Lorne wedi dod â'i egni, ei sgil a'i ddawn artistig i bob diwrnod o'i amser gyda Northern Stage.  Bydd yn ei adael yn 2020 mewn cyflwr da ar gyfer y dyfodol, gyda gweledigaeth rymus ac enw da ymysg rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd.  Dymunwn yn dda iddo ar ei benodiad newydd gan wybod y bydd yn defnyddio'r un rhinweddau i gael yr un effaith.". 


Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn llongyfarch NTW ar y penodiad cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at groesawu Lorne i Gymru. Fel y gŵyr, bydd yn canfod sefyllfa theatr fywiog y mae NTW wedi helpu i'w llunio gyda'i dull gweithredu unigryw a'i gylch gwaith cenedlaethol. Mae ystod profiad Lorne yn argoeli'n dda ar gyfer datblygiad parhaus y cwmni, gan gydweithio'n agos ag artistiaid Cymru. A bydd ei brofiad helaeth o ymgysylltu â chymunedau yn y gogledd-ddwyrain yn rhoi nerth ac egni ychwanegol i rwydwaith cymunedol helaeth NTW ledled Cymru."

--

  • NATIONAL THEATRE WALES TODAY ANNOUNCED THE APPOINTMENT OF LORNE CAMPBELL TO THE ROLE OF ARTISTIC DIRECTOR

 

  • CURRENTLY ARTISTIC DIRECTOR OF NORTHERN STAGE, CAMPBELL WILL TAKE UP HIS NEW ROLE IN SPRING 2020

 

Clive Jones, Chair of NTW, today announced the appointment of a new Artistic Director to succeed Kully Thiarai. Lorne Campbell, who is currently Artistic Director of Northern Stage, will take up the role in Spring 2020.

 

Scottish theatre director, Lorne Campbell began his career at the Traverse Theatre in Edinburgh and most recently was Artistic Director of Northern Stage. He was appointed to the role in 2013 and by the time of his departure he will have served in that role and as joint Chief Executive for almost 7 years, partnering with Executive Director Kate Denby since 2015. Highlights of his time at Northern Stage include The Bloody Great Border Ballad (2015) Get Carter (2016) and The Last Ship (2018), and Northern Stage’s multi-award winning showcasing work at the Edinburgh Fringe. Under Campbell’s leadership, Northern Stage has produced more work, attracted greater audiences, developed its commitment to nurturing talent across the North East and pioneered new co-creation models with young people and communities of economic disadvantage.

 

Prior to Northern Stage, Campbell worked as a freelance theatre director creating productions for Liverpool Everyman and Playhouse Theatres, Birmingham Rep, Theatre Royal Bath, Traverse Theatre, The Almeida and Hull Truck. He was Associate Director at the Traverse Theatre between 2004 and 2008. He worked as a Course Director at Drama Centre and as a Creative Fellow of the RSC between 2011 and 2013 and as founding co-Artistic Director of Greyscale between 2009 and 2013.

 

Clive Jones, Chair of NTW said: “We were impressed by the range and depth of Lorne’s artistic work, his obvious leadership skills and clear commitment to promoting and developing Welsh talent. He will bring a new energy and vitality to theatre in Wales.”

 

Lorne Campbell said: “It is a profoundly exciting prospect to be joining National Theatre Wales as Artistic Director and also a great sadness to be leaving Northern Stage after six and a half years. I have been privileged to work with the most wonderful colleagues, artists, audiences and communities that you could wish for. I am very proud of what we have achieved together and know that the theatre is in a great place to continue to evolve and thrive in the years ahead.

 

The chance to work with the incredible talent, ambition and dynamism of Welsh theatre and through the innovative and flexible model of NTW, to create opportunities for new conversations between audiences, artists and communities, domestically and internationally, is both remarkable and humbling. There is great work happening in Wales and I cannot wait to engage with the depth and breadth of this creativity, aspiration and expression.”

 

Simon Elliott, Chair of Northern Stage said, "Lorne has brought his energy, skill and artistic flair to every day of his time with Northern Stage.  He will leave it in 2020 in great shape for the future, with a compelling vision and an enhanced reputation amongst stakeholders and audiences.  We wish him well for his new appointment and know that he will bring the same qualities to the same effect."

 

Phil George, Chair Arts Council Wales said: “We congratulate NTW on this exciting appointment and look forward to welcoming Lorne to Wales. He will find, as he knows, a vibrant theatre scene which NTW has helped to shape with its distinctive approach and its national remit. Lorne's range of experience bodes well for the company's continuing development, working closely with the artists of Wales. And his depth of experience engaging with communities in the North East will give added strength and energy to NTW's extensive community network across Wales.”

Views: 144

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service