Sgroliwch i lawr ar gyfer y Gymraeg

National Theatre Wales
In partnership with BBC Cymru Wales & BBC Arts


How do you make and experience theatre in a lock down? 

Remove the obvious form of theatre; people gathering in a particular place, at a particular time, to watch others perform – then what are we left with?

The telling of stories, the sharing of a moment, the performance of fundamental acts of connection and community. Stories guide us to make sense of the world around us. They connect us, help us process new realities and what we know to be true.  They offer us a safe space to play out new futures, new normals. They help us adjust. 

Network is our new digital programme of work, designed to connect audiences, communities and theatre makers with opportunities to create and experience live, innovative theatre delivered via a digital stage. 

New Digital Commissions
National Theatre Wales & Theatr Genedlaethol Cymru
with BBC Cymru Wales & BBC Arts

We’re working in partnership with Theatr Genedlaethol Cymru to invite theatre artists of Wales to come up with innovative, exciting and human responses during the ongoing lockdown.

New Digital Commissions is an open call opportunity for new commissions to make Live Theatre in digital spaces – theatre that will help audiences, communities and theatre makers to come together whilst we are all kept apart.

Network Creative associates Nigel Barrett and Louise Mari will be working with NTW and Theatr Genedlaethol Cymru to support the development of the commissions.

This call for submissions is now open.

Play Readings

12 Plays in digital spaces.

National Theatre Wales and Sherman Theatre will work together with a range of independent companies and artists to produce play readings, showcasing the talent of playwrights, companies and creatives across Wales.

The partnership will enable Welsh directors, actors, and designers to be fully supported and funded to deliver the readings, while providing a platform to share homegrown work, alongside contemporary classic titles that may yet to have been performed here in Wales. 

More on this soon…

-------

National Theatre Wales
Mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales & BBC Arts

Sut mae gwneud a phrofi theatr mewn cyfnod o gyfyngiad ar symudiad? 

Tynnwch y ffurf amlwg ar theatr; pobl yn ymgynnull mewn lle penodol, ar adeg benodol, i wylio eraill yn perfformio – yna beth sydd ar ôl?

Adrodd straeon, rhannu ennyd, perfformio gweithredoedd sylfaenol o gysylltiad a chymuned. Mae straeon yn ein harwain i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Maent yn ein cysylltu, yn ein helpu i brosesu gwirioneddau newydd a’r hyn y gwyddom ei fod yn wir.  Maent yn darparu lle diogel i ni roi cynnig ar ddyfodol newydd, ar normau newydd. Maent yn ein helpu i addasu.  

Network yw ein rhaglen waith ddigidol newydd, a gynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol. 

Comisiynau Digidol Newydd
National Theatre Wales & Theatr Genedlaethol Cymru
gyda BBC Cymru Wales & BBC Arts

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru i wahodd artistiaid theatr Cymru i ddod o hyd i ymatebion arloesol, cyffrous a dynol yn ystod y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad sy’n mynd rhagddo.

Mae Comisiynau Digidol Newydd yn gyfle galwad agored am gomisiynau newydd i wneud theatr fyw mewn mannau digidol – theatr a fydd yn helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr i ddod at ei gilydd tra byddwn ni i gyd yn cael ein cadw ar wahân.

Bydd cymdeithion creadigol Network Nigel Barrett a Louise Mari yn gweithio gyda NTW a Theatr Genedlaethol Cymu i gefnodi datblygiad y comisiynau.

Mae’r alwad hon am gyflwyniadau bellach ar agor.

Darlleniadau o Ddramâu

12 Drama mewn mannau digidol. Bydd NTW a Theatr y Sherman  yn cydweithio ag amrywiaeth o gwmnïau ac artistiaid annibynnol i gynhyrchu darlleniadau o ddramâu, gan arddangos talent dramodwyr, cwmnïau a gweithwyr creadigol ar draws Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn galluogi cyfarwyddwyr, actorion a dylunwyr o Gymru i gael eu cefnogi a’u hariannu’n llawn i ddarparu’r darlleniadau, ac ar yr un pryd yn darparu llwyfan i rannu gwaith brodorol, ynghyd â theitlau clasurol cyfoes sydd efallai heb eu perfformio eto yma yng Nghymru.

Rhagor am hyn yn fuan …

Views: 64

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service