NTW TEAM - Cyfle â thâl i berfformwyr yn Sir Benfro!

Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r cyntaf yn digwydd yn Hwlffordd ym mis Tachwedd. 

Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!

Y diben? I gael gwell syniad o’r hyn sy’n bwysig i bobl Sir Benfro, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'n gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. 

Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau. 

Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Sir Benfro ac mae angen i chi gymryd rhan! 

Mae TEAM NTW yn chwilio am 4 perfformiwr chwareus i ymuno yn yr anhrefn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda Catherine i ddyfeisio perfformiadau byr, a hwyluso sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad. 

Mae'r cyfle hwn i berfformwyr o bob disgyblaeth, gallech hyd yn oed wneud cais fel grŵp os hoffech wneud hynny – byddem wrth ein bodd yn clywed gan actorion, awduron/perfformwyr, artistiaid y gair llafar, pypedwyr, dawnswyr, cerddorion, storïwyr, clowniaid a mwy...

Bydd angen i chi fod ar gael:

Dydd Llun 19eg Tachwedd

Dydd Mawrth 20fed Tachwedd

Dydd Mercher 21ain Tachwedd

Dydd Iau 22ain Tachwedd

Gan y bydd hyn yn digwydd yn Hwlffordd, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan berfformwyr yn Sir Benfro. 

Y ffi fydd £100 y diwrnod (os yn gwneud cais fel grŵp cofiwch mai  £100 y dydd fydd y ffi ar gyfer y grŵp cyfan)  

Os oes gennych ddiddordeb mewn perfformio anfonwch e-bost at Naomi Chiffi ar team@nationaltheatrewales.org gyda'r canlynol:

  • Eich CV
  • Paragraff byr sy'n rhoi manylion am eich profiad gyda TEAM hyd yn hyn, neu os ydych yn newydd i TEAM, sut hoffech chi gymryd rhan gyda TEAM yn y dyfodol?
  • A darn o gerddoriaeth yr ydych yn teimlo sy'n cynrychioli Sir Benfro yn 2018 a pham.  

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn dydd Mawrth 16 Hydref am ganol dydd

Cynhelir cyfweliadau ar ffurf gweithdai ddydd Llun 29ain Hydref yn Sir Benfro.

 

Views: 164

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service