Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r parti yn Wrecsam yn digwydd ym mis Rhagfyr.
Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!
Y diben? I gael gwell syniad o’r hyn sy’n bwysig i bobl Wrecsam, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'n gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau.
Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Wrecsam ac mae angen i chi gymryd rhan!
Mae TEAM NTW yn chwilio am 4 perfformiwr chwareus i ymuno yn yr anhrefn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda Catherine i ddyfeisio perfformiadau byr, a hwyluso sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.
Mae'r cyfle hwn i berfformwyr o bob disgyblaeth, gallech hyd yn oed wneud cais fel grŵp os hoffech wneud hynny – byddem wrth ein bodd yn clywed gan actorion, awduron/perfformwyr, artistiaid y gair llafar, pypedwyr, dawnswyr, cerddorion, storïwyr, clowniaid a mwy...
Bydd angen i chi fod ar gael:
Dydd Llun 3ydd Rhagfyr
Dydd Mawrth 4edd Rhagfyr
Dydd Mercher 5ed Rhagfyr
Dydd Iau, 6ed Rhagfyr
Gan y bydd hyn yn digwydd yn Wrecsam, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan berfformwyr yn yr ardal.
Y ffi fydd £100 y diwrnod (os yn gwneud cais fel grŵp cofiwch mai £100 y dydd fydd y ffi ar gyfer y grŵp cyfan)
Os oes gennych ddiddordeb mewn perfformio anfonwch e-bost at Naomi Chiffi ar team@nationaltheatrewales.org gyda'r canlynol:
Cofrestrwch eich diddordeb erbyn dydd Llun 22 Hydref am ganol dydd.
Cynhelir cyfweliadau ar ffurf gweithdai bore 8 Tachwedd yn Wrecsam.
© 2023 Created by National Theatre Wales.
Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community