We’re currently recruiting Trustees to join the Board, and we anticipate appointing at least four trustees at this time (of which two will be aged 18-25 at the time of appointment).
This is both to expand the board, and to replace trustees who are approaching the end of their appointed terms.
The full Board currently meets five times a year. Meetings are held in Cardiff with some Trustees joining remotely via Zoom. The Finance and General Purposes Sub-Committee, currently with four appointed Trustees, also meets separately five times a year to scrutinise the organisation’s financial performance, fundraising, HR and operations.
There will be further opportunities for supporting the work of NYAW through advocacy, and through advising NYAW’s executive team on an informal basis on your areas of expertise.
In addition, Trustees are offered complimentary tickets to NYAW’s public performances.
Terms of office for Board Members are usually two, three-year terms, serving for a maximum of six years.
To express an interest in becoming a Trustee, please send a CV and brief covering letter to nyaw@nyaw.org.uk. The deadline for this round of recruitment is Friday 28 April 2023.
We’re particularly keen to receive expressions of interest from:
Welsh speakers
People living or working in mid/north Wales
People from the Global Majority, and / or people living with a disability, who are currently under-represented in Wales’s creative sectors
To legally become a charity trustee, you must not be disqualified by law from serving as a company director or charity trustee (for example, if you have an unspent conviction for certain offences, if you have been bankrupt, or if you’ve previously been removed from a public office). If you think this might apply but would like further guidance, please contact us in confidence to discuss your individual case.
Ar hyn o bryd, rydym am recriwtio Ymddiriedolwyr i ymuno â’r Bwrdd, ac rydym yn rhagweld penodi o leiaf bedwar o ymddiriedolwyr y tro hwn (y bydd dau ohonynt yn 18-25 oed ar adeg eu penodi).
Mae hyn er mwyn ehangu’r bwrdd a hefyd i gymryd lle ymddiriedolwyr sy’n dod at derfyn eu tymor penodedig.
Ar hyn o bryd, mae’r Bwrdd llawn yn cwrdd bum gwaith y flwyddyn. Cynhelir y cyfarfodydd yng Nghaerdydd gyda rhai Ymddiriedolwyr yn ymuno o hirbell dros Zoom. Yn ogystal bydd yr Is-bwyllgor Cyllid a Phwrpasau Cyffredinol, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar Ymddiriedolwr penodedig, yn cwrdd ar wahân bum gwaith y flwyddyn i graffu ar berfformiad ariannol, codi arian, AD a gweithrediadau’r sefydliad.
Bydd cyfleoedd pellach i gefnogi gwaith CCIC trwy eiriolaeth, a thrwy gynghori tîm gweithredol CCIC ar sail anffurfiol ar eich meysydd arbenigol.
Yn ogystal, cynigir tocynnau cyfarch i Ymddiriedolwyr i berfformiadau cyhoeddus CCIC.
Mae cyfnod swydd Aelodau’r Bwrdd fel arfer am ddau dymor, tair blynedd o hyd, gan wasanaethu am fwyafswm o chwe blynedd.
Sut i ymgeisio
I fynegi diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr, anfonwch CV a llythyr eglurhaol cryno at nyaw@nyaw.org.uk. Y dyddiad cau ar gyfer y cylch recriwtio hwn yw Dydd Gwener 28 Ebrill 2023.
Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn mynegiant diddordeb gan:
Siaradwyr Cymraeg
Pobl sy’n byw neu’n gweithio yng nghanolbarth /gogledd Cymru
Pobl o’r Mwyafrif Byd-eang, a / neu bobl sy’n byw gydag anabledd sydd, ar hyn o bryd, heb gynrychiolaeth ddigonol yn sectorau creadigol Cymru
Yn gyfreithiol, er mwyn dod yn ymddiriedolwr elusen, mae rhaid
nad ydych wedi eich gwahardd gan y gyfraith rhag gwasanaethu fel cyfarwyddwr cwmni neu ymddiriedolwr elusen (er enghraifft, os oes gennych euogfarn heb ei disbyddu am droseddau penodol, os ydych wedi mynd yn fethdalwr, neu os ydych wedi eich diswyddo o swydd gyhoeddus yn y gorffennol). Os ydych yn meddwl y gallai hyn fod yn berthnasol ond yr hoffech fwy o arweiniad, mae croeso ichi gysylltu gyda ni, yn gyfrinachol, i drafod eich achos unigol chi.
© 2023 Created by National Theatre Wales.
Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community