Radical Creatures - Galwad am Artistiaid Benywaidd / Call-Out for Women Artists


Mewn menter newydd o’r enw Radical Creatures, mae NTW yn gwahodd artistiaid benywaidd Cymreig i gyflwyno syniadau anghyffredin ar gyfer perfformiad byw. Yn benodol, rydym yn chwilio am syniad gwreiddiol sy’n trafod yn wybodus yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn fenyw yng Nghymru heddiw.

Fel rhan o’r broses, bydd artistiaid ar y rhestr fer yn cael eu paru â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a fydd yn eu mentora i’w helpu i ddatblygu eu cynnig. Bydd y syniad buddugol wedyn yn dod yn gynhyrchiad llawn ar lwyfan fel rhan o dymor 10fed pen-blwydd NTW yn 2020.

“Yn NTW, rydym derbyn nifer sylweddoli is o syniadau wedi’u cyflwyno gan fenywod na dynion, ac mae’r cynigion gan fenywod yn aml yn fwy cymedrol eu maint ac yn gofyn am lai o adnoddau. Rwy’n gwybod nad yw hyn yn cynrychioli’r gronfa o dalent, angerdd a chelfyddyd sy’n bodoli.

Roeddwn i eisiau creu Radical Creatures er mwyn gwahodd artistiaid benywaidd Cymreig i fod yn feiddgar. Mae’n broses yr wyf yn gobeithio y bydd yn eu cefnogi i ryddhau eu dychymyg, arloesedd a rhagoriaeth, yn eofn, i ymddiried ynom ni gyda’u syniadau a, gyda’n cymorth ni, eu troi yn eu fersiynau gorau.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a beth ddylech ei wneud nesaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i glywed gennych.”

Kully Thiarai Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales

Darganfyddwch Mwy ar ein wêfan -  

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

In a new initiative called Radical Creatures, NTW are inviting Welsh women artists to submit extraordinary ideas for live performance. Specifically, we’re looking for an original idea that speaks insightfully of what it means to be a woman in Wales today.

As part of the process, shortlisted artists will be paired with industry professionals who will mentor them to help them develop their proposal. The winning idea will then become a fully staged production as part of NTW’s 10th birthday season in 2020.

“At NTW, we receive markedly fewer ideas submitted by women than men, and proposals from women are often more modest in scale and demand fewer resources. This, I know, does not speak of the reservoir of talent, passion and artistry out there.

I wanted to create Radical Creatures to invite Welsh women artists to be bold. It’s a process that I hope supports them to unleash their imagination, innovation and excellence, fearlessly, to trust us with their ideas and, with our support, build them into their greatest versions.

Please read on to find out what we’re looking for and what you need to do next. I can’t wait to hear from you.”

Kully Thiarai
Artistic Director, National Theatre Wales


Find out all about the opportunity on our website

Views: 259

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service