Session note: Sustainable Backstage Careers. Volunteering / unpaid work vs Class. “if they help get it made, they should be fairly paid”

What is the name of the person who called the session?

Fiona and Sian

Who attended the session? (You can pass this piece of paper round and ask people to write their name on it.)

Summary of discussion: (Notes, ideas, further questions, conclusions, recommendations for actions to take, contact details of relevant people / organisations etc)

We talked a lot about some of the issues we face

• An expectation to work for free – regardless of age
• Always being told to gain more training
• Chasing payments for small sums of money is not on – any other industry you would have gone to court
• Placements when subsidised are fine but when it excludes people it’s a problem – There is no responsibility on the employer to train people.
• Still seen as a graduate after 2 years out of Uni
• Volunteers are taken advantage of
• FEAR - of saying no or calling a company out on bad behaviour – as they will always find someone to who wants to do it!
• Freelancers and Employees don’t know rights
• Universities do not ready people for the world of work – whether that’s how to file a tax return or how to present yourself as a freelancer
• Not enough work to sustain a freelance career
• Often freelancers are told a fee – but that the reality of what that will cover is not seen by the company or producer.
• Predominantly white industry – due to opportunity and Class.

Solutions / Actions

• Could ACW help subsidise some opportunities
• Traineeships are great idea
• Apprenticeships becoming popular in industry – but smaller companies cannot afford to have them – Shared apprentices would be a way of solving this. There is no Levy in Wales for Apprenticeships so they are more accessible for employers
• Welsh Gov go by the ‘Fair Work Nation’ scheme – in which fair work for fair pay is encouraged.
• We recognised that freelancers must acknowledge their transferable skills so that they can be more flexible and responsive to where the work is. The TV industry in Cardiff will bring in works from outside of Wales if don’t present ourselves to have the right workforce. (NB – risk here is that TV pays much better so people may not want to come back to Theatre)
• Freelancers should brush up on their research skills to enable them to find where the work is and knowing what the gaps are.
• CULT Cymru is a great resource for training and events
• Noting the difference between Career Development and Career Management. Lots of freelancers in later stages of career who need advice on how to sustain the career; how to go and have a family; how to diversify work.
• What Next Cardiff is great tool open to ALL (every wednesday morning at 8.30am)
• Recruitment needs to be diversified – more jobs advertised rather than just giving to the usual suspects
• Use Social Media more to promote roles and opportunities
• Could there be a Fair Employment Charter – which would allow companies to sign up to say they will adhere to basic rules – ie living wage per hour, overnight break and what dates it covers. And/or producers need to break down what they think a fee equates to per day/per hour and stick to it. It would help to set standards for those in a grey area of being covered by a Union or not.
• Getting into schools early to reach young people so that they believe it can be a career for them.
• Use creativetoolkit.org.uk
• Mentoring schemes are available

Rhai syniadau ynghylch cofnodi eich sesiwn

Beth yw teitl eich sesiwn?

Gyrfaoedd Cefn y Llwyfan Cynaliadwy Gwirfoddoli / gwaith di-dâl vs Dosbarth. “Os byddant yn helpu gwneud e, dylent gael eu talu'n deg”

Beth yw enw'r person a alwodd y sesiwn?

Fiona a Sian

Pwy ddaeth i'r sesiwn? (Gallwch basio'r darn hwn o bapur o gwmpas a gofyn i bobl ysgrifennu eu henwau arno.)

Crynodeb o'r drafodaeth: (Nodiadau, syniadau, cwestiynau, casgliadau, argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd, manylion cyswllt pobl/sefydliadau perthnasol ac ati)

Siaradom lawer am rai o'r materion rydym yn eu hwynebu

• Disgwyliad o weithio am ddim - beth bynnag eu hoedran
• Dywedir bob amser iddynt gael mwy o hyfforddiant
• Nid yw hela taliadau am symiau bychain o arian yn dderbyniol - mewn unrhyw ddiwydiant arall byddech wedi mynd i'r llys
• Mae lleoliadau a gymorthdelir yn iawn ond mae'n broblem pan fydd yn diarddel pobl - nid oes rhwymedigaeth ar y cyflogwr i hyfforddi pobl.
• Fe gaiff eich gweld fel graddedig o hyd 2 flynedd ar ôl y Brifysgol
• Cymerir mantais ar wirfoddolwyr
• OFN - dweud na neu alw cwmni allan ar ymddygiad gwael - gan y byddant bob amser yn dod o hyd i rywun sydd eisiau gwneud e!
• Nid yw Gweithwyr Llawrydd a Chyflogeion yn gwybod beth yw eu hawliau
• Nid yw Prifysgolion yn paratoi pobl ar gyfer y byd gwaith - ni waeth p'un a yw'n ymwneud â ffeilio dychweliad treth neu sut i gyflwyno'ch hun fel gweithiwr llawrydd
• Dim digon o waith i gynnal gyrfa lawrydd
• Yn aml dywedir beth yw'r ffi i weithwyr llawrydd - ond nid yw realiti yr hyn y bydd hynny'n talu amdano'n cael ei weld gan y cwmni neu'r cynhyrchydd.
• Diwydiant croenwyn yn bennaf - oherwydd cyfle a Dosbarth Cymdeithasol.

Atebion / Camau gweithredu

• A allai Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) helpu cymorthdalu rhai cyfleoedd
• Mae hyfforddeiaethau'n syniad gwych
• Mae prentisiaethau'n mynd yn boblogaidd o fewn y diwydiant - ond ni all cwmnïau llai fforddio cael nhw - byddai rhannu prentisiaid yn ffordd o ddatrys hyn. Nid oes gan Gymru Ardoll Brentisiaethau felly maent yn fwy hygyrch i gyflogwyr
• Mae Llywodraeth Cymru'n dilyn y cynllun 'Cenedl Gwaith Teg' - sy'n annog gwaith teg am dâl teg.
• Cydnabuwyd bod yn rhaid i weithwyr llawrydd gydnabod eu sgiliau trosglwyddadwy fel y gallant fod yn fwy hyblyg ac ymatebol i ble mae'r gwaith. Bydd y diwydiant teledu yng Nghaerdydd yn dod â gwaith i mewn o'r tu allan i Gymru os nad ydym yn cyflwyno ein hunain fel bod â'r gweithlu iawn. (DS – y risg yma yw bod y teledu'n talu llawer yn well felly mae'n bosib na fydd pobl eisiau dychwelyd i Theatr)
• Dylai gweithwyr llawrydd fireinio eu sgiliau ymchwil i'w galluogi i ddod o hyd i'r gwaith a gwybod beth yw'r bylchau.
• Mae CULT Cymru'n adnodd gwych ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau
• Nodi'r gwahaniaeth rhwng Datblygu Gyrfa a Rheoli Gyrfa. Mae llawer o weithwyr llawrydd yng nghamau diweddarach eu gyrfa sydd angen cyngor ar sut i gynnal yr yrfa; sut i fynd a magu plant; sut i amrywiaethu eu gwaith.
• Mae What Next Cardiff yn offeryn gwych sy'n agored i BAWB (bob bore dydd Mercher am 8.30am)
• Mae angen amrywiaethu recriwtio - hysbysebu mwy o swyddi yn hytrach na'u rhoi dim ond i'r bobl arferol
• Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gynyddol i hyrwyddo rolau a chyfleoedd
• A allai fod Siarter Cyflogaeth Deg - a fyddai'n galluogi cwmnïau i ymrwymo i ddweud y byddant yn glynu wrth reolau sylfaenol - h.y. cyflog byw yr awr, egwyl dros nos a pha ddyddiadau y mae'n ymdrin â nhw. Ac/neu mae angen i gynhyrchwyr dorri i lawr beth mae ffi'n cyfateb iddo fesul dydd/fesul awr yn eu tyb hwy a glynu wrth hynny. Byddai'n helpu i bennu safonau ar gyfer y rhai sydd mewn lle ansicr o gael eu gwarchod gan Undeb ai beidio.
• Mynd i mewn i ysgolion mewn cam cynnar i gyrraedd pobl ifanc fel eu bod yn credu y gallai fod yn yrfa ar eu cyfer.
• Defnyddio creativetoolkit.org.uk
• Mae cynlluniau mentora ar gael


DS - Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar wefan NTW (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt yr ydych yn eu cynnwys ynddo). Os hoffech chi i NTW drosglwyddo unrhyw gwestiynau y cânt am yr adroddiad hwn, nodwch eich cyfeiriad e-bost yma (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall).

Views: 166

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service