Session notes: How can we create a culture of honest and timely criticism?

What is the name of the person who called the session?
Chelsey Gillard

Who attended the session? (You can pass this piece of paper round and ask people to write their name on it.)
Jeremy Linnell
Othneil Smith
Sherrall Morris
Rob Hale
Catriona James
Mawgaine Tarant-cornish
Kully Thuari
Yvonne Murphy
Julia Tomas
And others

Summary of discussion: (Notes, ideas, further questions, conclusions, recommendations for actions to take, contact details of relevant people / organisations etc)

As artists/companies we must learn how to be less reactive to criticism. We can do this by:
- openly asking for criticism more often, making it central to our methodology
- -invite feedback from early points but avoid decision by community
- learn how to listen to criticism from individuals and know they are often airing the views of a wider group
- know that professional criticism isn’t a personal attack
- find ways to build your own resilience
- holding regular open spaces
- put feedback as part of our every day conversations
- know that it’s ok to have different opinions/taste
- know that criticism from reviews, audiences, the public and other artists is a fundamental part of our artform
- inviting criticism from audiences and other artists openly
- share not so positive reviews alongside good ones
- have workshops about how to give useful feedback and share our best practice
- know that everyone who gives you feedback is an expert in their own way, this doesn’t always mean they are right but still listen
- learn to ignore feedback that isn’t useful to you
- learn how to frame your requests for feedback – know what questions you want to ask and how you like to receive feedback
- think about how feedback can affect change in your long term career not just your current/most recent project
- find some mentors whether formal or informal
- set up networks of critical friends – like NTW emerging directors, JMK groups at Sherman
- learn how to talk openly about what didn’t work for you within a project, whilst allowing yourself time for objectivity and assess your own work methodology
- get audience feedback from your projects, pay real attention to the not positive feedback, take work in development into schools – children are very honest, remember we make the work for the audiences
- if you are a lead artist on a project encourage feedback sessions with everyone involved in the project
- encourage open rehearsal processes – if I’m doing something wrong, let me know
- when opening yourself to criticism have a peer mentor who can help you look after your wellbeing
- perform an “autopsy” after every project to assess what went well, what didn’t go well and what you can do differently next time.

Online conversations are not always helpful, they are combative by form and don’t allow for nuance/complexity. So how do we as artists chose to engage, or not, with that?
Is there room for a research project that explores artists’ relationships to social media and criticism?

Theatre reviews
-is there room for more reflective pieces?
- we need more professional, PAID reviewers
-what is the point of them in Wales? They are often a précis of the show, is that useful?
- is there room for a Welsh version on Exuent?
- is there room for longer view/ term cultural pieces?
- is there room for long form criticism?

When giving feedback / airing dissatisfaction we must:
- learn the difference between creative criticism and destructive criticism.
- -acknowledge why we are criticising the piece, where do we want the criticism to lead?
- Acknowledge your personal agenda
- Avoid the culture of kindness and fear of offending
- Acknowledge the difference between private and public criticism
- Remember we are making work for audiences, not other artists
- Not give unsolicited criticism unless it has a constructive outcome
- Set ourselves goals for how we give feedback – give feedback to writers who have sent you a script within a certain timescale – be accountable to yourself
- Know that timely relates to how quickly change can be affected
- We need to give criticism at the right time rather than quickly
- Be respectful and robust – no one can listen to an attack
- Discourage private groups (whatsapp, facebook) especially where the issues being discussed on them are not being aired publically/to the relevant people

Why aren’t we more honest?
- we are often friends with the artists, proximity problem
- awarenesses of other people’s personal sensitivities
- we often coddle each other
- disagreeing / criticising can feel like a betrayal

How does gathering feedback relate to NTW?
- this open space
- can NTW act as a model of best practice for us all
- NTW’s door is always open as a sounding board for you to talk about how to develop your own work and critical methodology

We need to remember spaces for inclusion. There are big rebalances of power at the moment, we must remember to include those whose power has diminished.

Rhai syniadau ynghylch cofnodi eich sesiwn

Beth yw teitl eich sesiwn?
Sut gallwn greu diwylliant o feirniadaeth onest ac amserol?


Beth yw enw'r person a alwodd y sesiwn?
Chelsey Gillard


Pwy ddaeth i'r sesiwn? (Gallwch basio'r darn hwn o bapur o gwmpas a gofyn i bobl ysgrifennu eu henwau arno.)
Jeremy Linnell
Othneil Smith
Sherrall Morris
Rob Hale
Catriona James
Mawgaine Tarant-cornish
Kully Thuari
Yvonne Murphy
Julia Tomas
Ac eraill


Crynodeb o'r drafodaeth: (Nodiadau, syniadau, cwestiynau, casgliadau, argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd, manylion cyswllt pobl/sefydliadau perthnasol ac ati)

Fel artistiaid/cwmnïau mae'n rhaid i ni ddysgu sut i fod yn llai adweithiol i feirniadaeth. Gallwch wneud hyn trwy:
- ofyn yn agored am feirniadaeth yn amlach, gan ei wneud yn rhan ganolog o'n methodoleg
- - gwahodd adborth o bwyntiau cynnar ond osgoi penderfyniad trwy gymuned
- dysgu sut i wrando ar feirniadaeth gan unigolion a gwybod eu bod yn aml yn lleisio barn grŵp ehangach
- gwybod nad yw beirniadaeth broffesiynol yn ymosodiad personol
- dod o hyd i ddulliau o adeiladu eich gwydnwch eich hun
- cynnal mannau agored rheolaidd
- rhoi adborth fel rhan o'n sgyrsiau bob dydd
- gwybod ei fod yn iawn caen barn/chwaeth wahanol
- gwybod bod beirniadaeth o adolygiadau, cynulleidfaoedd, y cyhoedd ac artistiaid eraill yn rhan hanfodol o'n ffurf celf
- gwahodd beirniadaeth gan gynulleidfaoedd ac artistiaid eraill yn agored
- rhannu adolygiadau nad ydynt mor gadarnhaol ochr yn ochr â rhai da
- cynnal gweithdai ar sut i roi adborth defnyddiol a rhannu ein harfer gorau
- gwybod bod pawb sy'n rhoi adborth i chi'n arbenigwr yn eu rhinwedd eu hunain, nid yw hyn bob amser yn golygu eu bod yn iawn, ond gwrando arnynt o hyd
- dysgwch anwybyddu adborth nad yw'n ddefnyddiol i chi
- dysgu sut i fframio'ch ceisiadau am adborth - gwybod pa gwestiynau rydych eisiau eu gofyn a sut rydych yn hoffi derbyn adborth
- meddwl am sut y gall adborth effeithio ar newid yn eich gyrfa hir dymor nid dim ond eich prosiect cyfredol/mwyaf diweddar
- dod o hyd i rai mentoriaid boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol
- sefydlu rhwydweithiau o gyfeillion beirniadol - fel egin gyfarwyddwyr NTW, grwpiau JMK yn Sherman
- dysgu sut i siarad yn agored am yr hyn na weithiodd i chi o fewn prosiect, ac ar yr un pryd rhoi amser i'ch hun ar gyfer gwrthrychedd ac asesu eich methodoleg gwaith eich hun
- derbyn adborth cynulleidfaoedd o'ch prosiectau, rhoi sylw go iawn i'r adborth nad yw'n gadarnhaol, mynd â gwaith sy'n cael ei ddatblygu i mewn i ysgolion - mae plant yn onest iawn, cofiwch ein bod yn creu'r gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd
- os ydych yn artist arweiniol ar brosiect annog sesiynau adborth gyda phawb sy'n ymwneud â'r prosiect
- annog prosesau ymarfer agored - os wyf yn gwneud rhywbeth yn anghywir, rhowch wybod i mi
- wrth agor eich hun i fyny i feirniadaeth, cael mentor cymheiriaid a all helpu chi i ofalu am eich lles
- perfformio "awtopsi" ar ôl pob prosiect i asesu'r hyn a weithiodd yn dda, yr hyn na weithiodd yn dda a'r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol y tro nesaf.


Nid yw sgyrsiau ar-lein bob amser yn ddefnyddiol, yn rhinwedd eu ffurf maent yn ornest ac nid ydynt bob amser yn darparu ar gyfer cynildeb/cymhlethdod. Felly sut ydym ni fel artistiaid yn dewis ymwneud â hynny ai beidio?
Oes lle ar gyfer prosiect ymchwil sy'n ymchwilio i berthnasoedd artistiaid â chyfryngau cymdeithasol a beirniadaeth?

Adolygiadau theatr
- oes lle ar gyfer darnau mwy myfyriol?
- mae angen mwy o adolygwyr proffesiynol  THÂL arnom
- beth yw'r pwynt ohonynt yng Nghymru? Maent yn aml yn grynodeb o'r sioe, ydy hynny'n ddefnyddiol?
- oes lle ar gyfer fersiwn Cymraeg ar Exeunt?
- oes lle ar gyfer darnau diwylliannol tymor hwy?
- oes lle ar gyfer beirniadaeth ffurf hir?


Wrth roi adborth / lleisio anfoddhad mae'n rhaid i ni:
- ddysgu am y gwahaniaeth rhwng beirniadaeth greadigol a beirniadaeth ddinistriol.
- - cydnabod pam rydym yn beirniadu'r darn, ble ydym eisiau i'r feirniadaeth arwain?
- Cydnabod eich agenda bersonol
- Osgoi'r diwylliant o garedigrwydd ac ofn troseddu
- Cydnabod y gwahaniaeth rhwng beirniadaeth breifat a beirniadaeth gyhoeddus
- Cofio ein bod yn creu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd, nid artistiaid eraill
- Peidio â rhoi beirniadaeth nas gofynnir amdani oni bai bod ganddi ganlyniad adeiladol
- Pennu nodau i'n hunain ar sut rydym yn rhoi adborth - rhoi adborth i awduron sydd wedi anfon sgript atoch o fewn graddfa amser benodol - bod yn atebol i'ch hun
- Gwybod bod amserol yn gysylltiedig â pha mor gyflym y gellir gweithredu newid
- Mae angen i ni roi beirniadaeth ar yr amser iawn yn hytrach na'n gyflym
- Dangos parch a bod yn gadarn - ni all neb wrando ar ymosodiad
- Annog peidio â defnyddio grwpiau preifat (whatsapp, facebook) yn enwedig os nad yw'r materion sy'n cael eu trafod arnynt yn cael eu lleisio'n gyhoeddus/i'r bobl berthnasol

Pam nad ydym yn bod yn fwy gonest?
- yn aml rydym yn ffrindiau i'r artistiaid, problem agosrwydd
- ymwybyddiaeth o sensitifrwydd pobl eraill
- yn aml rydym yn maldodi ein gilydd
- gall anghytuno/beirniadu deimlo fel bradychu

Sut mae cywain adborth yn ymwneud â NTW?
- y man agored hwn
- all NTW weithredu fel model arfer gorau i ni i gyd
- Mae drws NTW bob amser yn agored fel seinfwrdd i chi siarad am sut i ddatblygu eich gwaith a methodoleg feirniadol eich hun

Mae angen i ni gofio lleoedd ar gyfer cynhwysiad. Mae ailgydbwyso pŵer mawr yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni gofio'r rhai y mae eu pŵer wedi cilio.


DS - Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar wefan NTW (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt yr ydych yn eu cynnwys ynddo). Os hoffech chi i NTW drosglwyddo unrhyw gwestiynau y cânt am yr adroddiad hwn, nodwch eich cyfeiriad e-bost yma (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall).

Views: 205

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service