Session notes: (If Wales is to step onto the world stage) We need to stop apologising for being Welsh.

What is the name of the person who called the session?
Joe Burke

Who attended the session? (You can pass this piece of paper round and ask people to write their name on it.)
Angharad Berrow
Ffion King
Edward Llewelyn
Kev Jones
Joe Burke

Summary of discussion: (Notes, ideas, further questions, conclusions, recommendations for actions to take, contact details of relevant people / organisations etc)
The session began with a discussion of Welsh National Identity, in particular comparing it to Scottish national identity. A point was raised about the relative strength of Scotland’s cultural diaspora being due to the strength of its national ‘branding’ (ie the kilt, the haggis and the bagpipes) compared to wales. Perhaps Wales lacks a visible identity which can be leant into in the same way as Scotland’s.
Welsh stereotypes in media: Welsh are often portrayed as dumb regionals with funny accents rather than real people. This is beginning to be changed by the advent of (for example) shows like Hinterland, which is much more complex and nuanced.
The idea of Welsh history was explored, and its impact on the Welsh arts scene and what it means to be Welsh in the present day. Is history and culture something you have to actively engage with in order to be Welsh or can you be Welsh simply because of your bloodline or the place you were born.
The difference between theatre (or art) which is ‘consciously’ vs ‘unconsciously’ Welsh: if a person is born in Wales and has lived their whole life in Wales, do they need to consciously try to produce Welsh work, or will the work they produce be ‘unconsciously’ Welsh simply by virtue of their lived experiences? This isn’t always something to shy away from though – if people want to write consciously welsh work and they are inspired by – for example – the history and culture of Swansea, shouldn’t they make work about that.
‘Fanatical’ Welshness vs ‘Relaxed’ Welshness. The Eisteddfod was given as an example of ‘relaxed’ Welshness, a group of people who were proud enough but also secure and comfortable enough in their Welsh identity that they didn’t feel the need to boast about it. Perhaps this is an example of an event which is obviously Welsh but not consciously Welsh – few people at an Eisteddfod would say ‘we’re getting together to celebrate being Welsh’, they’d say ‘we’re getting together to celebrate art, music and theatre’, but nobody would say that the Eisteddfod wasn’t Welsh.
Looking to the past, Wales lacks an obvious theatre tradition but perhaps this isn’t a bad thing. If as artists we stop trying to search for our tradition in the past but look to the future as an opportunity to forge a new theatrical tradition we have the opportunity to take the world by storm.
The work of Dylan Thomas was discussed as an example of someone who actively denied or fought against their Welsh identity (refusing to learn Welsh, affecting an RP accent and insisting on an English pronunciation of his name) but was said to return to Wales whenever he was in an artistic funk. His work was not consciously Welsh, perhaps it could even be argued it was consciously English, but it was unconsciously fuelled by his Welsh heritage, landscape and home. It was Welsh no matter what accent he spoke in or name he chose.
Swansea was discussed and the emergence of Frantic Assembly as a company which embraced this ‘blank slate’ mentality to create their own theatrical language and tradition. Rather than focusing on the content of the stories they tell, they have focused on the language with which they tell them. Others have adopted this language and (arguably) a ‘Frantic Assembly’ way of telling a story has emerged. Could Wales do the same thing?
To summarise, it was contested that Wales – or Welsh theatre – only feels the need to express its Welshness because it is not yet confident enough to relax into that identity. When it reaches that point, which it will do soon, it will stop making stories about Wales and it will start making theatre which is identifiably Welsh. It is in a unique position to do this because of the dynamic relationship between the English and Welsh languages and because it lacks the baggage of a predominant or established theatrical tradition. If it can do this it will take the world stage by storm.

Rhai syniadau ynghylch cofnodi eich sesiwn

Beth yw teitl eich sesiwn?
(Er mwyn i Gymru gamu i fyny ar y llwyfan fyd-eang) Mae angen i ni stopio ymddiheuro am fod yn Gymry.


Beth yw enw'r person a alwodd y sesiwn?
Joe Burke


Pwy ddaeth i'r sesiwn? (Gallwch basio'r darn hwn o bapur o gwmpas a gofyn i bobl ysgrifennu eu henwau arno.)
Angharad Berrow
Ffion King
Edward Llewelyn
Kev Jones
Joe Burke


Crynodeb o'r drafodaeth: (Nodiadau, syniadau, cwestiynau, casgliadau, argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd, manylion cyswllt pobl/sefydliadau perthnasol ac ati)
Dechreuodd y sesiwn gyda thrafodaeth o Hunaniaeth Gymreig Genedlaethol, yn benodol o'i gymharu â hunaniaeth Albanaidd genedlaethol. Codwyd pwynt am gryfder cymharol gwasgariad diwylliannol Yr Alban gan nodi cryfder ei 'brand' cenedlaethol (h.y. y cilt, yr hagis a'r bacbibau) o'i gymharu â Chymru. Efallai bod diffyg hunaniaeth weledol yng Nghymru y gellir galw arni yn yr un ffordd ag yn Yr Alban.
Ystrydebau Cymreig yn y cyfryngau: Mae'r Cymry yn aml yn cael eu portreadu fel pobl blwyfol dwp gydag acenion doniol yn hytrach na phobl real. Mae hyn yn dechrau newid gyda dyfodiad (er enghraifft) sioeau fel Y Gwyll, sydd lawer mwy cymhleth ac amlhaenog.
Ymchwiliwyd i'r syniad o hanes Cymru, a'i effaith ar sîn celfyddydau Cymru a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymry yn yr oes bresennol. Ydy hanes a diwylliant yn rhywbeth y mae'n rhaid i chi ymwneud yn weithredol â nhw er mwyn bod yn Gymreig neu a allwch fod yn Gymreig dim ond oherwydd eich tras neu'r lle y cawsoch eich geni.
Y gwahaniaeth rhwng theatr (neu waith celf) sy'n 'ymwybodol' o'i gymharu ag 'anymwybodol' o Gymreig: os yw rhywun wedi'i eni yng Nghymru ac wedi byw try gydol ei fywyd yng Nghymru, a oes angen iddynt fynd ati i geisio cynhyrchu gwaith Cymreig, a fydd y gwaith y maent yn ei gynhyrchu'n 'anymwybodol' Gymreig yn rhinwedd eu profiad o lygad y ffynnon? Nid dyma rywbeth y dylid bob amser cilio ohono - os yw pobl eisiau llunio gwaith sy'n bwrpasol Gymreig ac maent wedi'u hysbrydoli - er enghraifft - gan hanes a diwylliant Abertawe, oni ddylent greu gwaith am hynny?
Cymreictod 'Penboeth' yn erbyn Cymreictod 'Esmwyth'. Nodwyd yr Eisteddfod fel enghraifft o Gymreictod 'esmwyth', grŵp o bobl sy'n ddigon balch ond hefyd yn ddigon sicr a chyfforddus yn eu hunaniaeth Gymreig fel nad ydynt yn teimlo'r angen am frolio amdano. Efallai bod hon yn enghraifft o ddigwyddiad sydd yn amlwg yn Gymreig ond ddim yn ymwybodol o Gymreig - ychydig iawn o bobl mewn Eisteddfod fyddai'n dweud 'rydym yn dod ynghyd i ddathlu bod yn Gymry', byddent yn dweud 'rydym yn dod ynghyd i ddathlu celf, cerdd a theatr', ond byddai neb yn dweud nad oedd yr Eisteddfod yn Gymreig.
Wrth edrych at y gorffennol, mae diffyg traddodiad theatr amlwg yng Nghymru ond efallai nad rhywbeth gwael mo hwn. Os byddwn ni fel artistiaid yn stopio ceisio chwilio am ein traddodiad yn y gorffennol ond yn edrych at y dyfodol fel cyfle i greu traddodiad theatraidd newydd mae gennym gyfle i wneud argraff enfawr ar y byd.
Trafodwyd gwaith Dylan Thomas fel enghraifft o rywun aeth ati'n weithredol i wadu neu ymladd yn erbyn ei hunaniaeth Gymreig (gan wrthod dysgu'r Gymraeg, ffugio ynganiad safonol a mynnu'r dull Saesneg o ynganu ei enw) ond dywedwyd y byddai'n dychwelyd i Gymru pryd bynnag y daeth y felan artistig arno. Nid oedd ei waith yn ymwybodol Gymreig, efallai y gellir dadlau ei fod yn ymwybodol Seisnigaidd, ond fe'i symbylwyd yn anymwybodol gan ei dreftadaeth, tirwedd a chartref yng Nghymru. Roedd yn Gymreig ni waeth ym mha acen y siaradodd neu ba enw bynnag a ddewisai.
Trafodwyd Abertawe a dyfodiad Frantic Assembly fel cwmni a gofleidiodd y feddylfryd 'llechen wag' hon i greu eu hiaith a thraddodiad theatraidd eu hunain. Yn hytrach na chanolbwyntio ar gynnwys y storïau y maent yn eu hadrodd, maent wedi canolbwyntio ar yr iaith a ddefnyddiant i'w hadrodd. Mae eraill wedi mabwysiadu'r iaith hon a (gellir dadlau) bod dull ‘Frantic Assembly’ o adrodd stori wedi dod i'r amlwg. A allai Cymru wneud yr un peth?
I grynhoi, honnwyd bod Cymru - neu theatr yng Nghymru - yn teimlo'r angen am fynegi ei Chymreictod oherwydd nad yw'n ddigon hyderus eto i deimlo'n esmwyth o fewn yr hunaniaeth honno. Pan fydd yn cyrraedd y pwynt hwnnw, ac fe fydd yn gwneud hynny cyn bo hir, bydd yn stopio gwneud storïau am Gymru ac yn dechrau gwneud theatr sydd yn amlwg yn Gymreig. Mae mewn sefyllfa unigryw i wneud hyn oherwydd y berthynas ddeinamig rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ac oherwydd nad oes gan ganddi fagad gofalon traddodiad theatraidd dominyddol neu sefydledig. Os gall gwneud hyn bydd yn creu argraff enfawr ar y byd.


DS - Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar wefan NTW (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt yr ydych yn eu cynnwys ynddo). Os hoffech chi i NTW drosglwyddo unrhyw gwestiynau y cânt am yr adroddiad hwn, nodwch eich cyfeiriad e-bost yma (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall).

Views: 99

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service