Session Notes: Where is the Mid-Scale Work

Some thoughts about recording your session

What is the title of your session?

Where is the mid-scale work?

What is the name of the person who called the session?

Bud

Who attended the session? (You can pass this piece of paper round and ask people to write their name on it.)

Bud, Matteo, Frank, Sam, Ruth, Jeremy, Fi, Jen, Bridget, Gavin, Hannah, Simon, Kully

Summary of discussion: (Notes, ideas, further questions, conclusions, recommendations for actions to take, contact details of relevant people / organisations etc)

Do we mean ‘mid-scale’ as audiences attendance or size of piece?
- The audiences attending theatre is so low that it’s hard to justify any midscale work. We mean the scale of the4 art, but without the audience attending, we can’t create work of scale or quality. Quality of work is stretched thinly.

Levels of funding can be restrictive in making the jump from small to mid. Funding deadlines, funding caps, lack of trust in artists who have only ever been able to achieve small scale due to funding.

- Risk taking- need a name behind you for people to trust that you are capable of making bigger work. Catch 22- can’t exposure of making bigger work, so can’t get funding to make bigger work.

Touring logistics- sizes of staged vary, limited by target audiences, touring demands- 1 day get-ins, venues only booking 1night shows, geography.

Is the issue that the audiences aren’t there so the venues can’t sustain mid-scale?

`Venues not taking risks in their bookings.

ACW – all work heavily subsidised.
Is there a lack of confidence in work created in Wales because we’re not able to show what we can do across the border? Having a successful show outside Wales validates the quality for venues and funding bodies. We don’t trust in Wales’s own artists!!

ACW not willing to fund work outside Wales means that work is never validated/values i.e artists never develop.

- Have extra control measures come in place due to misues of funds that means ACW funding process is now too rigorous?
-Do the people of Wales even want to see theatre?

Only as a company can you apply for ACE funding, not as an individual?

What do we mean by mid-scale venues? Sherman main stage is used for mid-scale touring, but is one of the biggest theatres in Wales.

How do we as emerging artists make the leap from small to mid-scale?

-Co-operative artists – collective of independent artists sharing of resources etc.

Possible actions out of this!!

- Conversations about structural / infrastructural support.
- Companies networking together, creating tours together.
- Do we need a ‘space’ to go to so we can work together, not try and develop these ideas alone?
- DO we need to change our touring model?
- Should the existing bigger organisations be trying to harder co-produce, not just put their names to stuff?
- What does a proper co-producing relationship look like?
- Division of labour between companies and bigger venues!

NB- This report will be published on the NTW website (including any e-mail addresses and contact details you include in it). If you would like NTW to pass on any questions they get about this report, please write your e-mail address here (your address will not be published or used for any other purpose

Rhai syniadau ynghylch cofnodi eich sesiwn

 

Beth yw teitl eich sesiwn?

Ble mae'r gwaith canolig ei faint?

Beth yw enw'r person a alwodd y sesiwn?

Bud

Pwy ddaeth i'r sesiwn? (Gallwch basio'r darn hwn o bapur o gwmpas a gofyn i bobl ysgrifennu eu henwau arno.)

 

Bud, Matteo, Frank, Sam, Ruth, Jeremy, Fi, Jen, Bridget, Gavin, Hannah, Simon, Kully

Crynodeb o'r drafodaeth: (Nodiadau, syniadau, cwestiynau, casgliadau, argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd, manylion cyswllt pobl/sefydliadau perthnasol ac ati)

 

A ydym yn golygu 'canolig ei faint' o ran niferoedd cynulleidfaoedd neu faint y darn?

  • Mae'r cynulleidfaoedd sy'n mynychu'r theatr mor isel fel ei bod yn anodd cyfiawnhau unrhyw waith canolig ei faint. Rydym yn golygu graddfa y gelfyddyd, ond heb i'r gynulleidfa fynychu, ni allwn greu gwaith o faint neu ansawdd. Mae ansawdd gwaith wedi'i wasgaru'n denau.

 

Gall lefelau cyllid fod yn rhwystr wrth wneud y naid o fach i ganolig. Dyddiadau cau cyllid, capiau cyllid, diffyg ymddiriedaeth mewn artistiaid sydd ond erioed wedi gallu cyflawni graddfa fach oherwydd cyllid.

  • Cymryd risgiau - angen enw y tu ôl i chi er mwyn i bobl gredu eich bod yn gallu gwneud gwaith mwy o faint. Magl - methu cael yr amlygiad drwy wneud gwaith mwy o faint, felly methu cael cyllid i wneud gwaith mwy o faint.

Logisteg teithio - maint llwyfannau yn amrywio, cyfyngiad o ran cynulleidfaoedd targed, galwadau teithio - 1 diwrnod i osod, lleoliadau yn derbyn sioeau am 1 noson yn unig, daearyddiaeth.

Ai'r broblem yw nad yw'r cynulleidfaoedd yno felly ni all y lleoliadau gynnal gwaith canolig ei faint?

Lleoliadau yn peidio â chymryd risgiau wrth dderbyn cynyrchiadau.

Cyngor Celfyddydau Cymru – yr holl waith yn cael cymhorthdal mawr.

A oes diffyg hyder mewn gwaith a grëwyd yng Nghymru oherwydd ni allwn ddangos yr hyn y gallwn ei wneud ar draws y ffin? Mae cael sioe lwyddiannus y tu allan i Gymru yn dilysu'r ansawdd ar gyfer lleoliadau a chyrff cyllido. Nid ydym yn ymddiried yn artistiaid Cymru ei hun!!

 

Nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn barod i gyllido gwaith y tu allan i Gymru ac mae hynny'n golygu nad yw gwaith byth yn cael ei ddilysu/gwerthfawrogi h.y. nid yw artistiaid byth yn datblygu.

 

  • A yw mesurau rheoli ychwanegol nawr ar waith oherwydd camddefnyddio cronfeydd sy'n golygu bod proses ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru yn awr yn rhy llym?

-A yw pobl Cymru am weld theatr hyd yn oed?

 

Gallwch wneud cais am gyllid CCC fel cwmni yn unig, nid fel unigolyn?

Beth ydym yn ei olygu wrth leoliadau canolig eu maint? Defnyddir prif lwyfan y Sherman ar gyfer teithio cynyrchiadau canolig eu maint, ond hon yw un o theatrau mwyaf Cymru.

Sut rydym fel artistiaid sy'n dod i'r amlwg yn gwneud y naid o fach i ganolig ei maint?

-Artistiaid cydweithredol – cyweithfa o artistiaid annibynnol yn rhannu adnoddau ac ati.

Camau gweithredu posibl o hyn!!

 

  • Sgyrsiau am gymorth strwythurol / seilwaith.
  • Cwmnïau yn rhwydweithio gyda'i gilydd, yn creu teithiau gyda'i gilydd.
  • A oes angen 'gofod' arnom i fynd iddo fel y gallwn weithio gyda'n gilydd, nid ceisio datblygu'r syniadau hyn yn unig?
  • A oes angen i ni newid ein model teithio?
  • A ddylai'r sefydliadau mwy o faint sy'n bodoli eisoes wneud mwy o ydmrech i gydgynhyrchu, nid dim ond rhoi eu henwau ar bethau?
  • Sut beth yw perthynas cyd-gynhyrchu go iawn?
  • Rhannu'r gwaith rhwng cwmnïau a lleoliadau mwy o faint!

DS - Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar wefan NTW (gan gynnwys unrhyw gyfeiriadau e-bost a manylion cyswllt yr ydych yn eu cynnwys ynddo). Os hoffech chi i NTW drosglwyddo unrhyw gwestiynau y cânt am yr adroddiad hwn, nodwch eich cyfeiriad e-bost yma (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi na'i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall).

Views: 194

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service