Sioe i bawb o bob oed, sy’n dathlu’r berthynas rhwng tad a’i ferch

Y gwanwyn hwn bydd cynhyrchiad Run Ragged Jem & Ella yn teithio o gwmpas theatrau ledled Cymru. Y perfformiad a’r coreograffi gan y tad a’r ferch, Jem Treays ac Ella Treays. Cyfarwyddwyd gan Paula Crutchlow.

Mae Ella wth ei bodd gyda bale ac mae Jem yn ddawnsiwr cyfoes a gwneuthurwr theatr proffesiynol.

Mae Jem and Ella yn sioe am newid: mae Ella yn 12 oed ond bydd yn ei harddegau cyn hir; mae Jem bellach yn 50 ac yn dechrau colli’i wallt.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi ceisio cipio’r newid hwn drwy recordio eu sgyrsiau a’u dawnsfeydd yn y gegin, tra’n sylwi ar y defodau, yr anghytuno a’r enydau agos y maent wedi’u cael fel tad a merch.

Mae’r sioe yn gyfuniad o fideo cartref, deialog a dawns. Mae wedi’i hanelu at oedolion a phlant fel ei gilydd – mae’n arbennig o addas i dadau a merched.

Meddai Jem Treays:
“Pan ofynnodd Ella i mi greu gyda hi - roeddwn wrth fy modd. Mae datblygu’r gwaith dros y tair blynedd diwethaf wedi rhoi cyfle i i mi ddawnsio gyda hi a’i gwylio hi’n tyfu. Mae’r gwaith ei hun yn fyw, yn egnïol, yn llawn byrfyfyr a naws. Rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn ei gael yn ddoniol, yn ddifyr, yn deimladwy ac yn rhywbeth sy’n ysgogi’r meddwl, a’n bod yn llwyddo i ddatgelu peth gwirionedd am y berthynas rhwng tadau a merched.”

Meddai Ella Treays:
“Rwy’ wedi mwynhau gwneud y sioe oherwydd rwy’n hoffi dawnsio gyda dad. Rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn ei mwynhau, yn cael hwyl gyda ni ac yn adnabod pethau o’u perthnasoedd eu hunain. Mae gweithio gyda fy nhad wedi bod yn hwyl AC yn llawn straen.”


Bydd Jem & Ella i’w gweld rhwng
Dyddiadau’r daith

13 Mawrth - 9 Ebrill 2016

13 Mawrth 2016 – Canolfan Gelfyddydau’r Miwni Pontypridd 7pm
29 Mawrth 2016 – Theatr Torch 7:45pm
31 Mawrth 2016- Glan yr Afon 2:30pm
2 Ebrill 2016 - Theatr Ardudwy,Harlech 7:30pm
8 Ebrill 2016- Theatr Sherman 7:30pm
9 Ebrill 2016 – Theatr Sherman 2:30pm & 7:30pm

Twitter: @runraggedance #jemandella #daddancing

Facebook: Run Ragged Productions

Views: 189

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service