Sioeau Cerdd Cwta yng Nghanolfan Mileniwm Cymru- Cyfle i artistiaid

Sioeau Cerdd Cwta gan Cynhyrchiadau Leeway yng Nghanolfan Mileniwm Cymru- 2018



Yn dilyn llwyddiant prosiectau 2017 yn The Other Room, Pontio, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, fe fydd Cynhyrchiadau Leeway unwaith eto yn datblgu ei rhaglen gyffrous ac arloesolol Sioeau Cerdd Cwta yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2018.


Galwad am:


Cyfansoddwyr/ Dramodwyr/ Beirdd/ Cerddorion/Ysgrifenwyr/ Bîtbocswyr/ Artistiaid hip-hop.…rydym yn annog unrhyw artist i geisio. Mae Cynyrchiadau Leeway yn annog artistiaid anabl a byddar i wneud cais ac i gyfranu at y prosiect.


-Mae Sioeau Cerdd Cwta yn edrych am leisiau gwreiddiol ffres, sy’n fodlon gwthio ffiniau ac arbrofi gyda dulliau creadigol, er mwyn datblygu yn eu maes.

-Mae Cynhyrchiadau Leeway eisiau i chi fod yn agored i chwarae, ac yn barod i arbrofi gyda dulliau newydd er mwyn datblygu’r sgiliau cyd-weithio

-Bydd angen i chi ymroi i’r 3 gweithdy, gan gynnwys rhannu gwaith ag arfer dda yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Sioeau Cerdd Cwta- Chwefror 2018 :

-Gweithdy 1 : Chwefror 11       // 10yb – 5yh  //  Canolfan Mileniwm Cymru
-Gweithdy 2 : Chwefror 18      // 10yb-5yh //      Canolfan Mileniwm Cymru
-Gweithdy 3:  Chwefror 25     // 10yb -6yh //     6yh- Rhannu’r gwaith yng Nganolfan Mileniwm Cymru
-Perfformiad: Chwefror 27:  //  7yh  //              Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Y gost: AM DDIM

Yn cynnwys 3 penwythnos, mentoriaeth, templed o weithgareddau a’r cyfle i rannu eich gwaith ynh Nghaonolfan Mileniwm Cymru a Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Sut i wneud cais?

Gallwch wneud cais fel artist unigol lle y byddwch yn cael eich cyplysu gydag artist arall

NEU

fe allwch wneud cais fe tîm o ysgrifenwr a chyfansoddwyr.

Anfonwch enghraifft fer o’ch gwaith ynghyd â CV/ Biog, neu ychydig amdanoch chi eich hun, a’r hyn yr hoffech elwa o’r cyfle at: leewayprods@gmail.com

Fe fydd angen i chi gynnwys eich enw, cyfeiriad ebost a rhif ffon.

Dyddiad cau: 30 Ionawr

                                               ----------------------------------------
Trefnir ac arweinir y rhaglen gan Cynhyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mi fydd cyfres o weithdai datblygiadol ac arbrofol yn arwain at greu darn o waith cerddorol deng munud o hyd.

Galwad am artistiaid:
Gyda Chaerdydd wedi’i henwi’n Ddinas Cerddoriaeth gyntaf gwledydd Prydain, mae Cynyrchiadau Leeway yn arwain y ffordd o ran creu theatr gerddorol newydd ar gyfer y genhedlaeth newydd.

Mae’r cyhoeddiad cyffrous yma o fudd enfawr i ni fel cwmni er mwyn i ni allu annog a meithrin doniau unigolion ac artistiaid mwy amrywiol i feddwl am creu gwaith cerddorol yng Nghymru.

Meddai Jane Oriel ynglyn a’r brosiect cyntaf oll:
‘Mae’r wythnos ymarferol arbrofol wedi agor cyfoeth o bosibiliadau newydd ar gyfer theatr cerdd yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn agoriad llygaid i ddysgu a chadarnhau bod llawer mwy yn bosib o’r dull yma o gelf nad oeddwn wedi disgwyl. Da iawn i bawb a fu ynghlwm a’r fenter ac edrychaf ymlaen at weld datblygiadau pellach’.

Yr ydym bellach yn galw ar bobl greadigol newydd sy'n awyddus i roi cynnig ar ysgrifennu sioe gerdd, a hefyd artistiaid mwy sefydlog sydd efallai am uwchsgilio a rhwydweithio â phobl greadigol newydd.
Mae Sioeau Cerdd Cwta yn ffordd wych o rhwydweithio, datblygu eich ymarfer presennol, ac edrych yn ofalus ar pa gymorth sydd angen arnoch wrth ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu ar gyfer y ‘genre’ hwn. Rydym yn annog sgwrs barhaus â phobl greadigol ac yn credu bod y prosiect datblygiad creadigol hwn yn sbardun mawr tuag at daflu goleuni newydd ar sut rydych yn gweithio fel arfer.


Meddai Peter Cox, awdur a weithiodd ar ein prosiect diwethaf:

‘Pan welais y cyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect cyffrous hwn fe wnaeth taro nerf gyda mi: ‘on i’n deall yn iawn beth oedd nod y prosiect ar unwaith. Y cysyniad, y posibiliadau a'r potensial, yr ymarferoldeb. Y lot! Gwelais hi fel math o 'Blind Date' ar gyfer phobl greadigol heb unrhyw ragdybiaethau. Dim cynllunio. Jest troi i fyny. Cyfarfod. Creu. Perfformio! Nawr ar ôl ei wneud yr wyf wrth fy modd y trodd i fod yn union yr hyn yr oeddwn wedi gobeithio- ysgogol, yn heriol, yn gynhyrchiol ac yn hwyl.’

Dyweddodd beirniaid a darlledwr Lowri Haf Cook:


‘Fe’m cludwyd dros dro, gan y pedwar cynhyrchiad, i fydoedd tra gwahanol. Yr hyn a sefydlwyd yn bendant oedd yr ysfa gynyddol gan nifer am theatr cerddorol ymylol yng Nghaerdydd – a thu hwnt- mewn ymateb i’r ‘brain drain’ syrffedus i’r West End yn Llundain gan dalentau Cymreig. Gyda lleoliad berffaith ar ein cyfer, bar Porters yng nghnaol y ddinas, ymddengys fod yma hadau gwirioneddol o gynnwrf, a thalent eithriadol ar waith.’


Bu Francois Pandolofo, actor ac awdur, ynghlwm â’r prosiect cyntaf. Dywedodd e:

‘Roedd y prosiect cyffrous newydd, nid yn unig yn anrhydedd i fod yn rhan ohono, ond roedd y sylfaen a’r broses yn agoriad llygaid i bosibiliadau a darganfyddiadau newydd wrth weithio gyda thîm o bobl greadigol eraill. Beth wnaeth fy niddori i yn bennaf, oedd y ffaith y cawsom y cyfle i gael ein hannog i rannu ein greddf er mwyn meithrin a datblygu adrannau o’n sgiliau na fyddwn wedi darganfod o’r blaen, gan amlygu’r gwendidau a’r cyfyngiadau yn y broses greadigol. Fel awdur, roeddwn eisiau cael gafael a rheolaeth ar yr adroddiant.Roedd hyn yn heriol a hollol newydd ond yn amlwg wedi’i greu yn ofalus gan Cynhyrchiadau Leeway i fod yn fentrus a thrwm er mwyn ehangu ac ymestyn cwmpawd ein dawn creadigol sydd y tu allan i’r norm, gan ddatblygu yr hyn sydd ar yr wyneb braidd yn flinedig, di - fflach a di- ddychymyg. Arbrofi syniadau a methodolegau newydd a ffres ydy’r nod. Mae’r model yma yn un yr hoffwn i weld yn digwydd mwy a mwy fel ffordd o ddatblygu cyd-weithio gan agor fforwm er mwyn cynnal trafodaeth ac ymchwiliad yn hytrach na llenwi ffurflenni neu wahanu rôl pobl a glynu at ganllawiau llym creadigol’

Views: 451

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service