Sometimes we look up and can barely believe we are living through this moment...

After nearly three months spent with us so far, all in lockdown, and following more seismic shift in our global, national and local consciousness over the last two weeks – Artistic Director Lorne reflects on where we find ourselves, and where we go from here.

I, and everyone else who holds any sort of power in this moment, needs to feel the weight of it. The responsibility and the possibility of our power should be felt with a great sharpness. As individuals, as organisations, as nodes and elements of larger systems we must not allow ourselves to grow used to that sharpness. We must not learn to live with it. We must not turn our bodies so that the bite is less painful. We must turn towards it, engage with the difficulty and the pain: examine our behaviour; share our power; widen our reference; demand our accountability; audit our actions.

I have always tried to understand theatre in terms of its usefulness and its porousness. To ask the questions:

  • To whom are we being useful and how?
  • When ‘we’ say ‘we’ who do ‘we’ mean?
  • Can the nature, practise and action of the theatre be effectively changed and challenged by those who are not employed by it?

For cultural organisations of all kinds, and those with the title of ‘National’ in their names even more so, a historical moment such as this demands that we face the fundamental question we should always be facing. ‘Are we useful?’ For a national theatre the question is not ‘what does the national theatre want to become’ but rather, ‘what kind of tool must we be in this moment to help shape a society that we wish to be part of’.

NTW is 10 years old. Its formation was an act of optimism and ambition. It is an act that speaks to the short term and the long. It says ‘we believe theatre can be an engine of progress in our society, that can hold open crucial spaces for the understanding, evolution, dissection and reimagining of who and what we are’. The critical word in this sentence is ‘can’. Theatre can be these things; it can also fail to be these things. It can also be a dead space, a reactionary space, an exclusionary space, a closed shop, an irrelevant space.

As was shown so powerfully by the toppling and drowning of the statue of Edward Colston on Sunday, symbols are important, history can be retold. Things that appear fixed can be pulled down and their meaning changed. As a sector we are facing incredibly complex and overlapping challenges. It can feel overwhelming. It can feel impossible to know where to start. What small thing to do first to begin to address these vast, systematic issues of racism and inequality. It can feel like the change we seek is impossible. In order to act, it is crucial that we do two things:

  1. That we turn towards this painful, dizzying complexity. That we face our urgent problems and when we are overwhelmed, resolve to pick ourselves and each other up and go again.
  2. Always remember that change is not only possible, it is inevitable and we can make the difference between change for the better and change for the worse.

As a company we are trying to think and act for the short term and the long. Trying to deploy our resources, share our power and target our actions to where they can help now. At the same time, we are trying to plan for the long term, to interrogate ourselves, our structures, our systems, to offer transparency and invite scrutiny, conversation and challenge as we offer plans and action.

We are part of an industry that can be a powerful force for re-invention, healing and recovery, but there must be no doubt about the scale and immediacy of the crisis we are experiencing. Without decisive and sustained support from government the cultural sector and theatre in particular faces a level of hardship and fundamental damage to our workforce and infrastructure on a scale never experienced before. If our sector cannot support our freelancers through this crisis, there will not be a theatre worth having on the other side. If it cannot address systematic and structural racism in our industry and society, there will not be a theatre worth having on the other side. If it cannot put inclusion of all kinds at the centre of action and thinking there will not be a theatre worth having on the other side. If it cannot protect our theatre buildings and community spaces, large and small then there will not be a theatre worth having on the other side. If we cannot do all of this with sustainable, equitable and ecologically sound models then it is irrelevant anyway.

In countless zoom meetings over the last two and a half months it has been inspiring to meet so many of the passionate, dedicated and insightful people working for the advancement and survival of Welsh theatre and culture. I am hugely grateful to all those who have helped me begin to understand the specific challenges and opportunities in front of us. The way ahead will undoubtedly be hard but I am more convinced than ever that there is boundless possibility here and I am proud to be part of the collective endeavour to create the thing that comes next. There is great long term thinking and conversation struggling to be made manifest: In the Wellbeing of Future Generations act; In the highly engaged conversations being had in forums large and small across Wales; In attempts to apply thinking such as doughnut economic growth models or the insistence in getting our colonial history properly taught in our curriculum. The challenge, as always, is to ensure that our short-term actions all drive to our long-term goals, to believe that this is a moment in which we can do better.

“To be truly radical is to make hope possible rather than despair convincing” – Raymond Williams

Lorne

-----

Ar ôl treulio bron i dri mis gyda ni hyd yn hyn, y cyfan yn ystod y cyfnod o fod dan glo, ac yn dilyn rhagor o newid seismig yn ein hymwybyddiaeth fyd-eang, genedlaethol a lleol dros y pythefnos diwethaf – mae’n Cyfarwyddwr Artistig Lorne yn myfyrio ar ble rydym yn canfod ein hunain, ac i ble yr ydym yn mynd o fan hyn.

Mae angen i mi, a phawb arall sy’n dal unrhyw fath o bŵer yn y funud hon, deimlo ei bwysau. Dylai’r cyfrifoldeb a phosibilrwydd ein pŵer gael eu teimlo gydag awch. Fel unigolion, fel sefydliadau, fel cydrannau ac elfennau o systemau mwy, rhaid inni beidio â gadael i ni ein hunain dyfu’n gyfarwydd â’r awch hwnnw. Rhaid inni beidio â dysgu byw gydag ef. Rhaid i ni beidio â throi ein cyrff fel bod y brathiad yn llai poenus. Rhaid i ni droi tuag ato, ymgysylltu â’r anhawster a’r boen: archwilio ein hymddygiad; rhannu ein grym; ehangu ein cyfeiriad; mynnu ein hatebolrwydd; archwilio ein gweithredoedd.

Yr wyf bob amser wedi ceisio deall theatr yng nghyd-destun ei defnyddioldeb a pha mor hydraidd ydyw. Ac i ofyn y cwestiynau:

  • I bwy ydym ni’n ddefnyddiol a sut?
  • Pan fyddwn ‘ni’ yn dweud ‘ni’ pwy ydym ‘ni’ yn eu golygu?
  • A ellir newid a herio natur, ymarfer a gweithredu theatr yn effeithiol gan y rhai nad ydynt yn cael eu cyflogi ganddi?

I sefydliadau diwylliannol o bob math, a’r rhai sydd â’r teitl ‘Cenedlaethol’ yn eu henwau hyd yn oed yn fwy felly, mae moment hanesyddol fel hon yn mynnu ein bod yn wynebu’r cwestiwn sylfaenol y dylem fod yn ei wynebu bob amser. ‘A ydym ni’n ddefnyddiol?’ Ar gyfer theatr genedlaethol nid ‘beth yw’r theatr genedlaethol am fod’ yw’r cwestiwn, ond yn hytrach, ‘pa fath o offeryn y mae’n rhaid inni fod yn y foment hon i helpu i lunio cymdeithas yr ydym am fod yn rhan ohoni?’.

Mae NTW yn 10 mlwydd oed. Roedd ei ffurfio yn weithred o optimistiaeth ac uchelgais. Mae’n weithred sy’n siarad â’r tymor byr a’r hir. Mae’n dweud ‘rydym yn credu y gall theatr fod yn ysgogwr ar gyfer cynnydd yn ein cymdeithas, a all ddal mannau hollbwysig yn agored ar gyfer deall, esblygu, datgysylltu ac ail-ddychmygu pwy a beth ydym ni’. Y gair allweddol yn y frawddeg hon yw ‘gall’. Gall theatr fod y pethau hyn; gall hefyd fethu â bod y pethau hyn. Gall hefyd fod yn fan marw, yn fan adweithiol, yn fan sy’n allgau, yn siop gaeedig, yn fan amherthnasol.

Fel y dangoswyd mor rymus gan dynnu a boddi cerflun Edward Colston ddydd Sul, mae symbolau yn bwysig, gellir ail-ddweud hanes. Gall pethau sy’n ymddangos yn sefydlog gael eu tynnu i lawr a gellir newid eu hystyr. Fel sector, rydym yn wynebu heriau hynod gymhleth sy’n gorgyffwrdd. Gall deimlo’n llethol. Gall deimlo’n amhosibl gwybod ble i ddechrau. Pa beth bach i’w wneud yn gyntaf i ddechrau mynd i’r afael â’r materion enfawr a systematig hyn o hiliaeth ac anghydraddoldeb. Gall deimlo bod y newid a geisiwn yn amhosibl. Er mwyn gweithredu, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud dau beth:

  1. Ein bod yn troi tuag at y cymhlethdod poenus a dyrys hwn. Ein bod yn wynebu ein problemau brys a phan fydd pethau’n mynd yn drech na ni, ein bod yn penderfynu codi ein hunain a’n gilydd ar ein traed a rhoi cynnig arall arni.
  2. Cofio bob amser bod newid nid yn unig yn bosibl, mae’n anochel a gallwn ni wneud y gwahaniaeth rhwng newid er gwell a newid er gwaeth.

Fel cwmni rydym yn ceisio meddwl a gweithredu ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir. Yn ceisio defnyddio ein hadnoddau, rhannu ein pŵer a thargedu ein gweithredoedd i’r mannau lle gallant helpu nawr. Ar yr un pryd, rydym yn ceisio cynllunio ar gyfer y tymor hir, i holi ein hunain, ein strwythurau, ein systemau, i gynnig tryloywder ac i wahodd craffu, sgwrs a her wrth i ni gynnig cynlluniau a chamau gweithredu.

Rydym yn rhan o ddiwydiant sy’n gallu bod yn rym pwerus ar gyfer ail-ddyfeisio, gwella ac adfer, ond mae’n rhaid bod dim amheuaeth am raddfa a brys yr argyfwng yr ydym yn ei brofi. Heb gefnogaeth bendant a pharhaus gan y llywodraeth, mae’r sector diwylliannol a’r theatr yn arbennig yn wynebu lefel o galedi a niwed sylfaenol i’n gweithlu a’n seilwaith ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen. Os na all ein sector gefnogi ein gweithwyr llawrydd drwy’r argyfwng hwn, ni fydd theatr gwerth ei chael ar yr ochr arall. Os na all fynd i’r afael â hiliaeth systematig a strwythurol yn ein diwydiant a’n cymdeithas, ni fydd theatr gwerth ei chael ar yr ochr arall. Os na all roi cynhwysiad o bob math wrth wraidd gweithredu a meddwl, ni fydd theatr gwerth ei chael ar yr ochr arall. Os na all amddiffyn ein hadeiladau theatr a’n mannau cymunedol, yn rhai mawr a rhai bach, yna ni fydd theatr gwerth ei chael ar yr ochr arall. Os na allwn wneud hyn i gyd gyda modelau cynaliadwy, teg ac ecolegol gadarn, yna mae’n amherthnasol beth bynnag.

Mewn cyfarfodydd zoom di-ri dros y ddeufis a hanner diwethaf ,mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i gwrdd â chynifer o’r bobl angerddol, ymroddgar a chraff sy’n gweithio er datblygiad a goroesiad theatr a diwylliant Cymru. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi fy helpu i ddechrau deall yr heriau a’r cyfleoedd penodol sydd o’n blaenau. Bydd y ffordd ymlaen yn ddi-os yn anodd ond rwy’n fwy argyhoeddedig nag erioed fod posibilrwydd di-ben-draw yma ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r ymdrech ar y cyd i greu’r peth sy’n dod nesaf. Mae llawer iawn o feddwl a sgwrsio tymor hir sy’n ymdrechu i ddod i’r amlwg: yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; yn y sgyrsiau hynod frwd a geir mewn fforymau mawr a bach ar draws Cymru; mewn ymdrechion i gymhwyso meddwl megis modelau twf economaidd toesen neu fynnu bod ein hanes trefedigaethol yn cael ei addysgu’n briodol yn ein cwricwlwm. Yr her, fel bob amser, yw sicrhau bod ein camau gweithredu tymor byr i gyd yn anelu at ein nodau tymor hir, i gredu bod hon yn foment lle gallwn wneud yn well.

“To be truly radical is to make hope possible rather than despair convincing” – Raymond Williams

Lorne

Views: 31

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

© 2020   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service