"The dreams are like ancient scripture, we treat them reverently. These are fragments of peoples subconscious" - Emily Laurens

Dream a Little Dream For Me by Emily Laurens

I have been living with dreams for 3 weeks now. Other peoples dreams. I dream about dreams. Other peoples nightmares have given me nightmares. In Wales May is a time when the veil between worlds is thin, Calan Mai, May Day Eve, is ysbryd nos, a spirit night, much like it's autumnal opposite Halloween. And while this veil is thin I have been dipping in and out of other people's dreams.

When I submitted my idea to National Theatre Wales at the beginning of lockdown I though the idea was quirky and fun. But the more I sink into it the more important and deep it feels. Lorne Campbell (NTW's new artistic director) talked about it functioning like an antenna held up into the static of our collective unconscious, to gauge something deeper than mood or attitude. As so often happens as an artist I had an idea which I didn't fully understand yet. But other people seemed to and it was commissioned as part of NTW's Network series.

The title is a slight miss-quote from a 1930's song, I wanted it to have a lyrical feel. Music and sound are important as this is strictly visual storytelling. The shared language of art and dreams. Luckily I am in lockdown with my dear friend Henry Sears who happens to be a fantastic multi-instrumentalist. As dreams started to trickle in via an online form, my studio - usually a very multi-purpose space - began to transform. Right in the centre of this old 19th century weaving shed in my garden I built a little puppet theatre booth complete with gold proscenium arch and red velvet curtains. Lighting has been installed, microphones, various other pieces of mysterious technical kit and of course a webcam. My studio has been refigured. It feels like a totally different space. A space for dreams to take shape in, it is like walking into the inside of someone else's head.

The dreams are like ancient scripture, we treat them reverently. These are fragments of peoples subconscious. There are personal things: mothers appearing naked, neighbour disputes, jealousy and envy; hilarious things like Neil Kinnock being a modernist poet, penguins for hire, lamb chops getting married to each other; and a lot of anxiety - going on stage unprepared, losing your memory, being chased by scary characters, flooding and even trailer reversing anxiety. And there are truly beautiful things like this:

three winged horses, black, shining black with silver highlights on wing feathers, wading through shallow waters, going deeper, wading and prancing, stunning. Purposeful, playful.”

Our pattern has been this: we choose a dream on Sunday evening and spend a few days talking about it over cups of tea whilst doing our other jobs and looking after our respective children. Then on Thursday I paint all day. Most of the dreams are made up of puppets painted onto cardboard and painted backdrops. For some dreams this has been a real tour-de-force of painting! But I revelled in how it brought together my twin passions of visual art and performance. I tried to pick a different palate of colours for each dream and we followed any hints or clues we could to give the dreams texture and detail. For instance the first dreamer came from Cornwall so I chose Truro as the town in the backdrop, the third dreamer mentioned a Lars von Trier film and the characters from that film became the inspiration for the people in the dream. On Friday and Saturday we put the dream together with help from the wonderful outside eyes of Nigel and Louise of Shunt and a fantastic technical team from NTW. We broadcast live at 9.30pm on Saturday night.

Dreams are considered important by psychologists and psychoanalysts. Freud thought that dreams provided special insight into our deepest selves. Jung saw dreams as an attempt by the subconscious communicate and an important part of personality development. Many modern psychologists believe that dreams consolidate and organise our memories like a kind of neurological housecleaning, sweeping away trivial memories from the previous day and storing the important ones more securely. It is impossible to say whether dreams foretell the future, allow us to commune with the divine, or (most likely) provide a better understanding of ourselves, but this felt like the perfect moment to celebrate our dreams.

The final dream “Sloth” will be broadcast live at 9.30pm on Saturday the 30th of May.

----

Dream a Little Dream For Me gan Emily Laurens

Rwyf wedi bod yn byw gyda breuddwydion ers 3 wythnos bellach. Breuddwydion pobl eraill. Rwy'n breuddwydio am freuddwydion. Mae hunllefau pobl eraill wedi rhoi hunllefau i mi. Yng Nghymru, mae mis Mai yn amser lle mae'r llen rhwng bydoedd yn denau, Calan Mai, Noswyl Gŵyl Fai yw ysbryd y nos, yn debyg i'w hafal gwrthwynebol hydrefol, Calan Gaeaf. A thra bod y llen yn denau, rwyf wedi bod yn mynd a dod i mewn ac allan o freuddwydion pobl eraill.

Pan gyflwynais fy syniad i Theatr Genedlaethol Cymru ar ddechrau'r cyfnod clo, roeddwn yn meddwl bod y syniad yn hwyliog ac yn od. Ond po fwyaf rwyf yn suddo i mewn iddo, y mwyaf pwysig a dwfn y mae'n teimlo. Soniodd Lorne Campbell (Cyfarwyddwr artistig newydd TGC) amdano'n gweithredu fel antena a ddelir i fyny i statig ein hymwybod torfol, i fesur rhywbeth dyfnach na hwyliau neu agwedd. Fel sy'n digwydd yn aml fel artist, roedd gen i syniad nad oeddwn yn ei ddeall yn llawn eto. Ond roedd pobl eraill i'w gweld yn hoffi'r syniad ac fe'i comisiynwyd fel rhan o gyfres Rhwydwaith TGC.

Mae'r teitl yn dod o ddyfyniad ychydig yn anghywir o gân o'r 1930au, roeddwn i am iddo gael ymdeimlad telynegol. Mae cerddoriaeth a sain yn bwysig oherwydd ei fod yn ffordd gwbl weledol yn unig o adrodd stori. Yr iaith a rennir gan gelf a breuddwydion. Yn lwcus, rwyf yn treulio'r cyfnod clo gyda fy ffrind annwyl, Henry Sears, sy'n digwydd bod yn aml-offerynnwr gwych. Wrth i freuddwydion dechrau dod i'r fei ar-lein, dechreuodd fy stiwdio - sydd fel arfer yn ofod aml-ddefnydd - drawsnewid. Yng nghanol yr hen sied gwehyddu o'r 19eg ganrif, adeiladais bwth theatr bypedau bach gydag arch prosceniwm aur a llenni felfed coch. Mae goleuadau, meicroffonau, amrywiaeth o offer technegol dirgel eraill ac wrth gwrs gwe-gamera wedi eu gosod. Mae fy stiwdio wedi ei cael ei hail-lunio. Mae'n teimlo fel gofod gwbl wahanol. Rhywle i freuddwydion ffurfio eu siâp, mae fel petai chi'n cerdded i mewn i ben rhywun arall.

Mae'r breuddwydion fel ysgrythurau hynafol, rydym yn eu trin yn ôl-ofalus. Maent yn ddarnau o isymwybod pobl. Mae pethau personol: mamau'n ymddangos yn noeth, anghydfod rhwng cymdogion, cenfigen ac eiddigedd; pethau doniol fel Neil Kinnock yn fardd modernaidd, pengwiniaid i'w llogi, golwythion cig oen yn priodi â'i gilydd; a llawer o bryder - mynd ar y llwyfan heb baratoi, colli eich cof, cael eich erlid gan gymeriadau brawychus, llifogydd a hyd yn oed pryder bacio trelar am yn ôl. Ac mae yna pethau hynod o hardd, fel yma:

“tri cheffyl ag adenydd, du, yn disgleirio'n ddu gyda aroleuadau arian ar blu adenydd, yn cerdded drwy ddyfroedd bas, yn mynd yn ddyfnach, yn cerdded ac yn carlamu, yn syfrdanol. Pwrpasol, chwareus.”

Dyma ein patrwm: rydym yn dewis breuddwyd ar nos Sul a threulio ychydig ddyddiau yn siarad amdani dros paneidiau o de wrth wneud ein swyddi eraill a gofalu am ein plant ein hunain. Yna, ar ddydd Iau, rwy'n paentio trwy'r dydd. Mae'r rhan fwyaf o'r breuddwydion wedi eu gwneud o bypedau ac yn cael eu paentio ar gardfwrdd a chefnlenni wedi eu paentio. Mae wedi bod yn gamp a hanner paentio rhai breuddwydion. Ond roeddwn yn ymhyfrydu yn y ffordd yr oedd yn uno fy angerdd am gelfyddyd weledol a pherfformiad. Roeddwn yn ceisio dewis paled o liwiau ar gyfer pob breuddwyd, ac fe ddilynon ni unrhyw awgrymiadau neu gliwiau i roi gwead a manylder i'r breuddwydion. Er enghraifft, daeth y breuddwydiwr cyntaf o Gernyw felly dewisais Truro fel y dref yn y cefndir, soniodd y trydydd breuddwydiwr am ffilm Lars von Trier a daeth y cymeriadau o'r ffilm honno yn ysbrydoliaeth i'r bobl yn y freuddwyd. Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn rydym yn rhoi'r freuddwyd at ei gilydd gyda chymorth gwych barn allanol Nigel a Louise o Shunt a thîm technegol ffantastig o TGC. Rydym yn darlledu'n fyw am 9.30pm ar nos Sadwrn.

Mae seicolegwyr a seicdreiddwyr yn ystyried breuddwydion i fod yn bwysig. Roedd Freud yn credu bod breuddwydion yn rhoi cipolwg arbennig i'n hunain dyfnaf. Roedd Jung yn gweld breuddwydion fel ymgais gan yr isymwybod i gyfathrebu a rhan bwysig o ddatblygu personoliaeth. Mae llawer o seicolegwyr modern yn credu bod breuddwydion yn atgyfnerthu ac yn trefnu ein hatgofion fel rhyw fath o dacluso niwrolegol, yn ysgubo atgofion dibwys o'r diwrnod blaenorol a storio'r rhai pwysig yn fwy diogel. Mae'n amhosib dweud a yw breuddwydion yn rhagweld y dyfodol, yn caniatáu i ni gyfathrebu gyda'r dwyfol, neu (yn fwyaf tebygol) yn darparu gwell dealltwriaeth o ni ein hunain, ond roedd hyn yn teimlo fel yr amser perffaith i ddathlu ein breuddwydion.

Bydd y breuddwyd olaf, "Sloth" yn cael ei ddarlledu'n fyw am 9.30pm ar nos Sadwrn 30 Mai.

Views: 48

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

© 2020   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service