Urgent - response to Cardiff Council budget // Mater brys - ymateb i gyllideb Cyngor Dinas Caerdydd

**Please scroll down for English text**
 
Helo,
Cyhoeddodd Cyngor Dinas Caerdydd eu cyllideb arfaethedig ar gyfer 2016-17 yr wythnos hon. 

Mae'n cynnwys toriadau i Artes Mundi, Cardiff Contemporary, Canwr y Byd Caerdydd yn ogystal â llawer o sefydliadau a lleoliadau celfyddydol a diwylliannol eraill. (Mae hyn yn dilyn penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cynnig Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre ar dendr i gwmnïau newydd.) Rhoddir mwy o gyd-destun am gyllideb y cyngor, yn ogystal â'r toriad o 5% a gyhoeddwyd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, yma yn The Stage

Rydym am gynnal cyfarfod gyda lleoliadau, sefydliadau, artistiaid a gweithwyr llawrydd ym meysydd celfyddydol a diwylliannol er mwyn:
1 - creu ymateb cydlynol - dewch draw ar bob cyfrif er mwyn i ni allu llunio cyfres glir o negeseuon y gallwn eu cyflwyno i'r cyngor fel dinasyddion, sefydliadau a'r sector
2 - cynllunio sut i ymgysylltu â'r cyhoedd a'r cyfryngau wrth ymateb i'r gyllideb arfaethedig

Yn y tymor canolig, rydym am i'r drafodaeth hon fod yn fan cychwyn ar gyfer perthynas agosach a hirdymor rhwng y sector a'r cyngor.

Hyd yn oed os nad ydych yn dibynnu'n uniongyrchol ar arian gan Gyngor Caerdydd, efallai y bydd y cynnig hwn yn effeithio ar sefydliadau yr ydych yn cydweithio neu'n ymgysylltu â nhw. Bydd y toriadau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gynulleidfaoedd / mynychwyr hefyd, gan gynnwys rhai a allai fod yn prynu eich tocynnau, yn cymryd rhan neu'n gwirfoddoli, ac ati. Wrth gwrs, bydd hefyd yn effeithio ar broffil Caerdydd fel dinas greadigol. Dewch i rannu eich syniadau am sut y gallwn gefnogi ein cydweithwyr a'r sector creadigol ehangach yn y ddinas.

Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2015, 09.15-10.30 ym Mhrifysgol Caerdydd 
(Adeilad / ystafell i'w gadarnhau yn dibynnu ar faint fydd yn dod. Caiff hyn ei gadarnhau ddechrau'r wythnos nesaf)

Mae croeso i bawb, ond rhaid cadw lle ar Eventbrite (er mwyn i ni w...

Rhowch wybod i eraill drwy eich sefydliadau a'ch rhwydweithiau fel bod cynifer o bobl â phosibl yn mynd i'r cyfarfod (dolen fer i'r testunhwn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, e-bost, ...). 

Gyda diolch,
Laura
 
++++++++++++++++++++++++++++
 
Hi,
This week, the City of Cardiff Council has announced their budget proposal for 2016-17
 
This includes cuts to Artes Mundi, Cardiff Contemporary, Cardiff Singer of the World and many other arts and cultural organisations and venues. (This is in addition to previous years' decisions, including tendering out St David's Hall and the New Theatre to new operators.) There is more context on the council budget and Arts Council of Wales' announced 5% funding cut here in The Stage
 
We are convening a joint meeting of arts and cultural venues, organisations, artists and freelancers, to:
1 - create a co-ordinated response - please come along and help to create a clear set of messages we can present to the council as citizens, organisations and the sector
2 - plan how to engage the public and media in responding to this budget proposal
 
In the medium term, we hope that this discussion can mark the beginning of the sector and the council developing a more engaged and long-term relationship.
 
Even if you are not directly dependent on Cardiff local authority funding, there may be organisations with which you collaborate or engage which will be affected by this proposal. These cuts will also have direct impacts on audiences/ attenders, some of whom might be your ticket buyers, participants, volunteers, etc. And of course it will impact the profile of Cardiff as a creative city. Please come and contribute ideas as to how we can support our colleagues and the wider creative sector in the city.
 
Wednesday 16th December 2015, 09.15-10.30 at Cardiff University 
(building/ room TBC depending on numbers attending, confirmed early next week)
 
 
Please share this through your organisations and networks to ensure maximum attendance at this meeting (short link to this text for social media, email, etc). 
 
With thanks,
Laura
 
-- 
 
Laura H Drane

Views: 414

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Laura H Drane on December 15, 2015 at 8:40

Hi, it's 9.15am tomorrow morning.

Comment by Conor Clarke McGrath on December 13, 2015 at 11:20

Is this 9:15 AM or PM?

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service