WILLIAM SMITH WINS WALES DRAMA AWARD 2016 / WILLIAM SMITH YN ENNILL GWOBR DRAMA CYMRU 2016

William Smith is the winner of the Wales Drama Award 2016, it was announced at a ceremony held this evening at Yr Hen Lyfrgell in Cardiff. He will receive £10,000 and the opportunity to develop his work with BBC Cymru Wales, BBC Writersroom and National Theatre Wales.

Swansea-born William graduated from the University of Wales, Newport with a degree in Film Studies in 2010. Since graduating he wrote the short film King of The Castle, which was made as part of the It's My Shout scheme and broadcast on BBC2 Wales in 2011, and Lift Jockeys, a short film produced in 2014. In addition to writing in his spare time, he’s previously worked as a producer and presenter for Radio Cardiff, as well as an office administrator. He now lives in Cardiff.

The three other finalists for this year’s award were Hardey Speight, Jonathan Jones and Bethan Marlow.

The biennial Wales Drama Award for English-language writing is a collaboration between two creative leaders in drama in Wales – BBC Cymru Wales and National Theatre Wales – in close partnership with BBC Writersroom. It is both a celebration of writers in Wales and an open call to Welsh talent, whether emerging or established.

Over 250 writers, either born or based in Wales, submitted their work in July 2016, from which BBC Writersoom along with input from professional television and theatre readers drew up a shortlist of eight. From these eight writers four finalists were selected by a panel of judges, including Julie Gardner MBE, producer and co-founder of Bad Wolf, Kully Thiarai, Artistic Director of National Theatre Wales, Anne Edyvean, Head of BBC Writersoom and Bethan Jones, Executive Producer BBC Drama.

Anne Edyvean from BBC Writersroom, said: “William's writing keeps you turning the pages - hooked in by skilled storytelling and great visual images. William is drawn to telling stories set in worlds that are in some way different to our own, but familiar enough to resonate with the audience - his settings are often ‘What if......?’”

Bethan Jones, Executive Producer for BBC Drama said: "This award is a way to ensure writers are able to afford to carve out time to write and have support to develop their work. It’s great to be able to support William Smith’s huge potential. But it also draws the industry’s attention to the potential of other voices, the shortlisted winners as well as others who didn’t quite make it through the process.”

Kully Thiarai, Artistic Director of National Theatre Wales, said: "William is a wonderful storyteller who clearly has a passion for, and a commitment to, writing rich and complex characters and narratives. He is undoubtedly a talent to watch. It will be very exciting to see what he goes on to produce, and how his win will inspire other writers in Wales in the future."

Julie Gardner MBE, producer and co-founder of Bad Wolf, said: “William Smith’s RESIDUE is a compelling study of two teens’ battle for survival in a post-apocalyptic world. The landscape is often domestic and recognisable and so the terror and danger are all the more potent. William weaves an often exciting, yet emotional tale. A genre piece with a twist!”

WILLIAM SMITH YN ENNILL GWOBR DRAMA CYMRU 2016

William Smith yw enillydd Gwobr Drama Cymru 2016. Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni a gynhaliwyd heno yn Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd. Bydd yn derbyn £10,000 a'r cyfle i ddatblygu ei waith gyda BBC Cymru, BBC Writersoom a National Theatre Wales.

Graddiodd William, a anwyd yn Abertawe, o Brifysgol Cymru, Casnewydd gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm yn 2010. Ers graddio mae wedi ysgrifennu ffilm fer, King of The Castle, a wnaed fel rhan o'r cynllun It's My Shout ac a ddarlledwyd ar BBC2 Cymru yn 2011, a Lift Jockeys, ffilm fer a gynhyrchwyd yn 2014. Yn ogystal ag ysgrifennu yn ei amser hamdden, mae wedi gweithio fel cynhyrchydd a chyflwynydd ar gyfer Radio Caerdydd, yn ogystal â gweinyddwr swyddfa. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Y tri arall yn y rownd derfynol ar gyfer y wobr eleni oedd Hardey Speight, Jonathan Jones a Bethan Marlow.

Mae Gwobr Drama ddwyflynyddol Cymru, am ysgrifennu yn Saesneg, yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng dau arweinydd creadigol mewn drama yng Nghymru - BBC Cymru a National Theatre Wales - mewn partneriaeth agos â BBC Writersroom. Mae'n agored i unrhyw awdur sy'n byw yng Nghymru, ac yn ddathliad o awduron yng Nghymru ac yn alwad agored am dalent Gymreig, boed yn newydd neu wedi'i sefydlu.

Gwnaeth dros 250 o awduron, wedi’u geni neu yn byw yng Nghymru, gais am y wobr ym mis Gorffennaf 2016, ac aeth BBC Writersroom, gyda darllenwyr teledu a theatr proffesiynol ati i greu rhestr fer o wyth. O’r wyth yna, dewisodd panel o feirniaid, yn cynnwys Julie Gardner MBE, cynhyrchydd a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, Anne Edyvean, Pennaeth BBC Writersoom a Bethan Jones, Cynhyrchydd Gweithredol gyda'r BBC, bedwar awdur i fynd i’r rownd derfynol.

Dywedodd Anne Edyvean o BBC Writersroom: “Mae ysgrifennu William yn eich gorfodi i droi’r dudalen, yn eich cydio gyda’i ddawn am rannu stori a chreu delweddau gweledol gwych. Mae gan William ysfa am ddweud straeon sydd wedi’u gosod mewn bydoedd sydd yn dra wahanol i’n un ni, ond sydd yn ddigon cyfarwydd i ganu cloch gyda’r gynulleidfa – yn aml, y sylfaen yw’r cwestiwn ‘Beth petai...?’

Dywedodd Bethan Jones, Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer y BBC: "Mae'r wobr hon yn ffordd i sicrhau y gall awduron fforddio amser i ysgrifennu a chael cymorth i ddatblygu eu gwaith. Mae'n wych i allu cefnogi potensial enfawr William Smith. Ond mae hefyd yn tynnu sylw'r diwydiant at botensial lleisiau eraill, yr enillwyr ar y rhestr fer yn ogystal ag eraill nad oedd wedi llwyddo i ddod drwy'r broses."

Meddai Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae William yn storïwr gwych sydd yn amlwg yn angerddol dros ysgrifennu cymeriadau a naratifau cyfoethog a chymhleth, ac yn llawn ymroddiad ar gyfer gwneud hynny. Mae'n sicr yn dalent fydd yn datblygu. Bydd yn gyffrous iawn i weld yr hyn y mae'n mynd ymlaen i'w gynhyrchu, a sut y bydd ei fuddugoliaeth yn ysbrydoli ysgrifenwyr eraill yng Nghymru yn y dyfodol."

Dywedodd Julie Gardner MBE, cynhyrchydd a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, “Mae RESIDUE gan William Smith yn astudiaeth dirdynol o frwydr dau berson ifanc i oroesi mewn byd ôl-apocalyptaidd. Mae’r tirwedd yn aml yn ddomestig a chyfforddus, ac felly mae’r ias a’r perygl yn arbennig o gryf. Mae William yn gweu stori sy’n aml yn gyffrous ond eto’n emosiynol. Darn genre gydag elfen annisgwyl!”

Views: 278

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service