Roedd awyrgylch trydanol yn llenwi cyntedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar brynhawn Sul cyn dechrau perfformiad unigryw Theatr Genedlaethol Cymru o’r Bont. Ac nid yw’n syndod ychwaith ; roedd 500 ohonom yn aros yn eiddgar i’r hyn a ddisgrifiwyd cynt fel perfformiad a fyddai’n ‘plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy’. * Heb os, roeddem yn aros i fod yn rhan o berfformiad a fyddai’n garreg filltir bwysig yn hanes y Theatr Cymraeg yng Nghymru, ac o’m rhan fi fy hun, ni chefais fy siomi.

Protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hanner can mlynedd ynghynt, ar bont Trefechan a ysgogodd y ddrama a cheisio ail greu digwyddiadau’r diwrnod pwysig hwnnw a’i phlethu â’r presennol oedd amcan uchelgeisiol y perfformiad. Ar ôl cael ein tywys i ganol y dre ar fysiau o gyfnod y 60au cerddon yn un dorf fawr i wylio’r myfyrwyr ifainc yn gosod posteri y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth yn hawlio statws swyddogol i’r Gymraeg.

swyddfa bost

Aethom o’r fan honno i gaffis gwahanol y dre i fwyta pice ar y maen ac i yfed te o gwpanau a soseri, (rhaid canmol pwy bynnag penderfynodd defnyddio soseri a chwpanau)! Er i ni gael eistedd a chynhesu mewn caffis nid toriad hanner amser oedd hwn, serch hynny, oherwydd i’r perfformiad parhau ar ffurf fideo wrth inni wylio protestwyr 1963 yn hel atgofion am y brotest wreiddiol. Roedd defnyddio geiriau’r protestwyr gwreiddiol, nid yn unig yn wers hanes diddorol ac addysgiadol i’r gynulleidfa, ond yn dechneg effeithiol i gynnal momentwm y presennol. Llwyddodd ei geiriau nhw, ochr yn ochr â deialog yr actorion oedd i glywed yn uchel yn y caffi creu ymdeimlad o gyffro wrth inni sylwi ein bod yn agosáu at uchafbwynt y perfformiad ; cerdded at y Bont.

Dyma oedd fy hoff ran i o’r ddrama. Yn ffodus, llwyddais i gyrraedd blaen y dorf ac roedd troi o amgylch a gweld 500 o bobl yn dilyn ôl traed y protestwyr gwreiddiol mewn tawelwch wrth wrando ar ddeialog y ddrama yn datblygu trwy eu clustffonau, yn olygfa hynod o bwerus a thrawiadol.

cerdded at y bont

Ar y bont perfformiwyd golygfa olaf Kye a Dwynwen. Cychwynnodd stori Kye, cerddor o Ferthyr a Dwynwen myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a chyflwynydd teledu rhaglen ddogfen am hanes pont Trefechan, ar ddechrau’r perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau wrth inni wylio fideo o hanes y ddau yn cwrdd, yn symud mewn gyda’i gilydd, ac yna yn gwahanu oherwydd, yn bennaf, agwedd y ddau at y Gymraeg. Ochr yn ochr â hanes protest 1963 dilynwn stori garu’r ddau wrth i’w hamgylchiadau dod â nhw at ei gilydd yn Aberystwyth y Sul hwnnw am y tro cyntaf ers iddynt wahanu. Roeddwn i wir yn hoff o’r modd y llwyddodd stori Kye a Dwynwen cael ei gwau o amgylch y gynulleidfa a hanes y brotest, a rhaid canmol yn bennaf perfformiad yr actor a oedd yn chwarae rhan Kye.

kye a dwynwen

Er hyn, credaf y byddai’r ddrama gyfan ar ei hennill petai fwy o ddyfnder yn y ddeialog rhwng y ddau gymeriad. Byddai clywed mwy am hanes Kye wedi cryfhau’r stori, yn yr un modd y byddai cael gwybod mwy am benderfyniad Dwynwen i adael ei swydd yn ychwanegu at uchafbwynt diweddglo’r ddrama. Ai penderfyniad gwleidyddol oedd y tu ôl i’w hymddiswyddiad? Yn y sgwrs rhyngddi hi a’i chynhyrchydd yn y Cabin a welwyd ar fideo daeth i’r amlwg nad oedd ‘peidio â bod yn wleidyddol’ fel y cynghorodd ei chynhyrchydd iddi fod yn ei phlesio. Ai safiad yn erbyn ei hawl i fynegi ei barn am bwysigrwydd y brotest oedd un o’r rhesymau y tu ôl i’w phenderfyniad i roi gorau i’w swydd, neu ei chariad at Kye yn unig a’i hysgogodd? Credaf y byddai ehangu ar hanes y ddau a diwygio ychydig ar y ddeialog a geir rhyngddynt yn rhoi cyfle gwych i greu diweddglo hyd yn oed fwy pwerus i gloi'r ddrama anhygoel hon.

Yr oedd hi, heb os, yn brofiad ac yn perfformiad bendigedig ac yn dyst i’r ffaith fod y Theatr Genedlaethol Cymraeg yn fentrus ac yn weledigaethol. Gobeithio hefyd yr oedd hi’n deyrnged a oedd wrth fodd protestwyr dewr 1963.

Gwelir erthygl ’50 Diwrnod i fynd tan Y Bont’ ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru

 Lluniau gan Keith Morris

Views: 472

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Rachel Morgan on February 7, 2013 at 5:51

Diolch yn fawr! Roedd hi bendant yn ddiwrnod gwych. 

Comment by Catrin Rogers on February 7, 2013 at 5:02

Adolygiad trylwyr a sensitif iawn, Rachel. Dwi'n dyfaru fy enaid nad o'n i yna, and mae hwn wedi rhoi darlun clir i mi o beth golles i. Mae'n rhaid dweud bod yr holl brofiad yn swnio'n wych.

Comment by Rachel Morgan on February 6, 2013 at 23:12

Diolch yn fawr Adam :) 

Comment by Adam Somerset on February 6, 2013 at 22:29

Rachel, adolygiad ardderchog. Eto i fi mwyaf pwysig:

“digwyddiad bythgofiadwy...garreg filltir bwysig yn hanes y Theatr Cymraeg yng Nghymru”

A bod yn onest am y tro cynta (dwy'n meddwl) mae ddarllenwr yn gweld:

“dyst i’r ffaith fod y Theatr Genedlaethol Cymraeg yn fentrus ac yn weledigaethol”





Comment by Rachel Morgan on February 6, 2013 at 2:13

Diolch Elin :) x 

Comment by Elin Williams on February 5, 2013 at 22:42

Adolygiad manwl a sylwgar. Gwd job :) 

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service