Mae'r cwmni'n chwilio am nifer o ymddiriedolwyr newydd (aelodau'r bwrdd) i ymuno â'r cwmni ar gyfnod cyffrous yn ei hanes. Ymysg yr uchafbwyntiau presennol mae:

  • Dathlu ein pen-blwydd yn 30ain yn 2017/18
  • Datblygiad cyfalaf posibl
  • Cynlluniau i ddatblygu ein rhwydweithiau teithio rhyngwladol ymhellach
  • Ein rhaglen datblygu artistiaid a chynulleidfaoedd tair blynedd, o'r enw Platfform, sy'n cael ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chyngor Celfyddydau Cymru

 

Rydym yn awyddus i benodi ac i glywed oddi wrth bobl sy'n meddu ar y sgiliau, y profiad, neu'r wybodaeth ganlynol:

  • Addysg
  • Adnoddau Dynol / Personél
  • Codi arian a datblygu

Rydym hefyd yn awyddus i ystyried penodi rhywun sy'n artist/ person creadigol (nid o fyd y theatr o reidrwydd), a pherson ifanc (o dan 30 oed).

 

Mae Theatr Iolo yn sefydliad cyfle cyfartal ac yn croesawu pobl ag anableddau neu o gefndir Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Yn ddiweddar, mae'r bwrdd wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu newydd ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth sy'n hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth o amrywiaeth o fewn y sefydliad ac mae wedi ymrwymo i newid ei weithrediadau er mwyn sicrhau ei fod ar flaen y gad o ran arfer gorau.

 

Y cwmni

Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr o Gaerdydd sydd wedi ennill nifer o wobrau ac sy'n arbenigo mewn creu gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

Fe'i sefydlwyd yn 1987 gan grŵp o ymarferwyr theatr. Dros y 29 mlynedd diwethaf, mae Theatr Iolo wedi creu dros 80 o gynyrchiadau ac wedi perfformio i dros 350,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Gwaith craidd y cwmni yw cynhyrchu gwaith i gynulleidfaoedd ifanc, a ddiffinnir fel pobl o dan 26 oed. Mae'n adnabyddus ac yn cael ei barchu'n benodol am ei waith ar gyfer y blynyddoedd cynnar (o fabanod i blant dan 5 oed) ond yn ddiweddar mae wedi cael clod am ei waith ar gyfer oedolion ifanc.

 

Mae tair elfen o weithgarwch drwy gydol y flwyddyn:

 

Creu - Rydym yn creu gwaith ar gyfer babanod, plant bach, plant a phobl ifanc ac yn teithio o amgylch Cymru, y DU ac yn rhyngwladol yn rheolaidd gyda'n cynyrchiadau. Rydym hefyd yn cyd-gynhyrchu ac yn cyd-greu gwaith gyda chwmnïau eraill. Ymysg ein partneriaid diweddar mae: Canolfan Gelfyddydau Battersea, yr Unicorn, y Theatre Royal yng Nghaerfaddon, West Yorkshire Playhouse, Bristol Old Vic ac Ovalhouse.

 

Meithrin: Rydym yn cefnogi artistiaid a chwmnïau theatr a dawns bach mewn amrywiaeth o ffyrdd, naill ai drwy roi gofod ymarfer iddynt neu gymorth gyda chynhyrchu, mentora a marchnata neu drwy Platfform, ein rhaglen artistiaid sy'n dod i'r amlwg. Mae'r maes hwn hefyd darparu arian cychwynnol ar gyfer syniadau newydd gan artistiaid gan gynnwys Christopher Brett Bailey, Caroline Horton a Polar Bear.

 

Curadu - Rydym yn anelu at ddod â'r gorau o fyd y theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc a theuluoedd i Gymru, sef gwaith yr ydym yn ei weld ac yn credu y dylai cynulleidfaoedd yng Nghymru gael y cyfle i weld. Rydym yn cyflwyno'r gwaith hwn mewn lleoliadau partner ar hyd a lled y wlad.

 

Fel enghraifft o'r gweithgaredd eleni, yn 2013/14, aethom ar daith gydag wyth o gynyrchiadau gan berfformio i tua 18,600 o bobl mewn 307 o berfformiadau, gan gynnwys cynrychioli Cymru yn Rhaglen Ddiwylliannol Gemau'r Gymanwlad yn Theatr Tron, Glasgow yn 2014. Yn 2015 aeth y cwmni ag Adventures in the Skin Trade gan Dylan Thomas i Dŷ Opera Sydney a Chanolfan Gelfyddydau Melbourne yn Awstralia, gan ddod yn gwmni theatr Cymreig cyntaf i wneud hynny. Ar hyn o bryd mae'r cwmni wrthi'n datblygu cydgynyrchiadau gyda Chanolfan Gelfyddydau Battersea a Consol Theatre o'r Almaen ac mae'n comisiynu gwaith newydd gan Caroline Horton, Seiriol Davies a Christopher Brett Bailey.

 

Y gweithrediadau

Mae'r cwmni wedi ei leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, ac ar hyn o bryd mae ganddo ystafell ymarfer a ddarperir fel cymorth ar ffurf nwyddau gan Gyngor Caerdydd. Mae hefyd yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb cyfalaf i adeiladu cartref parhaol i'r cwmni. Mae'r cwmni yn un o sefydliadau refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru, gan dderbyn tua £250,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhaglen datblygu artistiaid a chynulleidfaoedd tair blynedd, o'r enw Platfform, sy'n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol a Sefydliad Esmée Fairbairn.

 

Caiff y cyd Brif Weithredwyr eu cefnogi gan Swyddog Marchnata, Swyddog Cyllid, Cynhyrchydd Cyswllt ar gyfer Datblygu Artistiaid a Gweinyddwr.

 

Y bwrdd

Ar hyn o bryd mae'r bwrdd yn cynnwys chwe aelod a chanddynt arbenigedd yn y celfyddydau, y proffesiwn cyfreithiol, darlledu, marchnata, busnes a'r maes digidol. Mae'r bwrdd yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn. Laura H Drane yw'r cadeirydd, a Mark Rhys Jones yw'r is-gadeirydd; mae'r ymddiriedolwyr presennol yn cynnwys Rebecca Gould, Paul Scudamore, Elwyn Davies ac Aled Rowlands.

 

Y broses

 Ar ôl y gwahoddiad hwn, rydym yn gobeithio siarad a chwrdd â chymaint o ymgeiswyr ag y bo modd yn ystod mis Awst/Medi. Yna rydym yn gobeithio gwahodd aelodau newydd sydd â diddordeb mewn ymuno â'r bwrdd i arsylwi cyfarfod nesaf o'r bwrdd ym mis Hydref 2016, gyda'r nod o ymuno â'r bwrdd yn y cyfarfod dilynol ym mis Ionawr 2017.

 

Os hoffech gael eich ystyried i fod yn ymddiriedolwr, cysylltwch â Laura Drane (manylion isod) gyda CV a llythyr/e-bost byr, ac i drefnu galwad ffôn / cyfarfod byr wyneb yn wynebu gyda hi ac un o'r Prif Weithredwyr.

 

Rydym hefyd yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych neu siarad â chi am y rôl a'r cwmni. Os felly, cysylltwch ag un ohonom i gael trafodaeth anffurfiol:

 

Laura Drane, Cadeirydd

l.drane@lauraHdrane.com

07957 622623

 

Kevin Lewis, Cyfarwyddwr Artistig

kevin@theatriolo.com

029 20 613 782

 

John Williams, Cynhyrchydd

john@theatriolo.com

029 20 613 782

 

www.theatriolo.com

 

Views: 151

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service