Ymunwch a Tîm Chwarae Creadigol Theatr Iolo

Oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant ifainc?

Hoffech chi ymuno â'n Tîm Chwarae Creadigol?

 

Mae Theatr Iolo yn awyddus i greu tîm bychan o bobl i gynnal sesiynau chwarae creadigol i gyd-fynd â Bocsi & Ffoni, ein drama ddiweddaraf a i blant 3-5 oed a'u teuluoedd.

 

Ochr yn ochr â'n sioeau i deuluoedd ac ysgolion, rydym yn hoffi cynnig rhaglen gyffrous o weithdai a sesiynau chwarae creadigol i roi cyfle i blant gael ychydig bach o hwyl wyneb-yn-wyneb a threulio amser creadigol gyda'i gilydd. Gallwn hefyd gynnig sesiynau mwy strwythuredig i ysgolion lle gall disgyblion fanteisio ar weithgareddau ymarferol ychwanegol sy'n cyd-fynd â'r sioe.

 

Beth fyddaf yn ei wneud?

  • Ar ôl diwrnod o hyfforddiant, fe allech chi fod yn gweithio fel unigolyn neu yn rhan o dîm i arwain gweithdy neu sesiwn chwarae mewn llyfrgell, neuadd eglwys, ystafell ddosbarth, theatr neu grŵp cymunedol.
  • Fe allech chi fod yn dilyn thema benodol neu, yn syml ddigon, yn annog plant a'u rhieni/gofalwyr i chwarae.
  • Yn gyffredinol, byddwch yn annog y grŵp i fod yn greadigol.

 

Pa sgiliau sydd eu hangen arnaf?

  • Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant rhwng 3-5 oed (neu ychydig yn hŷn) mewn cyd-destun celfyddydol, addysgol neu yng nghyd-destun grŵp chwarae.
  • Rydym yn arbennig o awyddus i gael nifer benodol o bobl sy'n siarad Cymraeg ac a fydd yn gallu arwain sesiynau yn Gymraeg.
  • Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog ac yn llawn syniadau ar gyfer gêmau a gweithgareddau i blant.
  • Bydd angen brwdfrydedd arnoch ynghyd â phersonoliaeth fywiog a'r gallu i ymwneud ag oedolion ac â phlant.
  • Efallai y byddwch wedi gweithio ym myd addysg neu wedi cyflwyno sesiynau creadigol yn y sector celfyddydol.
  • Yn ddelfrydol, bydd gennych drwydded yrru ynghyd â defnydd o gerbyd.
  • Bydd gennych hefyd dystysgrif Datgelu a Gwahardd neu byddwch yn fodlon cael prawf gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cynhelir y Diwrnod Hyfforddi yn ystod yr wythnos yn decharu ar y 14 Mawrth yn Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd, a bydd angen i chi fod ar gael am gyfnodau rhwng dechrau mis Ebrill a diwedd mis Mehefin.
  • Byddwn yn rhoi grŵp o bobl at ei gilydd felly bydd nifer y sesiynau yr ydych yn ymwneud â nhw yn dibynnu ar ein gofynion ni ac ar eich amserlen chi.
  • Byddwch yn derbyn ffi benodol am bob gweithdy ynghyd â threuliau teithio.

 

Sut i wneud cais

Anfonwch baragraff byr amdanoch chi'ch hun, C.V a dywedwch wrthym sut yr ydych yn rhag-weld eich cyfraniad at weithgarwch y tîm.

 

Anfonwch e-bost at kerry@theatriolo.com erbyn 5pm ar ddydd Llun 7fed o Chwefror 2016 os gwelwch yn dda. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Kerry Difelice ar 02920 613782.

 

Views: 217

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service