Ymunwch â'n Tîm ... Rydym yn recriwtio Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Llawn Amser  £22,000-£25,000 Y Flwyddyn

Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod yn flaengar ym maes theatr i blant a phobl ifanc ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae plant a rhieni, disgyblion ac athrawon, babanod a phobl ifanc wedi mwynhau perfformiadau, gweithdai a chynyrchiadau gan y cwmni, sydd wedi cael eu perfformio mewn pob math o lefydd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.  

Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu i fod yn gyfrifol am ddyfeisio a gweithredu’r holl strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata, datblygu cynulleidfaoedd ac ymgysylltu ar gyfer pob agwedd ar waith y cwmni, er mwyn dyfnhau’r ymgysylltiad â’n cynulleidfa a’i gwneud yn fwy amrywiol. Os ydych yn rhannu ein brwdfrydedd am y theatr, ac am ysgogi dychymyg pobl a chreu storïau a fydd yn parhau am oes, rydym yn awyddus i glywed gennych chi! Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’n tîm ac adeiladu ar ein hanes anhygoel, gan baratoi’r cwmni ar gyfer y dyfodol.  

Os hoffech wneud cais am y swydd  swyddog cyfathrebu ac ymgysylltu , lawrlwythwch y ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal o’n gwefan www.theatriolo.com a’i hanfon at michelle@theatriolo.com, ynghyd â’ch CV a llythyr cais. Rydym yn edrych ymlaen at glywed pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd hon, a pha sgiliau a phrofiad y byddech yn eu cyflwyno i’r cwmni, gan gyfeirio at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw  dydd Gwener 5 Gorffennaf 2019 a bydd y cyfweliadau cychwynnol yn cael eu cynnal ddydd Llun 22 Gorffennaf 2019 yng Nghaerdydd. Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais drwy e-bost.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych. 

Views: 102

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service