Sioeau Cerdd Cwta yn galw am: cyfansoddwyr/ dramodwyr/ beirdd/ cerddorion/ysgrifennwyr
Yn dilyn llwyddiant Sioeau Cerdd Cwta yn 2016, fe fydd Cynhyrchiadau Leeway unwaith eto yn datblgu rhaglen gyffrous ac arloesolol i gefnogi theatr gerdd proffesiynol yng Nghymru trwy gydol 2017.
Trefnir ac arweinir y rhaglen gan Cynhyrchiadau Leeway mewn partneriaeth â The Other Room. Mi fydd cyfres o weithdai datblygiadol ac arbrofol yn arwain at greu darn o waith cerddorol deng munud o hyd.
Dywed cynhyrchydd Leeway, sef Angharad Lee, “ Mae’r cyhoeddiad cyffrous yma o fudd enfawr i ni fel cwmni er mwyn i ni allu annog a meithrin doniau unigolion i wthio ffiniau wrth gyfansoddi a chreu gwaith cerddorol yng Nghymru.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn estyn croeso i sgriptwyr a chyfansoddwyr newydd sydd yn awyddus i geisio ysgrifennu drama gerdd, yn ogystal a rhoi cyfle i artistiaid profiadol sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau a rhwydweithio gydag eraill yn y maes”.
Dywedodd Angharad y bydd y cynhyrchiadau cerddorol deng munud o hyd yn golygu cyd-weithio gydag eraill er mwyn sicirhau bod y syniadau yn datblygu ar y cyd.
Bydd Cynhyrchiadau Leeway yn darparu cefnogaeth mentora trylwyr trwy’r broses, gan gefnogi’r artistiaid wrth iddynt ddarganfod eu ffordd trwy dasg newydd a all fod ar yr wyneb yn drafferthus a mwdlyd. Bydd sesiynau rhannu arfer dda yn ‘The Other Room’ wrth i’r broses a’r gwaith ddatblygu. Menter datblygiadaol ydyw gyda phawb yn yr un cwch ac yn dysgu wrth waith ei gilydd a fydd yn gyffrous iawn i ddweud y lleiaf.
Fe fydd yna gyfle hefyd i’ch gwaith cael ei gweld gan Perfect Pitch o Lundain, Royal & Derngate ac hefyd yr Hollywood Fringe.
Bu Francois Pandolofo, actor ac awdur, ynghlwm â’r prosiect cyntaf. Dywedodd e,” Roedd y prosiect cyffrous newydd, nid yn unig yn anrhydedd i fod yn rhan ohono, ond roedd y sylfaen a’r broses yn agoriad llygaid i bosibiliadau a darganfyddiadau newydd wrth weithio gyda thîm o bobl greadigol eraill”.
“ Mae’r model yma yn un yr hoffwn i weld yn digwydd mwy a mwy fel ffordd o ddatblygu cyd-weithio, gan agor fforwm er mwyn cynnal trafodaeth ac ymchwiliad yn hytrach na llenwi ffurflenni neu wahanu rôl pobl a glynu at ganllawiau llym creadigol”.
Dyweddodd beirniaid a darlledwr Lowri Haf Cook, “ Fe’m cludwyd dros dro, gan y pedwar cynhyrchiad, i fydoedd tra gwahanol. Yr hyn a sefydlwyd yn bendant oedd yr ysfa gynyddol gan nifer am theatr cerddorol ymylol yng Nghaerdydd – a thu hwnt- mewn ymateb i’r ‘brain drain’ syrffedus i’r West End yn Llundain gan dalentau Cymreig. Gyda lleoliad berffaith ar ein cyfer, bar Porters yng nghnaol y ddinas, ymddengys fod yma hadau gwirioneddol o gynnwrf, a thalent eithriadol ar waith.”
Bydd 3 cyfle Sioeau Cerdd Cwta yn 2017 i’w cynnal yn The Other Room, Caerdydd.
10 MM (1) – Cyfle dwyieithog
Gweithdy 1: Ionawr 15ed, 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 2: Ionawr 22ain, 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 3 a Rhannu gwaith ac arfer dda: Ionawr 29ain, 10yb – 6.00 yh Rhannu gwaith ac arfer dda am 6.00 yh
10MM(2) Cymraeg. Trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig
Gweithdy 1, Gorffennaf 23ain, 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 2, Gorffennaf 30ain, 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 3 a Rhannu gwaith ac arfer dda: Awst 8fed, 10yb – 6.00 yh Rhannu gwaith ac arfer dda am 6.00 yh Cyfle dwyieithog
10MM(3) Cyfle dwyieithog
Gweithdy 1, Tachwedd 12fed, 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 2, Tachwedd 19ain , 10yb – 5.00 yh
Gweithdy 3 a Rhannu gwaith ac arfer dda: Tachwedd 26ain, 10yb – 6.00 yh Rhannu gwaith ac arfer dda
Dyddiad Cau:
10MM (1) Rhagfyr 20fed 2016
10MM (2) Mai 1af 2017
10MM (3) Awst 1af 2017
Y gost fydd £80 i bob artist a hyn yn cynnwys 3 penwythnos, mentoriaeth, templed o weithgareddau a’r cyfle i rannu eich gwaith yn The Other Room.
Fe fydd y 4/5 darn gyda’r potensial mwyaf yn cael y cyfle i gael eu perfformio yn yr Hollywood Fringe Festival, Mehefin 2017 neu 2018 ac hefyd yng Nghanolfan Y Celfyddydau Aberystwyth. Mae Cynhyrchiadau Leeway mewn trafodaethau gyda Perfect Pitch a Royal & Derngate er mwyn dod o hyd i gynhyrchiadau newydd.
Sut i wneud cais? Gallwch wneud cais fel artist unigol lle y byddwch yn cael eich cyplysu gydag artist arall NEU fe allwch wneud cais fe tîm o ysgrifenwr a chyfansoddwyr. Anfonwch enghraifft fer o’ch gwaith ynghyd â CV/ Biog neu ychydig amdanoch chi eich hun a’r hyn yr hoffech elwa o’r cyfle at: leewayprods@gmail.com
Fe fydd angen i chi gynnwys eich enw, cyfeiriad ebost a rhif ffon gan nodi pa weithdy yr hoffech fynychu.
Am fanylion pellach cysylltwch gyda Angharad Lee : angharad@angharadlee.com
@LeewayProds
#10minutemusicals
Partneriaid yn cynnwys:
The Other Room
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Blackwood Miners Institute
NMi Musicals
http://www.asiw.co.uk/reviews/10-minute-musicals-leeway-productions...
© 2023 Created by National Theatre Wales.
Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community