22 Ionawr 2014, Porter’s Bar, Caerdydd
Rydym yn cynnal digwyddiad cymdeithasol ‘Cyfarfod Wildsees Studios’ yn Porters’s Bar yng Nghaerdydd. Byddwn yn gwneud cyflwyniad (byr!) am y ffyrdd y gall Wildseed fod o ddiddordeb i gynhyrchwyr, ac yn ateb unrhyw gwestiynau am Wildseeds Studios.
Rydym yn awyddus i gyfarfod cynhyrchwyr Cymreig o bob math; ysgrifenwyr, animeiddwyr, cyfarwyddwyr a chomediwyr…pobl frwdfrydig gyda syniadau gwych, sydd yn awyddus i weithio mewn ffyrdd newydd, ac sydd am wybod mwy am y ffordd yr ydym yn gweithio a’r math o brosiectau y mae gennym ni ddiddordeb ynddynt.
Os hoffech ofyn cwestiwn o flaen llaw, gallwch gysylltu â ni yma hello@wildeedstudios.com
Mae croeso i chi rannu’r wybodaeth gydag unrhyw gynhyrchwyr eraill yng Nghymru a all fod â diddordeb.
Ni sy’n prynu’r diodydd, felly gobeithio gwelwn ni chi yno! Cofrestrwch yma.
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community