Adolygiad Young Critics: 'Dros Y Top' gan Theatr Bara Caws @Theatrbaracaws

       

            Mae Theatr Bara Caws yn cael ei adnabod fel ‘Cwmni Cymuned Cymru’ ag yn ei sioe newydd ‘Dros Y Top’ tydi nhw ddim yn gadael ni lawr. Mae’r sioe yn rifíw sydd yn edrych ar y rhyfel byd gyntaf, pwy, pam ag yn lle ddechreuodd o gan ffocysu’n benodol ar yr effaith cafodd o ar Gymru a’i bobol.  

       Er mwyn gweld yn union pa effaith cafodd Rhyfel ar y bobl, mae’r sioe yn edrych ar grŵp o ffrindiau a’u profiadau nhw gan ddechrau pan mae Evan (Gwion Aled) yn gadael, yn frwdfrydig i ymuno a’r fyddin ag yn gadael ei fam (Mirain Haf Roberts) adref i’w poeni amdano. Ar y pen arall mae Lewys (Carwyn Jones), ei ffrind gorau yn gwrthod mynd i’r rhyfel fel gwrthwynebydd cydwybodol ag yn gorfod wynebu’r adlach gan y gymuned tra mae Mari (Rhian Blythe) yn cynrychioli merched y Rhyfel Byd Cyntaf a’r gwaith oedd rhaid iddyn nhw wneud cyn o’r diwedd gweithio allan yno fel nyrs. Gyda’i gilydd mae’r pum cymeriad yn cynrychioli gymaint o ochrau gwahanol i’r Rhyfel a pa effaith cafodd o ar gymuned.

      Gyda chyfarwyddyd gwych gan Betsan Llwyd drwy gydol y sioe mae yno niferoedd o bobl fwyaf sylweddol a pwysig o’r Rhyfel yn ymddangos ag yn cael ei phortreadu gan y cast trwy’r defnydd o wisgoedd syml ag effeithiol gan Lois Prys. Yno, welsom ni perfformiad gwych gan Rhodri Sion a’i phypedau a wnaeth ddod ac ochor ddoniol i bwnc mor ddwys.

      Teimlad fod y defnydd o oleuo gan Tomos Moore yn y perfformiad wedi bod yn daclus iawn ac wedi llwyddo i drawsnewid y gynulleidfa o’r Neuadd Goffa ag i’r Rhyfel Byd Gyntaf trwy greu awyrgylch agos ag difrifol.  Teimlaf fod y pwysigrwydd y goleuo wedi cael ei adlewyrchu yn yr olygfa ble mae’r cyhoedd yn cymryd rhan yn y sioe trwy roi pob dim ymlaen ag tynnu ni gyd allan o’r sioe ynghyd a chymorth esmwyth gan yr actorion.

      Fel mae’r sioe yn mynd ar daith mae Bara Caws yn gwahodd pobl o’r gymuned i adrodd ei storiâu a hanes yr ardal a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y sioe. All ddweud fod y rhan o’r sioe ble mae’r cyhoedd yn cymryd rhan yn cymryd oddi ar y sioe ag yn ei wneud yn lletchwith. Ar un llaw teimlaf fod hi wedi bod yn anodd i mi yn y gynulleidfa cymerid sylw a ffocysu ar beth oedd yn digwydd yn yr adeg yma gan fy mod i wedi ymgolli gymaint yn y stori ond ar y llaw arall teimlaf fod  y rhan yma’n hynod o bwysig i’r sioe gan fod o’n hagosáu'r gynulleidfa i’r sioe a’i themâu. Credaf yn arw fod clywed hanes yr ardal a’r bobl go iawn wedi gwneud y sioe yn fwy real ac wedi gwneud i mi allu ymwneud a chyd-ymdeimlo fwy a beth oedd yr actorion yn trio cyfleu.

       Mae ‘Dros Y Top’ gan Theatr Bara Caws yn sioe bwysig iawn wneith i chi grio ag rholio chwerthin. Teimlaf yn gryf fod y sioe yn apelio at amrywiaeth eang o bobl ifanc fynnu at bobl hyn. Mae’r cysylltiad personol sydd gan y sioe yn rhywbeth rhaid i bob ardal weld er mwyn diolch i bawb aeth yno i ymladd, helpu a chollodd ei bywyd. Ar y funud mae’r sioe ar daith gan gychwyn yn ôl yn Neuadd Llanegryn ger Tywyn (Ebrill 29ain), Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog (Ebrill 30ain), Galeri Caernarfon (Mai 1-2il) a Theatr Twm o’r Nant Dinbych (Mai 3ydd)

Views: 352

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service