Adolygiad Young Critics: 'Banksy: Room in the Elephant' gan Tobacco Factory Theatres

“Banksy: Room In The Elephant. “

                Teitl sydd yn drosiad dyfeisgar am fywyd Tachowa Covington a’r rhyfeddod prydferth  o gartref wnaeth o greu allan o dim byd tu fewn i danc ddŵr gwag  yn Los Angeles, America. Yn 2011, ysgrifennodd Banksy, yr artist “this looks a bit like an elephant” ar draws ochr y tanc ddŵr a ‘i drawsnewid o gartref person fewn i ddarn o waith celf werthfawr.

Yn gyferbyn a’r teitl mae’r ddrama yn dilyn Tachowa (Gary Beadle) ar ôl iddo dorri dol fewn i’r tanc ddŵr ag yn creu ‘vlog’ am ganlyniad y gwaith gelf ar ei dy yn hytrach nag sôn am Banksy a’i sgiliau artistig. Gyda set syml ond effeithiol gan Rosanna Vize, sydd yn cynnwys cefnlen las, can o baent, sach deithio , ei ffrind ‘B’ sef llygoden fach tegan a chamera digidol rydym ni yn cael dod i’w adnabod y cymeriad a dysgu am y holl waith aeth i mewn i’r tanc ddŵr a beth mae’n feddwl iddo rŵan mae o wedi ei golli.

                                Rhwng sgript amrwd, doniol a heriol gan Tom Wainwright a pherfformiad onest a pwerus gan Gary Beadle mae’r sioe yn agor eich meddwl fynnu ag yn gofyn beth yw celf go iawn? Pwy sydd hefo’r hawl i darn o gelf? Pam cafodd y gwaith anhygoel wnaeth Tachoa greu tu fewn i’r tanc ddŵr ei ystyried fel gwastraff tra cafodd y frawddeg tu allan gan Banksy ei werthu am filoedd? Mae araith bwerus Tachoa yn y ddrama yn pigo-cydwybod, yn tynnu sylw at fywyd y dyn yma wnaeth colli pob dim ag cael ei fanteisio.

Yno, ar ôl y sioe cawsom ni weld dangosiad o’r rhaglen ddogfen ‘Something from nothing’ gan Hal Samples sydd yn llawer mwy personol na’r sioe theatr. Mae’r rhaglen yn dilyn bywyd Tachowa cyn ag ar ôl y digwyddiad hefo Banksy, yn y rhaglen ddogfen rydych chi yn cael dod i abod y person gwir yn lle cymeriad ar lwyfan, er oedd hyn dim ond yn adlewyrchu talent ag cywirdeb Gary Beadle. Credaf fod dangos y rhaglen ddogfen wedi greu pwyslais ar y geiriau a’r neges o’r ddrama gan fod ni’n gallu gweld yr effaith gwir ar Tachoa, ag hefyd pa mor wych oedd y tanc ddŵr. Mae’r rhaglen ddogfen yn dangos ochr newydd i’r cymeriad ag yn gofyn y cwestiwn  eto – pwy sydd hefo’r hawl i ddarn o gelf?

Views: 277

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service