Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Assistant Director - Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir/ The Girl with Incredibly Long Hair

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – DISGRIFIAD O’R SWYDD
Yn atebol i’r Cyfarwyddwr a’r Cynhyrchydd, mae We Made This yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i weithio ar sioe deithiol Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir/ The Girl with Incredibly Long Hair, sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel a’i hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau ni o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Wedi’i chynhyrchu’n wreiddiol yn 2018, gwerthwyd tocynnau’r sioe i gyd yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n cael ei hail-greu fel sioe deithiol, wedi’i chynhyrchu’n Gymraeg a Saesneg.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Cyfarwyddwr Cynorthwyol profiadol â diddordeb mewn gwaith dyfais a, neu waith ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
• Mynychu a chyfrannu at glyweliadau
• Mynychu a chyfrannu at ymarferion.
• Arwain sesiynau paratoi
• Helpu’r Cyfarwyddwr i greu fersiynau Cymraeg a Saesneg
• Sicrhau cysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r ddrama
• Dirprwyo ar gyfer y cyfarwyddwr yn ôl y gofyn
• Gwylio a chofnodi perfformiadau penodol yn ystod y daith (fel y cytunwyd gyda’r cynhyrchydd/cyfarwyddwr)
• Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y Cyfarwyddwr a’r cwmni.
Manyleb y Person
Hanfodol
• Siaradwr Cymraeg rhugl
• Profiad o’r broses ddyfeisio.
• Wedi bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar o leiaf un cynhyrchiad (cynyrchiadau llawn, nid darlleniadau wedi eu hymarfer) NEU wedi cyfarwyddo o leiaf un cynhyrchiad proffesiynol
• Yn meddu ar y gallu i fod yn gefnogol a sensitif yn yr ystafell ymarfer
• Deallusrwydd brwd a dull gweithredu trylwyr o ran dramäwriaeth
• Yn hyderus yn ei allu i gyfarwyddo yn Gymraeg a Saesneg
• Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
• Agwedd gadarnhaol.
• Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dymunol
• Sgiliau symud
• Profiad o theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc

Dyddiadau a Chyflog
Bydd ymgysylltu o 11 Mawrth – 14 Ebrill, pum wythnos yn llawn amser.
Dyddiadau ymarferion: 11 Mawrth 2019 – 6 Ebrill, Caerdydd
Ymarferion technegol: 8 Ebrill 2019 Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon
Perfformiad cyntaf: 10 Ebrill 2019, Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon
Lleoliadau’r Perfformiadau Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon, Chapter, Theatr Brycheiniog, Neuadd Goffa’r Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Glan-yr-Afon Casnewydd, Theatr Clwyd. Yn gorffen 26 Mai 2019.

£500 yr wythnos (contract pum wythnos llawn amser)

Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn fwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a beth fyddech yn ei ychwanegu at y rôl, erbyn dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018.

Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd ar 21 Rhagfyr.

Anfonwch eich ffurflen gais drwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

------------

Assistant Director – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Director and Producer We Made This is seeking an Assistant Director to work on the tour of Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir/ The Girl with Incredibly Long Hair, an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

Originally produced in 2018, the show sold out at Blackwood Miners Institute and Wales Millenium Centre, and is being re-created to tour, and will be produced in both English and Welsh.

This is a key role in the production team for an experienced Assistant Director with an interest in devised work and or work for Young Audiences.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities
• Attending and contributing to auditions
• Attending and contributing to rehearsals.
• Leading Warm-ups
• Assisting the Director in the creation of Welsh & English versions
• Ensuring consistency between Welsh & English versions of the play
• Deputising for the director as required
• Noteing specific performances during run (as agreed with producer/ director)
• Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification
Essential
• Fluent Welsh Speaker
• Experience of the devising process.
• Has assistant directed on at least one production (full productions not rehearsed readings) OR Has directed at least one professional production
• Has the ability to be supportive and sensitive in the rehearsal room
• Keen intelligence and rigorous approach to dramaturgy
• Confident in their ability to direct in both English and Welsh
• A self-sufficient approach to work.
• Excellent communication skills.
• A positive attitude.
• A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Desirable
• Movement skills
• Experience of theatre for Young Audiences

Dates & Salary

Engagement is from 11th March – 14th April, five weeks full time.

Rehearsals dates: 11th March 2019 – 6th April, Cardiff

Technical rehearsals: 8th April 2019 Blackwood Miners’ Institute

1st Performance: 10th April 2019, Blackwood Miners’ Institute

Performance Venues: Blackwood Miners’ Institute, Chapter, Theatr Brycheiniog, Barry Memo, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Newport, Theatr Clwyd. Finishing 26th May 2019.

£500 per week (5 week contract full time)

How to Apply
To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and what you would bring to the role by Friday 14th December 2018.

Interviews will take place in Cardiff on 21st December.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

Views: 204

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service