Nodiadau o’r sesiwn: Sut fydd NTW yn gwneud y peth iawn yn edrych yn 2029?

Enw’r sesiwn
Sut fydd NTW yn gwneud y peth iawn yn edrych yn 2029?
Enw’r person a alwodd y sesiwn
Lisa
Crynodeb o’r sgwrs

Y Model TEAM. Mae'n gweithio. Mae'n anhygoel.

Mae'n llwyddo wrth ennyn diddordeb pobl nad ydynt fel arfer yn cysylltu â'r theatr ar ei ffurf draddodiadol, pobl nad ydynt o reidrwydd yn tybio bod y theatr ar eu cyfer nhw.

Ei wneud yn rhan ehangach o'r hyn y mae NTW yn ei wneud.

 

Rwyf am i NTW gydnabod yr ieithoedd eraill sy'n bodoli yng Nghymru'n well, y tu hwnt i'r Gymraeg a'r Saesneg. I mi, mae Safonau'r Gymraeg yn drafferthus weithiau wrth geisio gwasanaethu a chydweithio â chymunedau penodol yng Nghymru. Mae llawer o bobl / gymunedau'n siarad nifer o ieithoedd gyda'r Saesneg fel ail neu drydedd iaith. Mae'n anos rhannu gyda chymunedau a'u dyrchafu pan fydd rhaid rhoi triniaeth gyfartal neu ffafriol i'r Gymraeg.  Mae'n gwneud i'ch negeseuon i'r cymunedau hynny ymddangos wedi'u camfarnu neu'n annilys. Nid yw gweithrediad y safonau'n sythweledol, nid yw'n rhoi'r dewis i sefydliadau benderfynu pryd y bydd yn bwysig ac yn ddefnyddiol defnyddio'r Gymraeg a phryd y mae'n gwneud i'ch ymgysylltu ymddangos yn amhersonol, biwrocrataidd neu'n creu rhwystr arall. Mae angen mwy o hyblygrwydd arnom.

 

Mae angen i ni holi'n hunain o ble mae'r agwedd honno tuag at y Gymraeg yn dod, pam mae'r Gymraeg wedi'i fframio fel anghyfleustra i ni.

Rydym wedi cael ein gormesu, ein hyfforddi a'n cymdeithasu i'r fath raddau i ddeall bod y Gymraeg yn negyddol ac yn ddiwerth. Wrth wladychu, bu i'r Saeson ein hamddifadu o'n perthynas i'n hiaith a gosod strwythurau newydd, hierarchaeth ieithoedd newydd nad yw'n gweld y Gymraeg fel rhywbeth gwerthfawr a hanfodol. Dyma fater dwfn a chymhleth iawn, y tu hwnt i'r hyn y gall NTW ei gywiro. Mae'n effeithio ar ein perthynas (yng Nghymru) â phopeth; pŵer, addysg, hiliaeth...etc

 

Sut mae amlieithrwydd (mwy na'r Gymraeg a'r Saesneg yn unig) yn ymwneud â gweledigaeth ar gyfer y cwmni?

 

Mae'n rhaid i'r cwmni gyfleu ei negeseuon yn iawn ac adrodd ei stori'n glir. Yn weledol yn ogystal ag yn ieithyddol.

 

Y cyfan yr wyf yn ei ddweud yw bod angen mwy o hyblygrwydd arnom parthed y Gymraeg, er mwyn cysylltu orau â chymunedau nad yw'n berthnasol iddynt.

 

Ond fe ddylai fod yn berthnasol. Felly pam nad ydym yn gwneud y cynnig iawn i bobl o ran dysgu'r Gymraeg ac ennyn diddordeb ynddi. Pan ddaw pobl i Gymru, pam y maent yn dysgu'r Saesneg yn gyntaf. Mae llawer o atebion da, wrth gwrs, ond mae'r cwestiwn yn bwysig.

 

Oni ddylai defnyddio'r Gymraeg ddangos eich bod yn fwy cynhwysol, nid llai? Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn broblem.

 

Ydy / a ddylai'r gymuned Gymraeg fod yn flaenoriaeth i ni pan fyddwn yn meddwl am gynhwysiad? A ddylem bryderu gymaint neu'n fwy am gyrraedd cymunedau Ewropeaidd neu Asiaidd yng Nghymru. Oes angen gwahoddiad mwy diffuant arnynt?

 

Un mater yw iaith fel rhwystr gwirioneddol i fynediad ac wedyn mater arall yw bod pobl yn teimlo bod ganddynt wahoddiad diffuant a'u bod yn rhan o rywbeth.

 

Dylai NTW anelu at LUOSOGRWYDD

 

NTW yn gwneud y peth iawn yw bod yn arloeswyr gwaith amlddisgyblaeth.

 

Cael perthynas well gyda TGC.

 

Gweithiais ar SISTERS. (SISTERS oedd prosiect Ymchwil a Datblygu NTW a gefnogwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, mewn cydweithrediad â chwmni theatr Junoon, Mumbai. Fe ymchwiliodd i brofiadau byw menywod o dras De Asiaidd, yma ac yn India.) Dywedodd rywun wrthyf nad oedd SISTERS yn “ddigon Cymreig”. Mae angen i bobl sy'n meddwl hynny groesholi'r syniad.

 

A minnau'n dod o rywle (yng Ngogledd Cymru) lle nad yw iaith yn arwahanu fesul dosbarth cymdeithasol, mae'n rhwystredig cael eich tybio'n ddosbarth canol neu feddu ar fraint neu brofiad bywyd penodol gan i mi siarad fy mamiaith.

 

Mae gwneud y peth iawn i NTW yn ymwneud ag undod. Sector unedig a theatr genedlaethol i fod yn falch ohoni.

 

NTW yn creu gwaith sy'n gwneud argraff anhygoel arnoch. Sy'n gwneud i chi feddwl, 'does dim cwmni arall a allai wneud hyn'.

 

Fflaglong yw TEAM, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'r egni a'r cyllid ar gyfer TEAM ar draul cynyrchiadau.

 

Dylai fod gan TEAM a chynyrchiadau fel ei gilydd y rhinwedd fflaglong honno.

Gallent gyfeirio ei gilydd, yn thematig, ond ar wahân yn strwythurol. Wedi'u cyllido a gydag adnoddau ar wahân fel bod y ddau'n gryf ac nad yw ffocws yn cael ei dynnu at yr un dros y llall.

 

Mae gwaith cymunedol presennol TEAM a NTW yn rhagorol. Nid yw'r cynyrchiadau'n cyrraedd rhagoriaeth ar hyn o bryd. Dylai NTW fod yn creu gwaith anhygoel sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, yn yr un modd ag y mae TEAM yn ei wneud.

 

Dylai NTW fod yn RHYNGWLADOL

 

Rwy'n credu ei fod yn arwydd o gwmni cyffrous. Mae edrych tua'r tu allan a chael cysylltiadau allanol yn arwydd o bobl a diwylliant iach. Mae'n cryfhau eich gwaith, eich cwmni a'ch cynnig. Mae'n rhoi pobl leiafrifol ar lwyfan fyd-eang.

 

Mae'n dod ag artistiaid o rannau eraill o'r byd. Deuir â doniau rhyfeddol i Gymru. A gallai hynny ymwneud ag edrych yn fwy tuag at Ewrop na Lloegr. Dod o hyd i gwmnïau y mae gan NTW gysylltiad â hwy. Cyfnewid artistiaid er mwyn eu datblygu.

 

Sioeau o Gymru sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol - pam y buont yn llwyddiannus?

Ai dim ond gwaith raddfa fach yr ydym yn gallu mynd â hi ar daith?

 

Dylem fynd ag artistiaid y tu allan i Gymru i greu gwaith rhywle arall. Allforio'r artistiaid a'u proses yn hytrach na'r cynnyrch.

 

Sut ydym ni'n / sut all NTW greu cyfle i artistiaid sefydledig drosglwyddo eu harbenigedd a gwybodaeth?

 

Artistiaid yng nghanol eu gyrfa. Sut allwn barhau i ddatblygu'r artistiaid hyn a hwyluso cyfnewid a sgwrs rhwng y lefelau profiad?

 

Yng Nghymru mae'n teimlo nad oes ffydd mewn artistiaid i greu sdwff y tu hwnt i waith graddfa fach. Ar ran sefydliadau cyllido a sefydliadau cynhyrchu.

Galluogi artistiaid yng Nghymru i greu gwaith uchelgeisiol.

 

Y peth mwyaf cyffrous yr wyf wedi ymwneud ag ef o ran NTW oedd model a wahoddodd y gymuned i ddod â storïau i'w datblygu mewn gweithdy dramodi. Os ydym yn cynrychioli Cymru, ehangwch y sylfaen honno, dewch o hyd i syniadau cymunedau a rhowch berchnogaeth iddynt.

 

Pwynt gwerthu unigryw NTW yw cysylltiad â chymunedau. Mae gwahanu hynny'n ormodol rhag cynhyrchu'n ei ddiraddio, gan beri'r risg y bydd yr ymgysylltiad yn arwynebol neu'n docynistaidd.

 

Mae TEAM a NTW yn democrateiddio'r cymunedau a storïau a welir ar y llwyfan.

 

Ar eu gorau, mae corysau cymunedol yn fynegiad o berthynas iach â chynhwysiad.

 

Ystyriwch gynulleidfaoedd yn ogystal â'r rhai sy'n creu.

 

Mae theatrau cenedlaethol yn edrych yn wahanol. Mae NTW yn edrych fel y mae oherwydd ei bod yn cydnabod hanes hir cyfranogiad yng Nghymru. Rydym eisiau rhagoriaeth, uchelgais a chysylltiadau rhanbarthol. Ond crëwyd y cwmni ar y ffurf hon er mwyn peidio â gosod model mwy traddodiadol a hierarchaidd sydd eisoes yn bodoli rhywle arall a throsysgrifo traddodiad a hanes theatr a pherfformio yng Nghymru.

 

Mae angen i NTW barhau i fod yn arloesol a gweithio ar y bylchau. Dydw i ddim yn meddwl y dylai efelychu Sherman neu fynd â dramâu graddfa fach ar daith. Mae angen iddo fanteisio ar ei chryfderau, gwneud yr hyn y mae ganddi'r lleoliad, medrau ac adnoddau unigryw i'w wneud, yr hyn na all gwmnïau eraill ei wneud.

 

Ar un adeg roedd gwaith TYP a theithio'n gryf iawn yng Nghymru. Cwtogwyd ar y cwmnïau hynny, ble mae'r gwaith hwnnw?

 

Rwy'n credu bod e'n werth nodi nad oedd yr arian a ddefnyddiwyd er mwyn creu NTW wedi dod o neu ar draul cyllid celfyddydau a fu'n bodoli eisoes, roedd yn arian newydd ar gyfer y celfyddydau.

 

Cwestiwn i'r sector; ble mae'r cyfle ar gyfer artistiaid graddfa ganolig yng nghanol eu gyrfa?

 

Ai theatr genedlaethol yw'r lle iawn ar gyfer yr artistiaid hynny? Ble y byddant yn agored i graffu a chyfrifoldeb cynyddol.

 

Rhan o'r feirniadaeth o NTW oedd dod ag artistiaid gweddol i mewn o leoedd eraill. Mae'n rhaid i NTW ddangos ffydd mewn artistiaid o Gymru.

 

Ai rôl NTW ydyw ynteu rôl Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC)?

 

Mae'n rhaid bod gan NTW weledigaeth sy'n cynnwys ac yn datblygu artistiaid ar gyfer ei phrif lwyfannau.

 

Rwyf wedi tyfu i fyny ar garreg drws TGC a heb dderbyn unrhyw gefnogaeth ganddynt. Rwyf wedi cael fy natblygu ac fy annog gan NTW. Nid yw'r holl sefydliadau cenedlaethol yn cael eu craffu'n gyfartal.

 

Gan i NTW ddechrau gyda safbwynt ar gynhwysiad, nhw sy'n cael eu craffu. Beth yw cynllun TGC ar gyfer dyfodol theatr yng Nghymru a theatr Gymraeg gynaliadwy?

 

Mae TGC yn datblygu dramodwyr ond mae'n wir dweud y craffir NTW yn fanylach gan y bu pobl mor gyffrous a gobeithiol wrth iddi ddechrau.

 

Mae safon artistiaid yn oddrychol wrth gwrs. Crybwyllwyd yn gynharach bod Rimni Protokol o safon fyd-eang ac mae ganddynt enw gwych ond yn fy mhrofiad i o weithio gyda nhw nid oeddent yn barod iawn i gydweithio, ni wnaethant adael i gydweithwyr yma gyrchu eu proses mewn ffordd ddiffuant a chynhyrchiol, mewn cyferbyniad roedd Louise Wallwein yn barod iawn i gydweithio.

Nid yw'r feirniadaeth o'r cwmni yn feirniadaeth dim ond o'r ffaith nad yw NTW yn gwneud dramâu.

Mae llawer o bobl nad ydynt yn gwybod am y gwaith gwych y mae NTW yn ei wneud. Erbyn 2029, proffil uwch.

Nid yw £1.7m yn ddigon o arian. Byddai'n wych i'r cwmni gael mwy o adnoddau. Creu syniadau mwy a mwy masnachol. Cynyrchiadau o safon fyd-eang sy'n cael eu gweld gan lawer o bobl.

 Gwerthu Cymru y tu allan i Gymru.

Safbwynt NTS: Mae cyllid NTW yn sylweddol is na'r cwmnïau cenedlaethol eraill. Codir cwestiwn ynglŷn â chynaladwyedd ac i ba raddau y gellir/dylid ystyried ei bod yn fusnes.

O ystyried y cyd-destun dwi'n cymryd mai ystyr gwrthgyferbyniol trendi 'sick' yw hwn.... Teimlo bod e'n well jest amlygu fe rhag ofn.

Views: 67

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service