GALWAD AM ACTORION – RED! / CASTING CALL – RED! / Paid Equity Min - Co-Production WMC

https://www.likelystory.org.uk/casting-red

GALWAD AM ACTORION – RED 

Rydyn ni'n chwilio am berfformiwr am ddau wythnos o Ymchwil a Datblygu, ac am saith wythnos ar gyfer y cynhyrchiad. Ar gyfer ymchwil a datblygu yn unig y bydd y castio cychwynnol, ond mae'n rhaid i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau a nodir isod.  

Gwaith newydd ar gyfer cynulleidfa ifanc yw RED, wedi'i gyd-gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Likely Story. Mae RED wedi'i ysbrydoli gan chwedl glasurol yr Hugan Fach Goch.  

Dyma'r Hugan Fach Goch, sydd ddim mor fach bellach. Mae hi'n Nain erbyn hyn, a dyma stori Grandma RED. 

Bydd y cynhyrchiad newydd yma'n antur hudol a grymusol sy'n archwilio themâu cydsyniad, grym a hunaniaeth. 

Bydd y gwaith ymchwil a datblygu yn rhan o broses ddatblygu ar gyfer cynhyrchiad newydd adeg Nadolig 2019, wedi'i gyd-gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Likely Story. Hazel Anderson ac Ellen Groves fydd yn arwain y Tîm Creadigol. 

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn:  

  • sy'n berfformiwr amryddawn gyda phrofiad dyfeisio 

  • sy'n gallu chwarae gyda chymeriad a cherddoroldeb 

  • sy'n arddel hunaniaeth wrywaidd 

  • i chwarae cymeriad 30 oed neu'n hŷn 

  • sy'n brofiadol, yn meddu ar sgiliau byrfyfyrio cryf, ac sydd â hyfforddiant/profiad mewn theatr gorfforol, symud a chlownio 

Dymunol: 

  • Profiad â phypedau 

  • Hwylusydd gweithdai 

Dyddiadau clyweliad:  

Dydd Gwener 7 Mehefin, Caerdydd a Dydd Mercher 12 Mehefin, Llundain 

Dyddiadau Contract: 

Dyddiadau ymchwil a datblygu: 13 – 17 Gorffennaf 2019 a 22 – 26 Gorffennaf 2019 

Ymarferion: 18 Tachwedd – 7 Rhagfyr 2019 

Wythnos Dechnegol a Rhag-ddangosiadau: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 

Perfformiadau: 16 – 29 Rhagfyr (ni fydd sioeau ar ddiwrnod Nadolig nac ar Ŵyl San Steffan) 

Lleoliad: Caerdydd  

Ffi: £485.00 yr wythnos, contract safonol UK Theatre/Equity MRSL 2 gyda chostau adleoli ar gyfer artistiaid nad ydynt yn byw yng Nghymru 

Anfonwch CV at elin.meredydd@wmc.org.uk erbyn 12pm 31 Mai 

Gwnaed y cynhyrchiad yma'n bosib drwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru 

CASTING CALL – RED 

We are looking for a performer for two-weeks Research & Development and for 7 weeks production. This initial casting is for R&D only but you must be available for all the dates detailed below.  

RED is a new work for young audiences co-produced by Wales Millennium Centre and Likely Story. RED takes inspiration from the classic tale of Little Red Riding Hood.  

Meet Little Red Riding Hood, Not so little anymore. Now a Grandma herself, this is the story of Grandma RED. 

This new production will be an empowering magical adventure exploring the themes of consent, power and identity. 

The R&D is part of the development process for a new production for Christmas 2019 co-produced by Wales Millennium Centre and Likely Story. The Creative Team is led by Hazel Anderson and Ellen Groves. 

We are looking for:  

  • Versatile performers with devising experience 

  • Ability to play with character and musicality 

  • Identify as Male 

  • Playing age 30 plus 

  • Experienced and strong improviser with training/experience in physical theatre, movement and clown 

Desirable: 

  • Puppetry experience 

  • Workshop facilitator 

Audition dates:  

Friday 7 June, Cardiff and Wednesday 12 June, London 

Contract Dates: 

R&D Dates: 13 July – 17 July 2019 and 22 – 26 July 2019 

Rehearsals: 11 November – 7 December 2019 

Tech Week and Previews: Week commencing 9 December 

Performances: 16 – 29 December (no shows Christmas Day or Boxing Day) 

Location:  Cardiff  

Fee:  £485.00 per week, UK Theatre/Equity MRSL 2 standard contract with relocation costs for non-Wales based artists 

Please send a CV’s to elin.meredydd@wmc.org.uk by 12pm Friday 31st May 

This production has been made possible with the support of Arts Council Wales 

Views: 396

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service