Galwad am Feirdd! TEAM NTW gyda The Roundhouse a Voicebox Wrecsam

GALWAD AM FEIRDD!

RHAGRAS SLAM WRECSAM – PARTNERIAETH RHWNG

TEAM NTW gyda Voicebox A THE ROUNDHOUSE LLUNDAIN.

Yn un o uchafbwyntiau calendr y Roundhouse, mae'r 'Slam Barddoniaeth' yn ôl. Nawr yn ei 14eg flwyddyn, mae'r slam yn cynnig cyfle i feirdd ifanc, 18-25, o bob cwr o'r DU gystadlu am deitl Pencampwr y Slam wedi'i gynnal yn eu prif ofod ynghyd â gwobr gyntaf o £500. Eleni, rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r rhagras gyntaf yn Wrecsam, a gynhelir ar y cyd rhwng Roundhouse a TEAM NTW gyda Voicebox.

Does dim byd tebyg i Rownd Derfynol Slam Roundhouse; awyrgylch o ddisgwyliad ac anogaeth yn erbyn cefnlen Prif Ofod chwedlonol Roundhouse. A allech chi fod yn un o'n deg yn y rownd derfynol eleni? Mae'r beirniaid yn cynnwys y bardd enwog Anthony Anaxagorou, a hefyd ar ôl newydd orffen taith orlawn ryngwladol o'r sioe hynod boblogaidd Burgerz, byddwn yn croesawu Travis Alabanza. Mwy o gyfranogwyr i'w cyhoeddi yn fuan!

Bydd y Roundhouse hefyd yn cynnal rhagrasys yn Hull mewn partneriaeth â Hull Truck Theatre a byddant yn dychwelyd i Gaerloyw gydag Ymddiriedolaeth Diwylliant Caerloyw a Strike a Light.  Mae TEAM NTW yn llawn cyffro i fod yn bartner mwyaf newydd Roundhouse eleni, gan gwmpasu'r holl dalent farddoniaeth anhygoel yn Wrecsam! Cefnogir Slam Barddoniaeth The Roundhouse yn hael gan Colin a Helen David.

SUT MAE'N GWEITHIO:

  1. Anfonwch glip byr atom ohonoch yn perfformio un neu ddwy o'ch cerddi

2          Ysgrifennwch ddisgrifiad byr yn dweud wrthym am eich barddoniaeth a'ch angerdd am ysgrifennu ac anfonwch eich cais atom ni yn team@nationaltheatrewales.org

  1. Mae croeso i chi wneud cais yn Gymraeg, Saesneg neu'r iaith o'ch dewis.
  2. Byddwn yn gwahodd rhestr fer i berfformio yn y rhagras gyntaf yn Ty Pawb yn Wrecsam, gyda'r union ddyddiad i'w gadarnhau

Bydd rownd derfynol y Slam barddoniaeth yn cael ei chynnal yn Llundain yn y Roundhouse ar 28ain Mai 2020 a bydd angen i chi fod ar gael o 4pm ar y diwrnod. Bydd yr holl deithio a llety yn cael ei dalu drosoch.

Sut fyddaf yn elwa o gymryd rhan?

  • Byddwch wedi arddangos eich talent o flaen cynulleidfaoedd mawr yn y rowndiau cynderfynol yn ein lleoliad 100 sedd y Sackler Space, lleoliadau rhanbarthol a Phrif Ofod Roundhouse os ydych yn cyrraedd y rownd derfynol.
  • Byddwch wedi gwneud cysylltiadau â'r diwydiant a rhwydweithio gyda chyfoedion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gair llafar.
  • Byddwch wedi cael y cyfle i gystadlu am deitl Pencampwr y Slam ac ennill £500 am ddod yn gyntaf, £400 am yr ail safle, a £300 am ddod yn drydydd, a £300 am bleidlais y gynulleidfa.
  • Bydd yr holl berfformiadau yn y rownd derfynol yn cael eu ffilmio'n broffesiynol a'u llwytho i sianel YouTube Roundhouse, sydd â dros 12,000 o danysgrifwyr. Mae fideos enillwyr blaenorol y Slam barddoniaeth wedi cael eu gwylio hyd at 100,000 o weithiau.

Pwy yw'r beirniaid?

Bydd y beirniaid yn banel o arbenigwyr o'r diwydiant, gan gynnwys cynhyrchwyr ac artistiaid gair llafar proffesiynol.

A oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad penodol arnaf i gymryd rhan?

Dylai fod gennych rywfaint o brofiad o ysgrifennu barddoniaeth a pherfformio a bod yn barod i gystadlu ar lefel uchel. Byddwch yn cael eich mentora drwy gydol y broses ond dylech fod yn hyderus ac yn barod i berfformio eich gwaith o flaen cynulleidfa.

Rydym yn cynnal gweithdy paratoi ar gyfer y Slam i roi sesiwn loywi i chi ar sut mae'r Slam yn gweithio a'ch paratoi i gystadlu!

Bydd Gweithdy Ysgrifennu ar gyfer Slam ar ddydd Mercher 22ain Ebrill 2020, 6-8pm yn Hwb Menter Wrecsam, bydd Gweithdy Perfformio ar gyfer Slam ar ddydd Sadwrn 2 Mai 2020 10am-12pm yn Hwb Menter Wrecsam gyda Stephanie Finegan.

 

 

Views: 80

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service