Mae canolfannau celfyddydau tair Prifysgol yng Nghymru - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Celfyddydau Pontio a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin yn cyd-weithio am y tro cyntaf ar brosiect gwbwl unigryw.
Bydd y gwaith ar draws cymunedau yng Nghanolbarth Cymru, Gogledd Orllewin Cymru ac Abertawe a’r cyffiniau. Bydd y prosiect yn archwilio diwylliant, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Trwy broses o weithdai ar draws disgyblaethau artistig, daw cyfranogwyr (myfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned) at ei gilydd i gyfnewid syniadau mewn cysylltiad â’r thema ‘Cartref a Chynefin a all arwain at ddigwyddiad celfyddydol y gellir ei gyflwyno i gynulleidfaoedd mewn amryw o ffyrdd.
Rydym yn edrych am Artist Arweiniol a Chynhyrchydd Arweiniol i ymuno â ni ar y prosiect cyffrous hwn.
Mae mwy o wybodaeth: https://www.taliesinartscentre.co.uk/cy/blog?id=40
Ffi’r artist - £10,000 (yn cynnwys TAW)
Ffi’r cynhyrchydd - £10,000 (yn cynnwys TAW)
Cyfnod y prosiect - Ebrill 2021 - Mawrth 2022
Dyddiadau gwireddu’r prosiect - Medi 2021 - Chwefror 2022
Dyddiad cau i fynegi diddordeb - Canol dydd, Dydd Llun 15 Mawrth 2021
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community