Yn A Comedy, mae chwech ddieithriaid yn casglu er mwyn wynebu’r dasg o greu ‘Lawlyfr Hiwmor’. Bu personoliaethau unigryw, direidus a dadleuol yn gwrthdaro wrth iddyn nhw archwilio natur hiwmor mewn byd wedi COFID o sensitifrwydd a ‘cancel-culture’. 

Yng ngham hon o’r prosiect, bydd y grŵp amrywiol o berfformwyr yn dyfeisio’r Y+D heriol yma sy’n gofyn i ni ystyried beth sy’n ddoniol y dyddiau yma...a beth sydd ddim!

Bydd y Dramatwrg yn rhan hanfodol o’r Y+D, yn bresennol yn ddau gam y proses dyfeisio ac yn rhan o strwythuro a pharatoi’i deunyddiau ar gyfer y cyflwyniad terfynol. Bydd dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill yn gynnwys:

- Gweinyddiaeth ac ymchwil o waith creadigol gyda Chydlynydd y prosiect.
- I ddarganfod cynulleidfaoedd posib gyda’r Cynhyrchydd.
- I weithio gydag aelodau gwahanol o’r tîm yn uniongyrchol.
- Mynychu dau gyfarfod/gweithdy digidol.
- I gyflwyno dealltwriaeth ac angerdd am gomedi, hygyrchedd ac ymgynghorith.
- Mae synnwyr digrifwch yn hanfodol.

Galwad agored yw hyn ac felly rydym yn awyddus iawn i glywed gan ymgeiswyr gyda nodweddion gwarchodedig neu yn dod o gymdeithasau heb gynrychiolaeth ddigonol. Oherwydd natur y prosiect, gell elfennau o’r themâu bod yn ‘triggering’.

Cytundeb: 30 diwrnod rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2022
Ffi: £3,600 (+ treuliau, fel mae angen)

Dyddiadau Allweddol
Dydd Llun 10fed - Dydd Gwener 21ain Ionawr 2022 (10 diwrnod) yng Nghasnewydd, de Cymru
Dydd Llun 7fed - Dydd Gwener 18fed Mawrth 2022 (10 diwrnod) yng Nghasnewydd, de Cymru
+10 diwrnod ychwanegol i gytuno gyda’r Cynhyrchydd a’r Cydlynydd.

Oherwydd cyfuniadau cyllid, bydd bas o fewn 30 milltir yn ddelfrydol, ond gell trafod hyn gyda’r ymgeisydd.

Os oes diddordeb gennoch, gell cynnig dogfen yn amlinellu’ch profiad a diddordeb yn y swydd. Gell hyn fod yn ffyrdd ysgrifenedig, sain neu fideo, a chell ddanfon hyn i acomedy2022@gmail.com. Byddwn yn wahodd ymgeisiadau llwyddianus am sgwrs anffurfiol dros Zoom wythnos yr 22ain Tachwedd. 

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 12fed Tachwedd 2021, 5pm

Cefnogwyd y prosiect yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Carne Trust, ac wedi’i chefnogi gan Tin Shed Theatre Co a Disability Arts Cymru.

Views: 26

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service