Mae gennym ni’n dramâu byrion gan awduron dawnus....mae gennym ni geisiadau gan gyfarwyddwyr talentog...felly mae'n amser ddarn olaf ein jig-sô lliwgar Nadolgaidd sef ffeindio ACTORION campus!. Bydd y perfformiad ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Ragfyr a'r ymarferion yn cael eu trefnu gan ddibynnu ar argaeledd o flaen llaw.
Y tro yma rydym ni’n edrych am actorion benywaidd A gwrywaidd- os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’n noson o theatr newydd Nadoligaidd MILKshake & Cookies, yna danfonwch eich CV/dolen Spotlight gyda headshot diweddar i: spiltmilktheatre@gmail.com
Yr amser cau ar gyfer ceisiadau yw 6yh ar Nos Fercher y 22ain o Dachwedd.
Helpwch ni i ddod â'r craceri yma'n fyw!
#Actorion #Castio #Ceisiadau #Theatr #Caerdydd
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community