Croesi Traeth | Crossing A Beach
21.00 01/07/2017
14.30 02/07/2017
Cyrchfan: Maes parcio, Min-y-Don, Ffordd Glan Môr, Harlech
Daeth cwsg i gloi fy llygaid ar y traeth
A chrwydrais wlad ryfeddol wedyn
Perfformiad dawns ar draeth Harlech
Daeth y ddawnswraig Margaret Morris i Harlech ym 1919 er mwyn cynnal ysgol haf. Ym myd y freuddwyd ar y traeth, ymuna griw arall gyda hi, ac yn eu plith mae’r cyfarwyddwr ffilm Roman Polanski, a saethodd Macbeth ar draeth Morfa Bychan; ymgyrchwyr Meibion Glyndŵr; yr archangel Mihangel a gofodwyr eraill; ac Ellis Wynne, y Bardd Cwsc ei hun.
O’ch lle ar y tywod, cewch weled byd newydd, gyda chymorth clustffonau ac…ysbienddrych.
Cyrhaeddwch o leiaf 15 munud cyn i’r sioe ddechre os gwelwch yn dda – fe fydd yn cychwyn yn brydlon. Perfformir y sioear y traeth yn yr awyr iach ac mae’n daith gerdded fer o’r maes parcio ato ac yn ôl (ar lwybrau ac ar dywod, rhyw 500m I gyd). Gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol. Rydyn yn cadw’r hawl i ganslo’r sioe os nad yw’r tywydd yn dda.
Mae’r sioe yn Gymraeg a Saesneg.
Noddir gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Ty Cerdd, Cronfa Partneriaeth Eryri, Theatr Ardudwy a Gŵyl Gregynog.
RSVP for Croesi Traeth/ Crossing A Beach to add comments!
Join National Theatre Wales Community