Os na gafoch chi gyfle i weld ein trafodaeth ni yng Ngŵyl y Gelli ar ddydd Sul, mae na grynodeb hyfryd a flog Michael Billington.

Trafodaeth ddiddorol iawn, er gwaetha'r sawl newid safle (wel, o leia mae e'n gweddu at gwmni di-gartref fel ni).

Roedd Michael Billington, fel cadeirydd, yn onest iawn am gyn lleiad roedd o'n gwybod nid yn unig am theatr yn Nghymru, ond am Gymru yn gyffredinol.

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi bod yn y Bermo tan i Marc Rees roi guided tour eitha trylwyr i mi'n ddiweddar, a nawr mae gen i gywilydd.

Yr ymateb dwi'n cael yn aml gan bobl, pan fydda i'n egluro lle fydd ein cynhyrchiad nesaf ni, yw "O, dwi wedi gyrru heibio, ond heb alw mewn."

Sut gall tre mor hardd, mor llawn cymeriad a hanes rhyfeddol fod mor gudd? "Gall For Mountain, Sand & Sea fyth gael ei berfformio unrhyw le arall," ddwedodd Marc ar ddydd Sul. "Mae e'n gwbl unigryw i'r Bermo."

Mae'n gyffrous iawn i mi i feddwl mod i - a'r cwmni - yn dod i nabod ein milltir sgwâr yn well, yn union fel ydyn ni wrth Eisteddfota. Mae'r broses yn dod a'r tlysau mwyaf annisgwyl i'r amlwg.

Views: 155

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service